Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2005/1158 (Cymru)

2005Rhif 1158 (Cy.75)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005

12 Ebrill 2005

30 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi( 1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972( 2) mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol -

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2005.

(2) Yn y Rheoliadau hyn -

mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yr ystyr sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau canlynol -

(a) Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC (ynghylch gwiriadau milfeddygol a sootechnegol sy'n gymwys i fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion penodol gyda golwg ar gwblhau'r farchnad sengl)( 3); a(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd)( 4),

y mae'r ddwy ohonynt wedi'u diwygio gan y ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;

ystyr "arolygydd" ("inspector") yw person a benodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu awdurdod lleol, a phan fo'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas â pherson sydd wedi'i benodi felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr "arolygydd milfeddygol" ("veterinary inspector") yw person a benodwyd yn arolygydd milfeddygol gan y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

ystyr "buches", "cenfaint", "geifre" a "gre" ("herd") neu "diadell" neu "haid" ("flock") yw grw o anifeiliaid sy'n cael eu cadw fel uned epidemiolegol;

ystyr "canolfan gynnull" ("assembly centre") yw daliadau, canolfannau casglu a marchnadoedd lle mae gwartheg, moch, defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi anifeiliaid sydd wedi'u bwriadu ar gyfer masnach ryng-Gymunedol neu sy'n cael eu defnyddio wrth gynnal masnach ryng-Gymunedol, ac sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "cyrchfan" ("place of destination") yw'r cyfeiriad neu'r cyfeiriadau y mae'r llwyth yn cael ei draddodi iddo neu iddynt gan y traddodwr;

ystyr "dogfennau traddodi gofynnol" ("required consignment documentation") yw unrhyw dystysgrifau neu ddogfennau eraill y mae'n ofynnol iddynt fynd gyda'r llwyth o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr "masnachwr" ("dealer") -

(a) yn achos gwartheg neu foch, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant rheolaidd o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 30 niwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni; a(b) yn achos defaid neu eifr, yw unrhyw berson sy'n prynu a gwerthu anifeiliaid yn fasnachol naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, y mae ganddo drosiant o'r anifeiliaid hynny ac sydd o fewn 29 diwrnod i brynu anifeiliaid yn eu hailwerthu neu'n eu symud i fangre arall nad yw'n berchennog arni neu'n uniongyrchol i ladd-dy nad yw'n berchennog arno;

ystyr "offerynnau rhyngwladol Ewropeaidd" ("European international instruments") yw -

(a) Act Ymaelodi â'r Cymunedau Ewropeaidd gan Deyrnas Denmarc, Iwerddon, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon( 5);(b) y Penderfyniad ar gwblhau'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a wnaed rhwng y Cymunedau Ewropeaidd, eu Haelod-wladwriaethau a Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy, Teyrnas Sweden, a Chydffederasiwn y Swistir( 6);(c) yr Act ynghylch amodau ymaelodi Teyrnas Norwy, Gweriniaeth Awstria, Gweriniaeth y Ffindir a Theyrnas Sweden a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt( 7);(ch) yr Act ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt( 8); ac

ystyr "safle arolygu ar y ffin" ("border inspection post"), mewn perthynas â rhywogaeth anifail, yw man a bennir mewn perthynas â'r rhywogaeth honno yn Atodlen 2.

(3) Rhaid i hysbysiadau, cymeradwyaethau neu ddatganiadau o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig. Caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a'u diwygio, eu hatal neu eu dirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

Eithrio

2. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wiriadau milfeddygol ar symudiadau anifeiliaid anwes (ac eithrio equidae) y mae person naturiol yn mynd gyda hwy ac yn gyfrifol drostynt, pan nad yw'r symudiadau hynny yn destun trafodiad masnachol.

(2) Pan fo unrhyw berson yn mynd gyda mwy na phum anifail anwes sy'n teithio gyda'i gilydd ac yntau'n gyfrifol drostynt a bod yr anifeiliaid hynny -

(a) yn perthyn bob un i rywogaeth a restrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 998/2003( 9); a(b) yn dod o drydedd wlad nad yw'n un o'r rhai a restrir yn adran 2 o ran B o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 998/2003,

mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwiriadau milfeddygol ar symudiadau'r anifeiliaid hynny, er gwaethaf y ffaith nad yw eu symud yn destun trafodiad masnachol.

Gorfodi

3. - (1) Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).

RHAN 2

Masnach Ryng-Gymunedol

Cymhwyso Rhan 2

4. Mae'r Rhan hon yn gymwys i'r fasnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i offeryn yn Rhan I o Atodlen 3, ac eithrio cynhyrchion dyframaethu ar gyfer eu bwyta gan bobl sy'n cael eu rheoli gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (ynghylch yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu rhoi ar y farchnad anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu)( 10).

Allforion

5. - (1) Rhaid i berson beidio ag allforio na thraddodi i'w allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid sy'n cael ei reoli o dan un neu fwy o'r offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 oni bai -

(a) ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol yr offerynnau hynny (gan gynnwys unrhyw ddewis sydd wedi'i wneud gan Aelod-wladwriaeth y gyrchfan), ac unrhyw ofynion ychwanegol a bennir yn y Rhan honno;(b) pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod un o'r canlynol yn mynd gydag ef - (i) tystsgrif iechyd allforio sydd wedi'i llofnodi gan arolygydd milfeddygol (neu, pan fo hynny wedi'i bennu mewn offeryn, wedi'i llofnodi gan filfeddyg a enwyd gan yr allforiwr); neu(ii) unrhyw ddogfen arall sy'n ofynnol o dan yr offeryn;(c) pan fo'n ofynnol o dan offeryn o'r fath, bod unrhyw hysbysiad o glefyd ar y daliad y mae'r anifail wedi'i draddodi ohono wedi'i roi o fewn yr amser ac yn y modd a bennwyd (os o gwbl) yn yr offeryn; ac(ch) os cafwyd yr anifail drwy ganolfan gynnull neu os yw'n teithio drwy ganolfan o'r fath, bod y ganolfan honno wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 12 at ddibenion masnach ryng-Gymunedol ac yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 11 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC( 11).

(2) Os oes gan arolygydd le rhesymol i gredu bod person yn bwriadu allforio anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn groes i'r rheoliad hwn, caiff yr arolygydd wahardd yr allforio hwnnw drwy hysbysiad a gyflwynir i'r traddodwr, ei gynrychiolydd neu'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod â gofal dros yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid, a chaiff ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gymryd yr anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid i unrhyw fan a bennir yn yr hysbysiad a chymryd unrhyw gamau pellach a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â hwy.

(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2), caiff arolygydd atafaelu unrhyw anifail neu gynnyrch anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

(4) Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw anifail y mae darpariaethau Erthyglau 6, 7, 9 neu 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, a mewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a bennir mewn rheolau penodol gan y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(1) i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC)( 12) yn gymwys oni bai yr anifail yn tarddu -

(a) o ddaliad sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a bod perchennog y daliad hwnnw neu'r person sydd â gofal dros y daliad hwnnw wedi rhoi ymrwymiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC; neu(b) o gorff neu sefydliad sydd wedi'i gymeradwyo neu ganolfan sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 9(1) ac sy'n cydymffurfio â gofynion Atodiad C i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC.

(5) Rhaid i berson beidio ag allforio i Aelod-wladwriaeth arall unrhyw wyau deor, cywion diwrnod-oed na dofednod y mae Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT