Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2006/1851 (Cymru) |
Year | 2006 |
2006Rhif 1851 (Cy.194)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006
11 Gorffennaf 2006
14 Gorffennaf 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 1 ac a freinir ynddo bellach 2, ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor 3, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.O ran y Rheoliadau hyn-
(a) eu henw yw Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006;(b) deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2006;(c) byddant yn gymwys o ran Cymru.Dehongli
2.Yn y Rheoliadau hyn-
mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr a roddir i (food authority) yn adran 5(1A) a 3(a) a (b) o'r Ddeddf;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" (port health authority) yw o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984 4, awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr "Cafa-cafa" (Kava-kava) yw planhigyn, neu unrhyw ran o blanhigyn neu ddarn o blanhigyn, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum;
mae i "cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau" yr un ystyr â (free circulation in member States) yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr "y Ddeddf" (the Act) yw Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "Gwladwriaeth AEE" (AEE State) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys
3.-
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson-
(a) gwerthu, neu(b) meddu ar gyfer gwerthu, neu gynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu(c) mewnforio i Gymru o wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys.(2) Ni fydd y gwaharddiad a osodir gan baragraff (1) yn gymwys os yw'r bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys yn cael ei fewnforio o Wladwriaeth AEE, os yw'r bwyd-
(a) yn tarddu o Wladwriaeth AEE, neu(b) yn tarddu y tu allan i Ardal Ewropeaidd Economaidd ond y mae mewn cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau,...
To continue reading
Request your trial