Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2006/2802 (Cymru)
Year2006

2006Rhif 2802 (Cy.241)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006

17 Hydref 2006

25 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ar ôl iddo ymghynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, y cyrff neu'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach yn eu trefn y mae o'r farn eu bod yn briodol a'r cyrff a'r personau eraill hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ("y Ddeddf") 1, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o'r Ddeddf ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol 2

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2006.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000

2.-

(1) Diwygier Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 3 fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 32 (tramgwyddau) 4-

(a) yn lle "£20,000" rhodder "£50,000"; a(b) yn lle "six months" rhodder "12 months".

(3) Diwygier Rhan 1 o Atodlen 1 (Gweithgareddau, Gosodiadau a Chyfarpar Symudol) fel a ganlyn-

(a) Yn Rhan B o Adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro)-(i) yn lle'r atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (d) rhodder hanner colon ac ychwaneger y paragraffau canlynol-(e) motor vehicle refuelling activities at existing service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months commencing on or after 1st January 2007 is, or it is likely to be, 3500mδ or more;(f) motor vehicle refuelling activities at new service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months is likely to be 500mδ or more.

,

(ii) o dan y pennawd "Interpretation of Part B", ym mharagraff 1 ar ôl y geiriau "In this Part", mewnosoder-

"existing service station" means a service station-

(a) which is put into operation; or(b) for which planning permission under the Town and Country Planning Act 1990 5 was granted,

before 31 December 2009

; ac

(iii) o dan y pennawd "Interpretation of Part B", ym mharagraff 1 o flaen y diffiniad o "petrol", mewnosoder-

"new service station" means a service station which is put into operation on or after 31st December 2009...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT