Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2002/327 (Cymru) |
Year | 2002 |
2002Rhif 327 (Cy.40)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
12 Chwefror 2002
1 Ebrill 2002
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I -
CYFFREDINOL
1. |
Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
3. |
Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plant |
4. |
Datganiad o ddiben ac arweiniad y plant |
5. |
Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y plant |
RHAN II -
PERSONAU COFRESTREDIG
6. |
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig |
7. |
Penodi rheolwr |
8. |
Ffitrwydd y rheolwr |
9. |
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol |
10. |
Hysbysu tramgwyddau |
RHAN III -
RHEDEG CARTREFI PLANT
Pennod 1
Lles y plant
11. |
Hybu lles |
12. |
Cynllun lleoliad y plentyn |
13. |
Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant |
14. |
Darparu dillad, arian poced ac angenrheidiau personol |
15. |
Cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu |
16. |
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant |
17. |
Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal |
18. |
Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden |
19. |
Cadw defodau crefyddol |
20. |
Anghenion iechyd plant |
21. |
Meddyginiaethau |
22. |
Defnyddio gwyliadwriaeth |
23. |
Peryglon a diogelwch |
24. |
Cynrychioliadau a chwynion |
Pennod 2
Staffio
25. |
Staffio cartrefi plant |
26. |
Ffitrwydd y gweithwyr |
27. |
Cyflogi staff |
Pennod 3
Cofnodion
28. |
Cofnodion |
29. |
Digwyddiadau hysbysadwy |
RHAN IV -
SAFLEOEDD
30. |
Ffitrwydd safleoedd |
31. |
Rhagofalon tân |
RHAN V -
RHEOLI CARTREFI
32. |
Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig |
33. |
Adolygu ansawdd y gofal |
34. |
Rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol |
35. |
Y sefyllfa ariannol |
RHAN VI -
AMRYWIOL
36. |
Hysbysu absenoldeb |
37. |
Hysbysu newidiadau |
38. |
Penodi datodwyr etc |
39. |
Marwolaeth person cofrestredig |
40. |
Tramgwyddau |
41. |
Cydymffurfio â'r rheoliadau |
42. |
Pennu swyddfeydd priodol |
43. |
Diddymu |
ATODLENNI
1. |
Y materion sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben |
2. |
Yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un |
3. |
Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yng nghofnodion achosion plant sy'n cael eu lletya mewn cartrefi plant |
4. |
Cofnodion eraill |
5. |
Digwyddiadau a hysbysiadau |
6. |
Y materion sydd i'w monitro a'u hadolygu gan y person cofrestredig |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(4), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7)(a) i (h) (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 1) ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol( 2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "arweiniad y plant" ("children's guide") yw'r arweiniad y cyfeirir ato yn rheoliad 4;
ystyr "awdurdod lleoli" ("placing authority") mewn perthynas â phlentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yw -
(a) yn achos plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano, yr awdurdod lleol hwnnw;(b) yn achos plentyn nad oes awdurdod lleol yn gofalu amdano - (i) os yw'n cael ei letya gan gorff gwirfoddol ( 3), y corff gwirfoddol hwnnw;(ii) os yw'n cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod addysg lleol neu gan awdurdod lleol, yr awdurdod addysg lleol hwnnw neu'r awdurdod lleol hwnnw yn ôl fel y digwydd;(iii) mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforedig, ac eithrio yn rheoliad 17(6) lle mae'n rhaid dehongli'r term yn unol â diben y ddarpariaeth y mae'n cael ei ddefnyddio ynddi;
ystyr "cynllun lleoliad" ("placement plan") yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 12;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider"), mewn perthynas â chartref plant, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg y cartref hwnnw( 4);
ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 4;
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989( 5);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "person cofrestredig" ("registered person"), mewn perthynas â chartref plant, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y cartref hwnnw;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager"), mewn perthynas â chartref plant, yw'r person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y cartref hwnnw;
dehonglir "rhiant maeth" ("foster parent") yn unol ag adran 1(7) o'r Ddeddf;
ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office") mewn perthynas â chartref plant -
(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 42 ar gyfer yr ardal y mae'r cartref plant wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;mae i "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6;
ystyr "ymarferydd cyffredinol" ("general practitioner") yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd -
(a) yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 6),(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 7); neu(c) yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, heblaw'n unol â'r Ddeddf honno;ystyr "ymarferydd deintyddol cofrestredig" ("registered dental practitioner") yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr deintyddion sy'n cael ei chadw o dan Ddeddf Deintyddion 1984( 8);
ystyr "ymchwiliad amddiffyn plant" ("child protection enquiry") yw ymchwiliad a gynhelir gan awdurdod lleol wrth gyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan Ddeddf 1989 neu odani; ac
ystyr "ysgol gymwys" ("qualifying school") yw ysgol sy'n gartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o'r Ddeddf.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad -
(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
(a) cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac(c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref plant yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref plant.
Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plant
3. - (1) At ddibenion y Ddeddf, mae unrhyw sefydliad sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol wedi'i eithrio o fod yn gartref plant -
(a) sefydliad yn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 9);(b) yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw sefydliad a ddefnyddir i letya plant at ddibenion unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn unig - (i) gwyliau;(ii) gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;cyhyd ag na fydd unrhyw blentyn unigol yn cael ei letya yno am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis;
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (2), safle lle mae person yn darparu gofal dydd o fewn ystyr adran 79(A)(6) o Ddeddf 1989 oni fydd paragraff (3) yn gymwys;(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (2), sefydliad a ddefnyddir i letya plant 16 oed a throsodd at ddibenion un neu ragor o'r canlynol yn unig - (i) i alluogi'r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth; neu(ii) gwyliau;(iii) gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;(d) unrhyw hostel mechnïaeth a gymeradwywyd neu hostel prawf a gymeradwywyd( 10);(dd) unrhyw sefydliad a ddarperir ar gyfer tramgwyddwyr ifanc o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchar 1952( 11).(2) Nid yw'r eithriadau ym mharagraff 1(b), (c) ac (ch) yn gymwys i unrhyw sefydliad y mae'r llety y mae yn ei ddarparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant o ddisgrifiad sy'n dod o fewn adran 3(2) o'r Ddeddf( 12).
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i safleoedd a ddisgrifir ym mharagraff 1(c) os bydd, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau 24 awr pan fydd mwy na 15 awr o ofal dydd yn cael eu darparu mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (boed y plentyn hwnnw o dan wyth oed neu beidio), ac at ddibenion y paragraff hwn rhaid cymryd nad oes unrhyw ofal dydd yn cael ei ddarparu pan fydd plentyn yng ngofal ei riant, ei berthynas neu ei riant maeth.
Datganiad o ddiben ac arweiniad y plant
4. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r cartref plant ddatganiad a ysgrifennir ar bapur a fydd yn cynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1 ("y datganiad o ddiben").
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio ar unrhyw adeg resymol gan -
(a) unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant;(b) unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;(c) yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;(ch) awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; a(d) yn achos ysgol gymwys, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac unrhyw berson sy'n arfer un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y ddeddfwriaeth addysg mewn perthynas â'r ysgol;ac yn y...
To continue reading
Request your trial