Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2004/1396 (Cymru)

2004Rhif 1396 (Cy.141)

BWYD, CYMRU

CYFANSODDIAD A LABELU

Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004

19 Mai 2004

31 Mai 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo( 2), ac ar ôl ystyried cyngor perthnasol yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. O ran y Rheoliadau hyn -

(a) eu henw yw Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004;(b) maent yn gymwys i Gymru yn unig;(c) deuant i rym ar 31 Mai 2004.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd yng Nghymru a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984( 4), yw awdurdod iechyd porthladd am ar ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

mae i "cig" yr ystyr a roddir i "meat" gan Gyfarwyddeb 2000/13/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd( 5) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC( 6);

mae i "cig wedi'i adfer yn fecanyddol" yr ystyr a roddir i "mechanically recovered meat" yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/101/EC;

ystyr "cig wedi'i halltu" ("cured meat") yw bwyd sy'n cynnwys cig a halen halltu, p'un a yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysyn arall neu beidio;

mae i "cynhwysyn" yr ystyr a briodolir i "ingredient" gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996;

ystyr "cynnyrch cig" ("meat product") yw unrhyw fwyd, heblaw un a bennir yn Atodlen 1, sy'n gig neu sy'n cynnwys cynhwysyn, neu fel cynhwysion unrhyw rai o'r canlynol: cig; cig wedi'i adfer yn fecanyddol; neu, o unrhyw rywogaeth famalaidd neu adarol y cydnabyddir ei fod yn ffit i'w fwyta gan bobl, calon, tafod, cyhyrau'r pen (heblaw maseterau), carpws, tarsws, neu'r gynffon;

mae i "defnyddiwr olaf" yr ystyr a briodolir i "ultimate consumer" gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall "gwerthiant" ("sale") yn unol â hynny; a

ystyr "halen halltu" ("curing salt") yw sodiwm clorid, potasiwm clorid, sodiwm nitrad, potasiwm nitrad, sodiwm nitrid neu botasiwm nitrid, boed wrtho'i hun neu mewn unrhyw gyfuniad, ac eithrio y bernir bod sodiwm clorid neu botasiwm clorid ei hun neu gymysgedd o sodiwm clorid a photasiwm clorid ei hun yn halen halltu pan ddefnyddir ef mewn cynnyrch cig ond yn unig os defnyddir digon ohono i gael effaith cyffeithiol ar y cynnyrch cig;

" mae i "sefydliad arlwyo" yr ystyr a briodolir i "catering establishment" gan Reoliadau Labelu Bwyd 1996( 7);

ystyr "wedi'i goginio" ("cooked"), mewn perthynas â bwyd, yw bwyd a fu drwy broses goginio drwy'r bwyd cyfan fel y gwerthir y bwyd i'w fwyta gan bobl heb ei goginio ymhellach, a dehonglir "heb ei goginio" ("uncooked") yn unol â hynny.

Cwmpas

3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w gyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

(2) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd -

(a) na fwriedir ei werthu ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu(b) sydd wedi'i farcio neu wedi'i labelu gan ddynodi'n eglur y bwriedir i'r bwyd gael ei fwyta gan fabanod neu blant bach yn unig.

(3) Ni fydd Rheoliad 4 (cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd -

(a) y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru - (i) o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig,

lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu

(b) y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru - (i) o Wladwriaeth AEE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), neu(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig,

lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.

(4) At ddibenion paragraff (3) -

ystyr "Gwladwriaeth EEA" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ( 8) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol( 9) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr â "free circulation" yn Erthygl 24 o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd;

ystyr "Aelod-wladwriaeth" ("Member State") yw Gwladwriaeth sy'n aelod o'r Gymuned Ewropeaidd.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol

4. - (1) At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu cynnyrch cig fel enw'r bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio -

(a) onid yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu(b) oni ddefnyddir yr enw yn unol â pharagraff (2).

(2) Ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai'n bendant neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai -

(a)(i) bod y cynnyrch hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd, a(ii) bod y cynnyrch hwnnw wedi cydymffurfio, ar adeg paratoi'r bwyd, â'r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen honno; neu(b)(i) bod yr enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd am y bwyd hwnnw yn enw sydd yn ymddangos yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, a(ii) bod y bwyd yn cydymffurfio â'r gofynion priodol yng ngholofn 2 a 3 o'r Atodlen honno.

(3) Ni chaiff neb werthu bwyd os defnyddir enw ar ei label yn groes i baragraffau (1) neu (2).

(4) Ni chaiff neb ddefnyddio enw yn groes i baragraffau (1) neu (2) wrth hysbysebu bwyd ar werth.

Enw'r bwyd ar gyfer cynhyrchion cig penodol

5. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn gwerthu unrhyw gynnyrch cig sy'n ymddangos yn ddarn, rhan, tafell, cyfran neu garcas o gig neu o gig wedi'i halltu (ac ym mhob achos, boed wedi'i goginio neu heb ei goginio), bydd y rheoliad hwn yn gymwys.

(2) At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, rhaid i'r enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd wrth labelu unrhyw gynnyrch cig y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys rhywbeth i ddynodi -

(a) unrhyw gynhwysyn ychwanegol sy'n deillio o anifeiliaid, onid yw'r cynnyrch cig yn cynnwys cig o'r rhywogaeth y deilliodd y cynhwysyn ychwanegol hwnnw ohono; a(b) unrhyw gynhwysyn ychwanegol nad yw is-baragraff (a) yn gymwys iddo heblaw cynhwysyn a bennir yn Atodlen 3.

(3) At ddibenion paragraff (1), ni chymerir i ystyriaeth bresenoldeb unrhyw sesno, garnisio neu sylweddau gelatin sydd yn neu ar y cynnyrch cig, neu unrhyw ddeunyddiau pecynnu am gynnyrch cig.

(4) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys lle defnyddir enw fel enw'r bwyd sy'n enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio neu i fwyd yr ymddengys ei fod yn friwgig heb ei goginio a gafodd ei siapio.

Rhannau o'r carcas mewn cynhyrchion cig heb eu coginio

6. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu cynnyrch cig heb ei goginio y defnyddiwyd unrhyw ran a bennir ym mharagraff (2) o'r carcas o unrhyw rywogaeth famalaidd fel cynhwysyn wrth ei baratoi.

(2) Dyma'r rhannau a bennir o'r carcas: ymennydd, traed, coluddyn mawr, coluddyn bach, ysgyfaint, oesoffagws, rectwm, madruddyn cefn, dueg, stumog, ceilliau a chadair neu bwrs.

(3) Ni fydd y gwaharddiad sydd ym mharagraff (1) yn cynnwys defnyddio'r coluddyn mamalaidd mawr neu fach ond fel croen selsig yn unig.

(4) Yn y rheoliad hwn mae'r gair "selsig" yn cynnwys chipolata, frankfurter, dolen, salami ac unrhyw gynnyrch tebyg.

Cosbau a gorfodi

7. - (1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5(2) neu 6(1) o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i bob awdurdod bwyd or fodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

(3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â bwyd a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990

8. Bydd darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -

(a) adran 2 (ystyr estynedig gwerthiant...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT