Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2009/1372 (Cymru) |
2009 Rhif 1372 (Cy.135)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009
8 Mehefin 2009
9 Mehefin 2009
30 Mehefin 2009
CYNNWYS
RHAN 1
Rhagarweiniad
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Cyfeiriadau at feddiannydd
4. Esemptiadau
RHAN 2
Hysbysu ynghylch amau bod achos o glefyd pothellog y moch
5. Gofynion hysbysu
RHAN 3
Amau a chadarnhau bod achos o glefyd pothellog y moch
PENNOD 1
Cwmpas Rhan 3 a dulliau rheoli cychwynnol
6. Cwmpas Rhan 3
7. Dulliau rheoli cychwynnol ar ôl hysbysu
PENNOD 2
Gweithredu pan amheuir bod achos o glefyd a datgan bod mangre wedi ei heintio
8. Gosod mesurau pan amheuir bod achos o glefyd
9. Mesurau ar ôl amheuaeth - mangreoedd heb fod mewn cyffyrddiad
10. Mesurau ar ôl amheuaeth - mangreoedd mewn cyffyrddiad
11. Datgan bod mangre wedi ei heintio pan fo'r fangre'n agos at frigiad sydd wedi'i gadarnhau
12. Amheuaeth ynghylch moch sy'n byw yn y gwyllt
13. Amodau ac arwyddion rhybudd
PENNOD 3
Lladd moch a'r gwaith cychwynnol o lanhau a diheintio
14. Lladd moch ar y fangre heintiedig
15. Symud carcasau ymaith a'r gwaith cychwynnol o lanhau a diheintio
16. Mesurau cadwraeth a mesurau cysylltiedig
PENNOD 4
Codi mesurau yn Atodlen 1 oddi ar fangre heintiedig
17. Codi cyfyngiadau oddi ar fangre heintiedig
18. Glanhau a diheintio - cyffredinol
19. Dull glanhau a diheintio
20. Profi â moch dangos clwy
21. Glanhau a diheintio gorfodol
RHAN 4
Lladd-dai
22. Dulliau rheoli mewn lladd-dy ar ôl hysbysiad
23. Gweithredu ar ôl i ddulliau rheoli gael eu gosod
RHAN 5
Dulliau rheoli ardal
24. Parthau gwarchod, parthau gwyliadwriaeth a pharthau cyfyngu ar symud
25. Parthau cyfyngu ar symud
26. Datganiadau pan fo clefyd pothellog y moch yn cael ei ddatgan yn yr Alban neu Loegr
27. Datgan parthau
28. Cyhoeddusrwydd
RHAN 6
Brechu
29. Gwahardd brechu
30. Brechu gorfodol
31. Moch a frechwyd
RHAN 7
Darpariaethau arolygu, darpariaethau gorfodi a darpariaethau amrywiol
32. Hysbysiadau
33. Trwyddedau
34. Pwerau arolygwyr
35. Pwerau ynghylch moch sy'n byw yn y gwyllt
36. Hysbysiadau ynghylch symud
37. Atal hawliau tramwy mewn parth gwarchod neu gyfyngu arnynt
38. Newid o ran meddiannydd mangre dan gyfyngiad
39. Pwerau arolygwyr os ceir diffyg
40. Digolledu
41. Rhwystro
42. Tramgwyddau a chosbau
43. Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
44. Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig
45. Gorfodi
46. Amgylchiadau eithriadol
47. Dirymu
ATODLEN 1 -
Mesurau ar fangreoedd dan amheuaeth a mangreoedd heintiedig
ATODLEN 2 -
Parthau
RHAN 1 -
Mesurau mewn parth gwarchod
RHAN 2 -
Mesurau mewn parth gwyliadwriaeth
Mae Gweinidogion Cymru, sydd wedi'u dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
RHAN 1
Rhagarweiniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mehefin 2009.
Dehongli
2.Yn y Rheoliadau hyn-
ystyr "arolygydd" (inspector) ac "arolygydd milfeddygol" (veterinary inspector) yw personau a benodwyd fel y cyfryw o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19813;
ystyr "awdurdod lleol" (local authority) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr "carcas" (carcase) yw carcas mochyn neu ran o garcas mochyn;
ystyr "da byw" (livestock) yw anifeiliaid carnog ac eithrio ceffylau;
mae "mangre" (premises) yn cynnwys unrhyw fan;
ystyr "mangre heintiedig" a "mangre wedi ei heintio" (infected premises) yw unrhyw fangre sydd wedi'i datgan fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3;
ystyr "mochyn" (pig) yw anifail o dylwyth y suidae.
Cyfeiriadau at feddiannydd
3.-
(1) Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i feddiannydd mangre gael ei gyflwyno i berson y mae'n ymddangos i'r un sy'n cyflwyno'r hysbysiad fod y person hwnnw'n gyfrifol o ddydd i ddydd am y fangre neu am unrhyw foch sydd ar y fangre (gweler rheoliad 32 ar gyfer darpariaeth bellach ynglyn â hysbysiadau).
(2) Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i berson y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at feddiannydd y fangre honno'n gyfeiriad at y person hwnnw.
Esemptiadau
4.-
(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r canlynol-
(a) unrhyw beth a wneir o dan delerau trwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 20084, neu(b) unrhyw safle arolygu ar y ffin, canolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd at ddibenion Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 20065.(2) Nid yw Rhannau 3 a 4 yn gymwys yn ystod unrhyw gyfnod y mae camau'n cael eu cymryd o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 20066.
RHAN 2
Hysbysu ynghylch amau bod achos o glefyd pothellog y moch
Gofynion hysbysu
5.-
(1) Rhaid i unrhyw berson y mae mochyn neu garcas yn ei feddiant neu o dan ei ofal, neu sy'n arolygu neu'n archwilio mochyn neu garcas ac sy'n amau bod y mochyn wedi ei heintio neu fod y carcas wedi'i halogi â feirws clefyd pothellog y moch hysbysu Gweinidogion Cymru ohono ar unwaith.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n archwilio sampl a gymerwyd o fochyn neu garcas ac sydd-
(a) yn amau bod y mochyn wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch neu fod y carcas wedi'i halogi â'r feirws hwnnw, neu(b) yn canfod tystiolaeth am wrthgyrff neu antigenau'r feirws hwnnw,hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am hynny.
(3) Mae methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
RHAN 3
Amau a chadarnhau bod achos o glefyd pothellog y moch
PENNOD 1
Cwmpas Rhan 3 a dulliau rheoli cychwynnol
Cwmpas Rhan 3
6.Mae'r Rhan hon yn gymwys i bob mangre ac eithrio lladd-dai (ar gyfer y rheini gweler Rhan 4).
Dulliau rheoli cychwynnol ar ôl hysbysu
7.-
(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) o fochyn neu garcas dan amheuaeth a bod arolygydd milfeddygol yn credu bod ymchwiliad pellach ynghylch presenoldeb posibl clefyd pothellog y moch yn angenrheidiol.
(2) Rhaid i'r arolygydd milfeddygol roi gwybod ar lafar neu fel arall i'r person a adroddodd am y mochyn neu'r carcas dan amheuaeth fod ymchwiliad pellach yn angenrheidiol, a bydd y dulliau rheoli ym mharagraff (3) yn gymwys wedyn.
(3) Mae'r dulliau rheoli yn golygu bod rhaid, ac eithrio fel y'i caniateir mewn ysgrifen gan arolygydd milfeddygol, i'r person y mae mochyn neu garcas yr hysbyswyd ohono yn ei feddiant neu o dan ei ofal, sicrhau-
(a) na chaiff y mochyn neu'r carcas yr hysbyswyd ohono ei symud o'r fangre lle y mae,(b) na chaiff unrhyw fochyn na charcas arall nac unrhyw beth sy'n debyg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch ei symud o'r fangre honno neu iddi, ac(c) bod unrhyw berson sydd wedi bod mewn cyffyrddiad ag unrhyw fochyn neu garcas ar y fangre, neu sydd wedi bod ar unrhyw ran o'r fangre a all fod wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch, yn cymryd pob rhagofal bioddiogelwch angenrheidiol i leihau'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch cyn ymadael â'r fangre,a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Bydd unrhyw ddulliau rheoli a osodir o dan y rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys hyd nes-
(a) y bydd arolygydd milfeddygol yn cyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn yn dynodi'r fangre yn fangre dan amheuaeth, neu(b) y bydd arolygydd milfeddygol yn cadarnhau (ar lafar neu fel arall) nad yw presenoldeb feirws clefyd pothellog y moch dan amheuaeth ar y fangre.PENNOD 2
Gweithredu pan amheuir bod achos o glefyd a datgan bod mangre wedi ei heintio
Gosod mesurau pan amheuir bod achos o glefyd
8.-
(1) Rhaid i arolygydd weithredu'n unol â'r rheoliad hwn pan amheuir-
(a) bod mochyn sydd wedi ei heintio neu a gafodd ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch ar unrhyw fangre (p'un ai ar ôl hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn ai peidio), neu(b) bod mangre wedi'i halogi â feirws clefyd pothellog y moch.(2) Rhaid i'r arolygydd-
(a) cyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn dynodi'r fangre honno'n fangre dan amheuaeth ac yn gosod y mesurau yn Atodlen 1, a(b) sicrhau bod arwyddion rhybudd sy'n gwahardd mynediad yn cael eu gosod mewn mannau addas o amgylch y fangre.(3) Rhaid i arolygydd milfeddygol ddechrau ymchwiliad epidemiolegol i geisio cadarnhau o leiaf-
(a) am ba mor hir y gallai feirws clefyd pothellog y moch fod wedi bodoli ar y fangre,(b) tarddiad y feirws hwnnw,(c) pa fangreoedd eraill sydd wedi'u halogi â'r feirws hwnnw o'r un ffynhonnell,(ch) a allai symudiad unrhyw berson neu beth fod wedi cludo'r feirws i'r fangre neu ohoni, a(d) y posibilrwydd y gallai moch sy'n byw yn y gwyllt fod yn ymwneud â lledaenu'r feirws,a rhaid iddo barhau â'r ymchwiliad hyd nes y bydd y materion hyn wedi'u cadarnhau cyn belled ag y bo'n ymarferol neu fod y posibilrwydd o glefyd wedi'i ddiystyru.
Mesurau ar ôl amheuaeth - mangreoedd heb fod mewn cyffyrddiad
9.-
(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre ond nad yw'r amheuaeth hon yn codi o'r ffaith bod gan y fangre gysylltiad epidemiolegol â mangre heintiedig.
(2) Ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno adeg amau bod achos o glefyd pothellog y moch, rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw'r amheuaeth yn gywir ai peidio.
(3) Rhaid i'r camau hyn gynnwys cymryd samplau oddi wrth foch ar y fangre (os oes rhai) a threfnu iddynt gael eu profi.
(4) Pan na fo moch ar fangre adeg yr hysbysiad, caiff yr arolygydd milfeddygol gymryd samplau o'r moch neu'r carcasau sydd wedi bod ar y fangre, a chaiff gymryd samplau amgylcheddol o'r fangre.
(5) Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraffau (3) a (4) yn dangos-
(a) bod feirws clefyd pothellog y moch mewn mochyn neu ar y fangre, neu(b) bod y fangre yn cynnwys moch sy'n seropositif ar gyfer clefyd pothellog y moch, ac yn ogystal â...To continue reading
Request your trial