Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005
Cited as: | SI 2005/1514 |
Jurisdiction: | UK Non-devolved |
2005Rhif 1514 (Cy.118)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005
7 Mehefin 2005
30 Rhagfyr 2005
RHAN 1
CYFFREDINOL
1. |
Enwi, cychwyn a dehongli |
2. |
Gwasanaethau cymorth mabwysiadu |
3. |
Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant |
4. |
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant |
RHAN 2
DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR
5. |
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig |
6. |
Penodi rheolwr |
7. |
Ffitrwydd y rheolwr |
8. |
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol |
9. |
Hysbysu tramgwyddau |
RHAN 3
CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU
10. |
Cymhwysiad y darpariaethau |
11. |
Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol |
12. |
Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad gwybodaeth etc. |
13. |
Feto gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas |
14. |
Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cais am gydsyniad y cael ei wrthod etc |
15. |
Cwnsela |
RHAN 4
DULL RHEOLI ASIANTAETHAU
16. |
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant |
17. |
Darparu gwasanaethau |
18. |
Cofnodion yngly>n â gwasanaethau |
19. |
Cwynion |
20. |
Cwynion - gofynion pellach |
21. |
Staffio'r asiantaeth |
22. |
Ffitrwydd y gweithwyr |
23. |
Cyflogi staff |
24. |
Gweithdrefn disgyblu staff |
25. |
Cofnodion ynglyn â staff |
26. |
Ffitrwydd y fangre |
RHAN 5
MATERION AMRYWIOL
27. |
Digwyddiadau hysbysadwy |
28. |
Y sefyllfa ariannol |
29. |
Hysbysu absenoldeb |
30. |
Hysbysu newidiadau |
31. |
Penodi datodwyr etc. |
32. |
Tramgwyddau |
33. |
Cydymffurfio â rheoliadau |
34. |
Diwygiadau |
35. |
Darpariaethau trosiannol |
YR ATODLENNI
1. |
Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y Datganiad o Ddiben |
2. |
Yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth |
3. |
Y cofnodion sydd i'w cadw ynghylch pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth |
4. |
Digwyddiadau a hysbysiadau |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b), 9(1)(b) a (3), 10(1), (3) a (4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ( 1) ac adrannau 22 25(1), 34(1), 35(1) a 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ( 2) a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a dehongli
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000( 3);
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002( 4);
mae "gwasanaethau cymorth mabwysiadu" ("adoption support services") i'w ddehongli yn unol â rheoliad 2(2);
ystyr "plentyn mabwysiadol" ("adoptive child") yw plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr "Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)" ("the Adoption Agencies (Wales) Regulations") yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005( 5);
ystyr "rhiant mabwysiadol" ("adoptive parent") yw person:
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;(c) sydd wedi hysbysu, o dan adran 44 o Ddeddf 2002, o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn;(ch) sydd wedi mabwysiadu plentyn; neu(d) sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny;ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.
(4) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "asiantaeth" ("agency") yw asiantaeth cymorth mabwysiadu;
ystyr "awdurdod cofrestru" ("registration authority") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforaethol;
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;
ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr "bank holiday" yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971( 6);
ystyr "gwrthrych" ("subject"), o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) yw person y mae'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth yn ceisio cysylltu ag ef neu'n ceisio gwybodaeth amdano;
ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), o ran asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth honno;
ystyr "person perthynol" ("related person") yw -
(a) perthynas o fewn ystyr "relative" yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas sydd ym marn yr awdurdod lleol yn fanteisiol i les y plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;ystyr "plentyn" ("child") yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
ystyr "plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth" ("agency adoptive child") yw plentyn -
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu amdano yn unol â rheoliad 19(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) ei fod yn blentyn y dylid ei leoli i'w fabwysiadu;(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu(c) sydd wedi'i fabwysiadu ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;ystyr "plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth" ("non-agency adoptive child") yw plentyn -
(a) y mae person - (i) wedi hysbysu am y plentyn hwnnw o'i fwriad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a(ii) yn berson nad yw'n rhiant naturiol nac yn llys-riant i'r plentyn; neu(b) sydd wedi'i fabwysiadu gan berson - (i) nad yw'n rhiant naturiol y plentyn; a(ii) nad oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentynond nad yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth; a
rhaid dehongli "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 5(2).
(5) Yn y Rheoliadau hyn -
(a) mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol o ran y person hwnnw;(b) mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol o ran y plentyn hwnnw;(c) mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu - (i) yn gyfeiriadau at y plentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;(ii) yn cynnwys, pan fo'r plentyn wedi'i leoli gyda pherson gan asiantaeth fabwysiadu, gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd;(ch) mae unrhyw gyfeiriad at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person boed am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu
2. - (1) Ni chaniateir i unrhyw gais am gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 gael ei wneud o ran asiantaeth cymorth mabwysiadu sy'n gorff anghorfforedig.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn ac adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffiniad o "adoption support services"), mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u rhagnodi -
(a) cymorth i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol, neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol;(b) gwasanaethau y gellir eu darparu mewn cysylltiad ag anghenion therapiwtig y plentyn o ran y mabwysiadu hwnnw;(c) cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'r rhiant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn ac sy'n codi o'r mabwysiad hwnnw;(ch) cymorth pan fo tarfu ar drefniant mabwysiadu neu leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd, gan gynnwys:(i) cyfryngu; a(ii) trefnu a rhedeg cyfarfodydd i drafod achosion tarfu ar fabwysiadu neu leoli;(d) cymorth i bersonau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth ynglyn â'u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau;(dd) cymorth i berthnasau personau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed, i gael gwybodaeth ynglyn â'r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'r person a fabwysiadwyd.(3) At ddibenion Rheoliadau 2(2)(d) neu (dd) ystyr 'perthynas' yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas, i'r person a fabwysiadwyd.
Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
3. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn cysylltiad â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") a rhaid i hwnnw gynnwys datganiad ynglyn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r awdurdod cofrestru.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael ar gais i'w arolygu gan -
(a) unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth;(b) unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu sy'n gweithredu ar ran plentyn sy'n cael gwasanaethau o'r fath gan yr asiantaeth;(c) unrhyw berson sy'n holi ar ei ran ei hun neu ar ran plentyn am gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;(ch) unrhyw awdurdod lleol.(4) Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu...
To continue reading
Request your trial