Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2002/1187 (Cymru) |
2002 Rhif 1187 (Cy.135)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002
25 Ebrill 2002
26 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir iddo gan adrannau 6(4) a (5), 7(1) a (9) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) : -
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 26 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau llawn 2002 - 05 a chynlluniau dilynol (p'un ai llawn neu atodol) yn unig.
Diddymu ac arbed
2. - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999(3).
(2) Ni fydd diddymu'r rheoliadau yn (1) uchod yn rhagfarnu dilysrwydd parhaus y cynlluniau sydd eisoes wedi'u gwneud o dan y rheoliadau hynny.
Dehongli
3. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
mae i "anghenion addysgol arbennig" yr ystyr a roddir i "special educational needs" gan adran 312(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr "atodiadau" ("annexes") yw atodiadau i ddatganiad o gynigion sy'n ffurfio rhan o gynllun strategol addysg;
ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;
ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Medi;
ystyr "cwrs byr TGAU" ("GCSE short course") yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo, ac ystyr "arholiad cwrs byr TGAU" ("GCSE short course examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;
ystyr "cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd" ("to achieve the Core Subject Indicator") yw -
(i) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol dau, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 4 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth,(ii) mewn perthynas â disgyblion cyfnod allweddol tri, fod y disgyblion hynny i gael eu hasesu fel pe baent wedi cyrraedd lefel 5 neu'n uwch ym mhrofion y CC ar gyfer y cyfnod allweddol hwnnw mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn mathemateg a gwyddoniaeth, a(iii) mewn perthynas â disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol o dan sylw, fod y disgyblion hynny wedi ennill unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn Cymraeg (heblaw am Gymraeg fel ail iaith) neu Saesneg ac mewn arholiad TGAU mathemateg ac arholiad TGAU gwyddoniaeth;ystyr "cyfnod allweddol dau" ("second key stage") a "cyfnod allweddol tri" ("third key stage") yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (b) ac (c) yn y drefn honno o adran 355(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "cyfnod y cynllun" ("period of the plan") yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 4;
ystyr "cymhwyster galwedigaethol" ("vocational qualification") yw -
(a) GNVQ Rhan Un,(b) GNVQ Canolradd,(c) GNVQ Sylfaen,(ch) Uned Iaith GNVQ, neu(d) NVQ,a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
ystyr "cynllun atodol" ("supplementary plan") yw cynllun strategol addysg sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun atodol cyntaf" ("first supplementary plan") ac "ail gynllun atodol" ("second supplementary plan") mewn perthynas â chynllun llawn yw'r cynlluniau atodol a baratoir mewn perthynas â'r cyfnodau a bennir yn rheoliadau 4(3) a 4(4) yn ôl eu trefn;
ystyr "cynllun llawn" ("full plan") yw cynllun strategol addysg a baratoir gan awdurdod sy'n ymdrin â'r materion ac sy'n cynnwys y deunydd a bennir yn Rhannau II a III o'r rheoliadau hyn, ac ystyr "cynllun llawn 2002 - 05" ("2002 - 05 full plan") yw'r cynllun llawn y cyfeirir ato yn Rheoliad 4(1);
ystyr "cynllun strategol addysg" ("education strategic plan") yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod yn unol ag adran 6(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996(4);
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i "derbyn gofal gan awdurdod lleol" mewn perthynas â phlentyn yr ystyr a roddir i "looked after by a local authority" yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989(5), a dehonglir "plant sy'n derbyn gofal" ("looked after children") yn unol â hynny;
mae i "disgybl" yr ystyr a roddir i "pupil" yn adran 3 o Ddeddf 1996;
ystyr "disgyblion cyfnod allweddol dau" ("second key stage pupils") a "disgyblion cyfnod allweddol tri" ("third key stage pupils") yw disgyblion sydd yng nghyfnodau allweddol dau a thri yn y drefn honno;
ystyr "disgyblion sy'n destun datganiad" ("statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig y gwnaed datganiad ar eu cyfer o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 ac ystyr "disgyblion nad ydynt yn destun datganiad" ("non-statemented pupils") yw disgyblion ag anghenion addysgol arbennig na wnaed datganiad o'r fath ar eu cyfer;
ystyr "diwrnod cyntaf y cynllun" ("the first day of the plan") mewn perthynas â chynllun strategol addysg yw diwrnod cyntaf y cyfnod y mae'r cynllun hwnnw yn ymwneud ag ef;
"dosbarth prif-ffrwd" ("mainstream class") yw dosbarth mewn ysgol brif-ffrwd, nas dynodwyd gan yr awdurdod yn ddosbarth arbennig;
ystyr "dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census enumeration date") yw'r dyddiad y cyfeirir ato yn flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y dyddiad y mae'n gofyn i wybodaeth gael ei darparu ar ei gyfer mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "ELQ" ("ELQ") yw cymhwyster a ddisgrifir ac sydd wedi'i gymeradwyo fel Cymhwyster Lefel Mynediad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(6);
ystyr "ffurflen Gyfrifiad Ysgolion" ("Schools' Census return") yw'r ffurflen y mae'n ofynnol i awdurdod ei llenwi bob blwyddyn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 1996;
ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;
ystyr "lefel 4" ("level 4") a "lefel 5" ("level 5") yw lefelau 4 a 5 yn y drefn honno o raddfa lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol fel y'u pennir drwy ganlyniadau profion y CC;
ystyr "NVQ" ("NVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;
ystyr "plant i deithwyr" ("travellers' children"), mewn perthynas â chynllun, yw plant -
(a) sydd oherwydd dull o fyw eu rhieni, naill ai heb gartref sefydlog neu sy'n gadael eu prif breswylfan i fyw yn rhywle arall am gyfnodau arwyddocaol ym mhob blwyddyn; neu(b) sy'n dod o fewn paragraff (a) uchod o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn union cyn diwrnod cyntaf y cynllun;ystyr "profion y CC" ("NC tests") yw profion y Cwricwlwm Cenedlaethol a weinyddir i ddisgyblion er mwyn asesu eu lefel cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, sef profion a bennir mewn darpariaethau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y gorchymyn priodol a wnaed o dan adran 356(2) o Ddeddf 1996 sydd mewn grym pan weinyddir y profion hynny(7);
mae i "y pynciau craidd" yr ystyr a roddir i "the core subjects" yn adran 354(1) o Deddf 1996;
ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999(8);
ystyr "y Rheoliadau Cyllido" ("the Financing Regulations") yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999(9);
ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, ac ystyr "arholiad TGAU" ("GCSE examination") yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs astudio TGAU llawn;
ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig;
"ysgol brif-ffrwd" ("mainstream school") yw ysgol nad yw'n ysgol arbennig;
nid yw "ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod" ("schools maintained by the authority") yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y diffinnir y rheiny yma.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad -
(a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) at baragraff â rhif mewn rheoliad neu Atodlen yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno;onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(3) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl sy'n ennill -
(a) gradd mewn arholiad TGAU,(b) cymhwyster galwedigaethol, neu(c) gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,erbyn diwedd blwyddyn ysgol, fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw yn ennill y radd honno neu'r cymhwyster hwnnw yn ystod y flwyddyn ysgol y mae -
(i) yn sefyll yr arholiad hwnnw, neu(ii) (yn ôl fel y digwydd) yn cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,hyd yn oed os yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r radd neu'r cymhwyster yn cael ei wneud mewn blwyddyn ysgol ddiweddarach.
Y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion ymwneud ag ef
4. - (1) Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn cyntaf a baratoir o dan y Rheoliadau hyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "cynllun llawn 2002 - 05") ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002.
(2) Raid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn dilynol ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol, sy'n dechrau pan ddaw cyfnod y cynllun llawn blaenorol mwyaf diweddar i ben.
(3) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol cyntaf ymwneud â chyfnod o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r flwyddyn ysgol gyntaf yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.
(4) Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn ail gynllun atodol ymwneud â chyfnod -
(a) mewn perthynas yn unig â gosod targedau a bennir yn rheoliad 30, o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r...To continue reading
Request your trial