Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/593 (Cymru) |
2020 Rhif 593 (Cy. 134)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 12th June 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 15th June 2020
Yn dod i rym 9th July 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 77(1) a (2) a 90(3) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 20081, a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.
(2) Deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2020.
Diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010
2.—(1) Mae Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 20102wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1A), yn lle “8 Gorffennaf 2020” rhodder “31 Rhagfyr 2020”.
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau yn Neddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 ac maent yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 ( O.S. 2010/2880 (Cy. 238)) (“Rheoliadau 2010”).
Mae Rheoliadau 2010, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau sy’n cyflenwi bagiau siopa untro at ddiben caniatáu i’r nwyddau hynny gael eu cludo ymaith neu eu danfon, godi tâl am bob bag a gyflenwir.
Mae bagiau siopa untro a ddefnyddir i ddanfon neu gasglu nwyddau ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i esemptiad dros dro rhag y tâl. Mae cyfnod yr esemptiad dros dro wedi ei nodi ym mharagraff 1(1A) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Daw’r cyfnod esemptio presennol i ben ar 8 Gorffennaf 2020.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 (esemptiadau) i Reoliadau 2010 drwy estyn cyfnod yr esemptiad hyd 31 Rhagfyr 2020.
Diben yr esemptiad dros dro yw lliniaru, cyhyd ag y bo modd, y risg o drosglwyddo feirws COVID-19 (coronafeirws), drwy systemau danfon a chasglu, a chynyddu effeithlonrwydd systemau danfon, drwy ddefnyddio bagiau siopa untro i gludo nwyddau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o...
To continue reading
Request your trial