Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/918 (Cymru) |
2003Rhif 918 (Cy.119)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003
26 Mawrth 2003
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000( 1) :
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "deiliad cyfrif dysgu unigol" ("individual learning account holder") yw person sy'n barti i drefniant ymgymhwyso (fel y'i pennir yn rheoliad 3);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;
ystyr "gweinyddydd cyfrifon dysgu" ("learning account administrator") yw corff sy'n trefnu addysg a hyfforddiant neu sy'n cynorthwyo i'w darparu ac iddo'r fantais, ar hyn o bryd, o fod wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn; ac
mae i "person cymwys" ("eligible person") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4.
(3) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, at ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dirymu
2. Dirymir Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000( 2).
Trefniadau ymgymhwyso
3. At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru -
(a) os ydynt ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu; a(b) os nad yw'r cofrestriad wedi'i ddileu neu wedi'i dynnu'n ôl yn unol â rheoliad 5; ac(c) os y'u hadnabyddir wrth yr enw "Cyfrif Dysgu Unigol Cymru".Ystyr Person Cymwys
4. - (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (5) isod ar y dyddiad cofrestru.
(2) Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.
(3) Yr ail amod yw bod y person -
(a) yn ddinesydd Prydeinig;(b) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971( 3);(c) yn ffoadur, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath;(ch) yn berson sydd - (i) wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo aros yn y Deyrnas Unedig er na fernir ei fod yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur;(ii) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a(iii) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,neu, ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu
(d) yn berson nad yw'n dod o fewn...To continue reading
Request your trial