Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/1361 (Cymru)
Year2001

2001Rhif 1361 (Cy. 89)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001

27 Mawrth 2001

1 Mai 2001

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "adwerthu" ("sell by retail") yw gwerthu i berson sy'n prynu heblaw ar gyfer ailwerthu;

ystyr "Darpariaeth gymunedol" ("Community Provision") yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth atodol y cyfeirir ati yng ngholofn 2 gyferbyn â'r cyfeiriad yng ngholofn 1;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "Cytundeb yr EEA" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd( 3) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol( 4) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr "fitamin A" ("vitamin A") yw fitamin A sydd yn bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenoidau actif biolegol eraill yn hafal i 1 microgram o sylwedd sy'n gyfwerth â retinol;

ystyr "fitamin D" ("vitamin D") yw'r fitaminau gwrthlechog;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddiannu i werthu, a chynnig, amlygu neu hysbysebu i werthu;

ystyr "Gwladwriaeth EEA" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio Cytundeb yr EEA;

ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97( 5) sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1278/97( 6) ), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2181/97( 7), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 623/98( 8) ), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1298/98( 9), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2521/98( 10) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999( 11);

ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94( 12) ) sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy.

(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.

Esemptiadau

3. - (1) Ac eithrio lle mae paragraff (2) isod yn gymwys, oni bai a hyd nes y ceir penderfyniad gan Gyd-bwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o'r Cytundeb EEA i'w diwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac -

(a) a ddygir i Gymru - (i) o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw Aelod-wladwriaeth) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi, neu(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig os dygwyd y braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth EEA o'r fath; a(b) sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y braster taenadwy.

(2) Ni fydd Rheoliad 4 o'r Rheoliadau...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT