Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012

JurisdictionWales
CitationSI 2012/169

2012Rhif 169 (Cy.28)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012

20 Ionawr 2012

26 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5) a (7) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998( 1) a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy( 2), ac ar ôl ymgynghori a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno:

Enwi a chychwyn

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 8 o Ddeddf Addysg 2011( 3) i rym.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999

2.-(1) Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999( 4) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 5(2)(a), yn lle'r geiriau "the Education Act 2002 or the person is barred", rhodder "the Education Act 2002, the person is barred", ac ar ddiwedd y rheoliad ychwaneger y geiriau a ganlyn-

"or the person's employment as a teacher is prohibited under the terms of a prohibition order made by the Secretary of State under section 141B of the Education Act 2002.".

(3) Yn rheoliad 10(5)(a), yn lle'r geiriau "the Education Act 2002 or the person is barred", rhodder "the Education Act 2002, the person is barred", ac ar ddiwedd y rheoliad ychwaneger y geiriau a ganlyn-

"or the person's employment as a teacher is prohibited under the terms of a prohibition order made by the Secretary of State under section 141B of the Education Act 2002.".

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Ionawr 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999, ("Rheoliadau 1999") yn darparu ar gyfer cyfansoddiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor"). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1999 o ganlyniad i Ddeddf Addysg 2011 ("Deddf 2011"), sy'n darparu ar gyfer diddymu Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ac yn darparu mewn perthynas a gwahardd personau rhag cyflawni gwaith addysgu.

Diwygir rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau 1999 i ddarparu ynghylch person sy'n destun gorchymyn gwahardd sydd wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 141B o Ddeddf Addysg 2002 ("Deddf 2002"). Mae'r diwygiad yn darparu ynghylch...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT