Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2018/576 (Cymru) |
Year | 2018 |
2018 Rhif 576 (Cy. 103)
PENSIYNAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS, CYMRU
Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018
Gwnaed 9Mai 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10Mai 2018
Yn dod i rym 1Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)(1), 2(1), 3(1) i (3) a 18(5)(a) a (6) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(2) ac Atodlenni 2 (paragraff 6(b)) a 3 (paragraffau 1 i 4) iddi.
Yn unol ag adran 21 o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae'n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2018.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
(4) Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 8(3) yn cael effaith o 1 Mehefin 2018 ymlaen.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015
2. Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(3) sy'n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio Rhan 3 (aelodaeth o'r cynllun)
3. Yn Rhan 3 (aelodaeth o'r cynllun), yn nhestun Saesneg rheoliad 30 (aelod â chredyd pensiwn), yn lle “WPRA 1999” rhodder “WRPA 1999”(4).
Diwygio Rhan 5 (buddion ymddeol)
4. Yn Rhan 5 (buddion ymddeol), yn rheoliad 80A(5) (opsiwn i gymudo rhan o swm cyfwerth), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Pan fo hawl gan y person i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth â phensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 ac yntau'n arfer yr opsiwn i gymudo o dan y rheoliad hwn, cyfrifir y cyfandaliad yn unol â rheol B7 (cymudo – darpariaeth gyffredinol) o Gynllun 1992.”
Diwygio Rhan 6 (buddion marwolaeth)
5.—(1) Mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 87(1) (pensiwn sy'n daladwy bartner sy'n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) yn lle “gyda mwy na thri” rhodder “gydag o leiaf dri”.
(3) Yn rheoliad 101(3) a (4) (pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys), yn lle “pensiwn partner sy'n goroesi”, ym mhob lle y mae'r geiriau'n digwydd, rhodder “pensiwn plentyn cymwys”.
Diwygio Rhan 8 (cyfraniadau)
6.—(1) Mae Rhan 8 (cyfraniadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 120(2) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o'r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig), ar ôl “hwnnw”...
To continue reading
Request your trial