Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2004/1741 (Cymru) |
Year | 2004 |
2004Rhif 1741 (Cy.180)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004
6 Gorffennaf 2004
ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii)ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii)
y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud
rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii)rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii)
1 Medi 2004
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(4), 4(1), (2), (3) a (5), 14(3) a 42(6) a (7) o Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998( 1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2004.
(2) Ac eithrio rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.
(3) Daw rheoliad 2(e)(ii) a (f) (ii) i rym ar 1 Medi 2004.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
2. Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000( 3) fel a ganlyn -
(a) yn rheoliad 2 - (i) yn lle'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" rhodder y diffiniad canlynol -" mae i "athro neu athrawes gymwysedig" yr ystyr a roddir i "qualified teacher" yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002( 4);";
(ii) mewnosoder ar ôl y diffiniad o "Cod Ymarfer" y diffiniad canlynol -" mae i "corff priodol" ("appropriate body") yr ystyr a roddir iddo yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003( 5);";
(iii) hepgorer y diffiniad o "Deddf 1988";.(b) mewnosoder ar ôl rheoliad 3 -"Cymhwyster i gofrestru
3A. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson sydd, ar ôl gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn unol â rheoliadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â Chymru neu Loegr o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998( 6)), wedi methu â'i gwblhau yn foddhaol at ddibenion y rheoliadau hynny.
(2) Mae person o'r fath yn gymwys i gofrestru -
(a) yn ystod yr amser ar gyfer gwneud apêl o dan y rheoliadau hynny yn erbyn penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol; a(b) lle y gwneir apêl o'r fath, wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl.";.(c) yn lle rheoliad 4 rhodder y rheoliad canlynol -"4. Caiff y Cyngor wneud darpariaeth ynghylch -
(i) y ffurf a'r...To continue reading
Request your trial