Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015

JurisdictionEngland & Wales
Year2015
CitationWSI 2015/1016 (Cymru)

2015Rhif 1016 (Cy. 71)

PENSIYNAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015

31 Mawrth 2015

31 Mawrth 2015

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)( 1), 2(1), 3(1), (2), (3)(a) ac (c), (6) a (7), 18(5) a (6) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013( 2), a pharagraff 6(b) o Atodlen 2, Atodlen 3 a pharagraffau 1(2)(ii), 2(2)(ii) a 5(1) o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 21 o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori a chynrychiolwyr y personau hynny y mae'n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

Enwi a chychwyn

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) 2015

2. Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) 2015( 3) sy'n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol ag Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) 2007

3. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) 2007( 4) (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tan (Cymru) wedi ei nodi) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tan 1992

4. Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tan 1992( 5) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tan (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae'n cael effaith yng Nghymru, wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2015

YR ATODLENNI

ATODLEN 1

Rheoliad 2

Diwygiadau i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tan (Cymru) 2015

1. Yn Rhan 1 (rhagarweiniol), yn rheoliad 3 (dehongli)-

(a) yn y mannau priodol mewnosoder-

"mae i "aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT" ("connected special member of the NFPS") yr ystyr a roddir yn rheol 1D o Ran 2 o CPNDT;";

"mae i "aelod cysylltiedig o CPNDT" ("connected member of the NFPS") yr ystyr a roddir yn rheol 1C o Ran 2 o CPNDT;";

"mae i "aelod gohiriedig o CPNDT" ("deferred member of the NFPS") yr ystyr a roddir yn rheol 2(1) o Ran 1 o CPNDT;";

"ystyr "aelod gohiriedig o Gynllun 1992" ("deferred member of the 1992 Scheme") yw person sydd a'r hawl ganddo i bensiwn gohiriedig o dan reol B5 o Gynllun 1992;";

"mae i "cyfnod dechreuol" ("initial period") yr ystyr a roddir yn rheoliad 86 (ystyr "cyfnod dechreuol");";

"ystyr "gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 2015" ("pensionable service in the 2015 Scheme") yw unrhyw wasanaeth pensiynadwy parhaus mewn perthynas a'r cyfrif aelod actif yn y cynllun hwn yr ychwanegwyd gwasanaeth pensiynadwy yng Nghynllun 1992 ato at ddibenion rheoliad 66 (gwasanaeth cymwys) o'r Rheoliadau hyn am y cyfnod tra bo paragraff (7) o reol A3 o Gynllun 1992 yn parhau'n gymwys i'r person hwnnw.";

"mae i "pensiwn addasedig afiechyd haen isaf" ("adjusted lower tier ill-health pension") yr ystyr a roddir yn rheoliad 75(4) (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd);";

"ystyr "pensiwn parhaus" ("continued pension") yw-

(a) mewn perthynas ag aelod o CPNDT, yr hawlogaeth i bensiwn o dan reol 1B o Ran 3 o CPNDT,

(b) mewn perthynas ag aelod o Gynllun 1992, yr hawlogaeth i bensiwn o dan reol B2A o Gynllun 1992;";

"mae i "swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT" ("equivalent amount to the NFPS lower tier ill-health pension") yr ystyr a roddir yn rheoliad 74(5)(a) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);";

"mae i "swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992" ("equivalent amount to the 1992 Scheme lower tier ill-health pension") yr ystyr a roddir yn rheoliad 74(5) (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf);";

(b) yn y diffiniad o "pensiwn ymddeol", ar ôl paragraff (b) mewnosoder-

"(c) dyfarniad afiechyd a thaliad o unrhyw swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 (os oes un) a thaliad o unrhyw swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT (os es un);".

2. Yn Rhan 2 (llywodraethu), ar ddiwedd paragraff (2) o reoliad 4 (rheolwr cynllun) mewnosoder "mewn perthynas a phob un o gyfrifon pensiwn yr aelod".

3. Yn Rhan 3 (aelodaeth o'r cynllun) ym Mhennod 1 (cymhwystra ar gyfer aelodaeth actif), yn rheoliad 15 (cyflogaeth gynllun), yn lle paragraff (3) rhodder-

"(3) Mae person sy'n aelod o Gynllun 1992 neu o CPNDT yn bodloni'r gofyniad yn y paragraff hwn."

4. Yn Rhan 4 (cyfrifon pensiwn), ym Mhennod 8 (cyfrif ymddeol), yn rheoliad 60 (y cyfrif i bennu swm y pensiwn ymddeol (aelodau actif))-

(a) ar ôl paragraff (3) mewnosoder-

"(3A) Os oes gan yr aelod actif hawlogaeth i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 neu swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT, rhaid i'r cyfrif ymddeol bennu'r swm hwnnw.";

(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder-

"(4A) Ar gyfer swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 neu swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT, rhaid i'r cyfrif ymddeol bennu swm unrhyw gymudiad."

5. Yn Rhan 5 (buddion ymddeol), ym Mhennod 2-

(a) yn rheoliad 68 (cyfradd flynyddol pensiwn ymddeol (aelodau actif))-

(i) ym mharagraff (2), yn lle "is-baragraffau (a), (b) ac (c)" rhodder "is-baragraffau (a), (b), (ba) ac (c)";

(ii) ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder-

"(ba) y cyfanswm canlynol-

(i) y swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT (os es un) neu'r swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 (os oes un) a bennir yng nghyfrif ymddeol yr aelod,

(ii) ar ôl didynnu swm y cymudiad (os oes un), a bennir yn y cyfrif hwnnw mewn perthynas a'r swm hwnnw; ac";

(b) yn rheoliad 71 (ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr), ar ôl paragraff (2) mewnosoder-

"(3) Pan fo cyflogwr yn ystyried gwneud y penderfyniad ym mharagraff (2) mewn cysylltiad ag aelod actif sy'n aelod cysylltiedig o CPNDT, neu'n aelod arbennig cysylltiedig o CPNDT, mewn perthynas a chyfrif pensiwn yr aelod actif hwnnw, rhaid i'r cyflogwr ystyried hefyd wneud penderfyniad o dan reol 6 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod) o Ran 3 o'r CPNDT.";

(c) yn rheoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf), ar ôl paragraff (3) mewnosoder-

"(4) Pan fo hawl gan aelod actif (A) i gael pensiwn afiechyd haen isaf, a pharagraff 22 (aelod trosiannol nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan CPNDT) neu baragraff 24 (aelod trosiannol nad yw wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan Gynllun 1992) o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag A-

(a) os paragraff 22 sy'n gymwys mewn perthynas ag A, mae gan A hawlogaeth hefyd i swm cyfwerth a swm blynyddol y pensiwn afiechyd haen isaf a fyddai'n daladwy i'r aelod o dan CPNDT, pe bai hawl gan yr aelod i gael taliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reol 2(2) o CPNDT;

(b) os paragraff 24 sy'n gymwys mewn perthynas ag A, mae gan A hawlogaeth hefyd i swm cyfwerth a swm blynyddol y pensiwn afiechyd haen isaf a fyddai'n daladwy i'r aelod o dan Gynllun 1992, pe bai hawl gan yr aelod i gael taliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992.

(5) Yn y Rheoliadau hyn-

(a) cyfeirir at y swm cyfwerth a swm blynyddol pensiwn afiechyd haen isaf yn is-baragraff (a) o baragraff (4) fel y "swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT" ("equivalent amount to the NFPS lower tier ill-health pension");

(b) cyfeirir at y swm cyfwerth a swm blynyddol pensiwn afiechyd haen isaf yn is-baragraff (b) o baragraff (4) fel y "swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992" ("equivalent amount to the 1992 Scheme lower tier ill-health pension").";

(d) yn rheoliad 75 (cyfradd flynyddol dyfarniadau afiechyd)-

(i) ar ôl paragraff (3) mewnosoder-

"(3A) Yn achos aelod sydd a hawl i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, mae'r pensiwn addasedig afiechyd haen isaf yn cynnwys y swm cyfwerth addasedig.";

(ii) ym mharagraff (4), yn y man priodol mewnosoder-

"ystyr "y swm cyfwerth addasedig" ("the adjusted equivalent amount") yw-

(a) yn achos aelod sydd a hawl i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT, y swm hwnnw a gyfrifir-

(i) gan hepgor o'r cyfrifiad swm unrhyw gyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd o dan Ran 11 o CPNDT, a

(ii) heb ddidynnu unrhyw gyfran a gymudwyd; a

(b) yn achos aelod sydd a hawl i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, y swm hwnnw a gyfrifir heb ddidynnu unrhyw gyfran a gymudwyd;";

(e) yn rheoliad 78 (canlyniadau adolygu), ar ôl paragraff (6) mewnosoder-

"(6A) Os oes gan I hawl i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, mae paragraffau (3) a (5) yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad at "pensiwn afiechyd haen isaf" yn cynnwys swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992, yn ôl fel y digwydd.";

(f) ar ôl rheoliad 80 (opsiwn i gymudo rhan o'r pensiwn) mewnosoder-

"Opsiwn i gymudo rhan o swm gyfwerth

80A.

-(1) Caiff aelod sy'n cael yr hawl i daliad ar unwaith o swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu i swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 arfer opsiwn o dan y rheoliad hwn i gyfnewid rhan o'r pensiwn am gyfandaliad.

(2) Ni chaniateir arfer yr opsiwn ac eithrio-

(a) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r rheolwr cynllun, sy'n nodi'r swm sydd i'w gymudo; a

(b) cyn gwneud y taliad cyntaf o'r swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT neu swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992.

(3) Pan fo hawl gan y person i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth a'r pensiwn afiechyd haen isaf CPNDT ac yntau'n arfer yr opsiwn i...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT