Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/324 (Cymru)
Year2002

2002Rhif 324 (Cy.37)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

12 Chwefror 2002

1 Ebrill 2002

TREFN Y RHEOLIADAU

RHAN I -

CYFFREDINOL

1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.

Dehongli

3.

Sefydliadau sydd wedi'u heithrio

4.

Datganiad o ddiben

5.

Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth

6.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth

RHAN II -

PERSONAU COFRESTREDIG

7.

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

8.

Penodi rheolwr

9.

Ffitrwydd y rheolwr cofrestredig

10.

Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol

11.

Hysbysu tramgwyddau

RHAN III -

RHEDEG CARTREFI

12.

Iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth

13.

Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles

14.

Asesu defnyddwyr gwasanaeth

15.

Cynllun defnyddiwr gwasanaeth

16.

Cyfleusterau a gwasanaethau

17.

Cofnodion

18.

Staffio

19.

Ffitrwydd y gweithwyr

20.

Cyfyngiadau ar weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth

21.

Barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal

22.

Gweithdrefn disgyblu'r staff

23.

Cwynion

RHAN IV -

SAFLEOEDD

24.

Ffitrwydd safleoedd

RHAN V -

RHEOLI

25.

Adolygu ansawdd y gofal

26.

Y sefyllfa ariannol

27.

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig

RHAN VI -

PLANT

28.

Cymhwyso'r Rhan hon

29.

Dehongli

30.

Datganiad o ddiben

31.

Y person cofrestredig

32.

Darpariaeth ar wahân ar gyfer plant

33.

Lles a diogelwch plant

34.

Ffitrwydd y gweithwyr

35.

Gweithdrefn disgyblu'r staff

36.

Adolygu ansawdd y gofal

37.

Tramgwyddau

RHAN VII -

AMRYWIOL

38.

Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill

39.

Hysbysu absenoldeb

40.

Hysbysu newidiadau

41.

Hysbysu terfynu llety

42.

Penodi datodwyr etc.

43.

Marwolaeth person cofrestredig

44.

Tramgwyddau

45.

Cydymffurfio â'r rheoliadau

46.

Lleoliadau oedolion

47.

Addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion

48.

Pennu swyddfeydd priodol

49.

Diddymu

ATODLENNI

1.

Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben

2.

Yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu reoli cartref gofal neu weithio mewn cartref gofal

3.

Y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth

4.

Cofnodion eraill sydd i'w cadw mewn cartref gofal

5.

Gwybodaeth ychwanegol sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben pan fydd plant yn cael eu lletya

6.

Materion sydd i'w monitro mewn cartref gofal y mae plant yn cael eu lletya ynddo.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5), (7)(a) i (j) ac (l), 25(1), 33, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 1) , ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol( 2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -

RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "arweiniad defnyddiwr gwasanaeth" ("service user's guide") yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr "awdurdod iechyd amgylchedd" ("environmental health authority") yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;

ystyr "awdurdod tân" ("fire authority"), mewn perthynas â chartref gofal, yw'r awdurdod sy'n cyflawni swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947( 3) yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;

ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforedig;

ystyr "cynllun defnyddiwr gwasanaeth" ("service user's plan") yw'r cynllun ysgrifenedig a baratoir yn unol â rheoliad 15(1);

ystyr "cynrychiolydd" ("representative"), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi yn y cartref gofal, sydd, gyda chydsyniad pendant neu gydsyniad awgrymedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;

ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg y cartref gofal;

ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r daganiad a lunir yn unol â rheoliad 4(1);

ystyr "defnyddiwr gwasanaeth" ("service user") yw unrhyw berson sy'n cael ei letya yn y cartref gofal y mae arno angen gofal nyrsio neu ofal personol oherwydd anabledd, llesgedd, salwch yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr "perthynas" ("relative"), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw -

(a) priod y person;(b) unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, w yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;(c) priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;(ch) unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw,

ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at "priod" yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel pe baent yn w r a gwraig;

ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), mewn perthynas â chartref gofal, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal;

ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("health care professional") yw person sydd wedi'i gofrestru yn aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999( 4) yn gymwys iddo neu sy'n seicolegydd clinigol, yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd;

ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn rheolwr y cartref gofal;

ystyr "staff" ("staff") yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal ond nid yw'n cynnwys gwirfoddolwr na pherson sy'n cael ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;

ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office"), mewn perthynas â chartref gofal, yw -

(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 48 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi, y swyddfa honno;(b) mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

mae i "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;

ystyr "ymarferydd cyffredinol" ("general practitioner") yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd -

(a) yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 5),(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 6); neu(c) yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad -

(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -

(a) cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac(c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.

Sefydliadau sydd wedi'u heithrio

3. - (1) At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal -

(a) os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, ar gyfer perthynas i'r person sy'n ei redeg yn unig;(b) os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;(c) os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio;(ch) os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio - (i) yn y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 7), neu(ii) mewn ymddiriedolaeth NHS( 8) (d) os yw'n brifysgol;(dd) os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 9); neu(e) os yw'n ysgol.

(2) At ddibenion paragraff (1), mae "prifysgol" yn cynnwys -

(a) unrhyw goleg prifysgol;(b) unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.

(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys -

(a) os yw'r sefydliad yn darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol i unrhyw berson; a(b) os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.

Datganiad o ddiben

4. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben" ("the statement of purpose")) mewn perthynas â'r cartref gofal a fydd yn cynnwys -

(a) datganiad o nodau ac amcanion y cartref gofal;(b) datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu gan y person cofrestredig ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth;...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT