Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/2939 (Cymru)

2002Rhif 2939 (Cy.280)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002

27 Tachwedd 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), mae'r Cynulliad Cenedlaethol ac yntau wedi parchu, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn ogystal â sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddedddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

(2) Daw rheoliadau 1, 5 a 10, a rheoliad 2 a rheoliadau 6 i 9 i'r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 5, i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym -

(a) ar 31 Rhagfyr 2002 mewn perthynas â bwyd L-tryptoffan; a(b) mewn unrhyw achos arall ar 1 Ebrill 2004.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "bwyd DMN" ("PNU food") yw bwyd at ddefnydd maethol neilltuol -

(a) y mae, oherwydd ei gyfansoddiad arbennig neu y broses o'i gynhyrchu, gwahaniaeth amlwg rhyngddo â bwyd a fwriadwyd i'w fwyta'n arferfol, a(b) sy'n cael ei werthu mewn modd sy'n dangos a ydyw'n addas ar gyfer y diben maethol penodol honedig;

ystyr "bwyd DMN dynodedig" ("designated PNU food") yw unrhyw fwyd DMN heblaw am fformwlâu babanod, fformwlâu dilyn ymlaen, bwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod a fwriadwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc;

ystyr "bwyd L-tryptoffan" ("L-tryptophan food") yw unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae L-tryptoffan, neu unrhyw un o'i halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid, wedi'i ychwanegu ato at ddiben maethol penodol;

ystyr "Cyfarwyddeb 89/398" ("Directive 89/398") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/398/EEC( 4) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â bwydydd a fwriadwyd at ddefnydd maethol neilltuol, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 1999/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor( 5);

ystyr "Cyfarwyddeb 2001/15" ("Directive 2001/15") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC( 6) (fel y'i cywiriwyd( 7) )) ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;

ystyr "defnydd maethol neilltuol" ("particular nutritional use") yw bodloni gofynion maethol neilltuol -

(a) rhai categorïau o bobl y mae eu prosesau treulio, neu eu metaboledd yn afreolus, neu(b) rhai categorïau o bobl y mae eu cyflwr seicolegol yn golygu ei bod o fudd iddynt fwyta, a hynny dan reolaeth, unrhyw sylwedd mewn bwyd, neu(c) babanod neu bobl ifanc sydd mewn iechyd da; ac

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu.

(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 89/398 neu 2001/15 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb dan sylw.

Cyfyngiadau ar werthu

3. - (1) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol oni bai bod y sylwedd hwnnw -

(a) yn cael ei restru o dan y categori hwnnw - (i) yn achos unrhyw fwyd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2; a(ii) mewn unrhyw achos arall, yn Atodlen 1; a(b) yn cydymffurfio â'r meini prawf perthnasol ar burdeb y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3).

(2) At ddibenion paragraff (1), y categorïau yw -

(a) fitaminau,(b) mwynau,(c) asidau amino,(ch) carnitin a thawrin,(d) niwcleotidau, a(dd) colin ac inositol.

(3) Y meini prawf perthnasol ar burdeb at ddibenion paragraff (1)(b) yw -

(a) y meini prawf ar burdeb, os o gwbl, a bennir gan ddeddfwriaeth y Gymuned at ddefnyddio'r sylwedd dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw am y rhai a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2001/15, neu(b) os nad oes meini prawf ar burdeb o'r fath, meini prawf ar burdeb a dderbynnir yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd dan sylw a argymhellir gan gyrff cenedlaethol.

(4) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu oni bai bod y bwyd hwnnw -

(a) yn ddiogel pan gaiff ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd (os o gwbl); a(b) yn bodloni gofynion maethol neilltuol y bobl y mae wedi'i fwriadu ar eu cyfer,

fel y caiff ei sefydlu gan ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol.

Gwirio rheoliad 3(4)

4. Bydd gweithgynhyrchydd neu, fel y digwydd, mewnforiwr bwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu yn cyflenwi'r canlynol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny -

(a) copi o'r gwaith gwyddonol a data sy'n sefydlu bod defnyddio'r sylwedd wrth gynhyrchu'r bwyd hwnnw yn creu bwyd sy'n bodloni'r meini prawf yn rheoliad 3(4), neu(b) os yw gwaith neu ddata o'r fath wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiad sydd ar gael yn rhwydd, cyfeiriad at y cyhoeddiad hwnnw.

Gofyniad i hysbysu

5. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, mewnforiwr unrhyw fwyd hysbysadwy werthu unrhyw fwyd o'r fath oni bai bod y gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr, o leiaf 3 mis cyn gosod bwyd o'r math hwnnw ar y farchnad yng Nghymru am y tro cyntaf, wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ysgrifenedig drwy anfon model o'r label sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y bwyd hwnnw a manylion am...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT