Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2004/1756 (Cymru)
Year2004

2004Rhif 1756 (Cy.188)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004

7 Gorffennaf 2004

1 Awst 2004

TREFN Y RHEOLIADAU

RHAN I -

CYFFREDINOL

1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.

Dehongli

3.

Personau rhagnodedig

4.

Datganiad o ddiben

5.

Arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion

6.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion

7.

Dogfennau'r cynllun

RHAN II -

PERSONAU COFRESTREDIG

8.

Ffitrwydd y darparwr cofrestredig

9.

Penodi rheolwr

10.

Ffitrwydd y rheolwr

11.

Person cofrestredig - gofynion cyffredinol a hyfforddiant

12.

Hysbysu tramgwyddau

RHAN III -

LLEOLIADAU OEDOLION A GOFALWYR LLEOLIADAU OEDOLION

13.

Gwneud lleoliadau a chytundebau lleoliadau oedolion

14.

Monitro ac adolygu lleoliadau

15.

Dod â lleoliadau i ben

16.

Ffitrwydd gofalwyr lleoliadau oedolion

17.

Gofalwyr lleoliadau oedolion - hyfforddiant

18.

Cynlluniau oedolion

RHAN IV -

RHEDEG CYNLLUNIAU LLEOLI OEDOLION

19.

Rhedeg cynllun lleoli oedolion yn gyffredinol

20.

Cofnodion

21.

Cwynion

22.

Adolygu ansawdd gweithredu'r cynllun

23.

Ymweliadau gan y darparwr cofrestredig

24.

Ffitrwydd y gweithwyr

25.

Staff a'u hyfforddiant

26.

Llawlyfr staff a chod ymddygiad

27.

Sefyllfa ariannol

28.

Hysbysu digwyddiadau

29.

Hysbysu absenoldeb

30.

Hysbysu newidiadau

31.

Penodi diddymwyr etc.

RHAN V -

AMRYWIOL

32.

Tramgwyddau

33.

Pennu swyddfeydd priodol

34.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

35.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002

36.

Darpariaethau trosiannol

37.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

38.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

YR ATODLENNI

1.

Cymhwyso Rhan II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i bersonau sy'n darparu cynllun lleoli oedolion a'i reoli.

2.

Y materion i'w trin yn y datganiad o ddiben.

3.

Gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion, personau sy'n darparu gwasanaethau gofal at ddibenion y lleoliad oedolion, personau sy'n darparu cynlluniau lleoli oedolion a'u rheoli.

4.

Cofnodion.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy( 1) , yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adrannau canlynol o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 2) -

(a) adrannau 3(3), 42(1), 118(5) a (7); a

(b) yn rhinwedd Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddynt( 3) , adrannau 22(1), 22 (2)(a) i (d) ac (f) i (j), 22(5), 22(7)(a) i (j), 25(1), a 34(1)( 4) ).

RHAN I -

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Awst 2004.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

dehonglir "arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion" ("adult placement scheme guide") yn unol â rheoliad 5;

ystyr "cartref" ("home") yw, pan fydd gan berson fwy nag un cartref, y cartref lle mae'r person yn preswylio fel arfer;

ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforaethol;

ystyr "cynllun lleoli oedolion" ("adult placement scheme") yw cynllun y mae trefniadau odano, neu y bwriedir gwneud trefniadau odano, i ddim mwy na dau oedolyn gael eu lletya a derbyn gofal personol yng nghartref person nad yw'n berthynas iddo;

dehonglir "cynllun oedolyn" ("adult's plan") yn unol â rheoliad 18 ac mae'n cynnwys y cynllun hwnnw fel y bydd yn cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd;

dehonglir "cytundeb lleoli oedolion" ("adult placement agreement") yn unol â rheoliad 13;

ystyr "cynrychiolydd" ("representative") mewn perthynas ag oedolyn perthnasol yw person (heblaw darparwr neu reolwr cofrestredig, aelod o staff neu ofalwr lleoliad oedolion) sydd, gyda chydsyniad datganedig neu oblygedig, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles yr oedolyn;

ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "darparwr cofrestredig" ("registered provider") yw person a gofrestrwyd o dan Ran II o'r Ddeddf fel darparwr y cynllun lleoli oedolion;

dehonglir "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yn unol â rheoliad 4;

ystyr "y Ddeddf" ("theAct") yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr "gofalwr lleoliad oedolion" ("adult placement carer") yw person y mae oedolyn yn cael ei letya yn ei gartref neu berson y mae caniatâd iddo letya oedolyn yn ei gartref a rhoi gofal personol iddo o dan gytundeb lleoli oedolion a wnaed gan y gofalwr neu o dan gytundeb lleoli oedolion y mae gofalwr yn bwriadu'i wneud;

mae "gwaith" ("work") yn cynnwys unrhyw fath ar waith, p'un a yw'n waith y telir amdano neu'n waith na thelir amdano, a ph'un a yw o dan gontract prentisiaeth, o dan gontract am wasanaethau, neu waith nad yw o dan gontract;

mae i "gwasanaethau gofal" yr un ystyr â "care services" yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975( 5);

dehonglir "lleoli" ("placed") yn unol â'r diffiniad o "lleoliad" ("placement");

ystyr "lleoliad" ("placement") yw trefniant i letya oedolyn yng nghartref gofalwr lleoliad oedolion;

ystyr "mangre cynllun" ("scheme premises") yw mangre o le mae rheoli'r cynllun lleoli oedolion yn digwydd;

mae i "oedolyn hawdd ei niweidio" yr un ystyr ag sydd i "vulnerable adult" yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975( 6);

ystyr "oedolyn perthnasol" ("relevant adult") mewn perthynas â chynllun yw oedolyn y mae caniatâd i'w leoli o dan y cynllun neu sydd wedi'i leoli o dan y cynllun;

ystyr "person cofrestredig" ("registered person") yw unrhyw berson sy'n ddarparwr cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig ar y cynllun lleoli oedolion;

ystyr "perthynas" ("relative") mewn perthynas ag oedolyn perthnasol yw -

(a) priod yr oedolyn;(b) unrhyw riant, nain (mam-gu), taid (tad-cu), plentyn, w yr, wyres, gorwyr, gorwyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai, neu nith yr oedolyn neu briod yr oedolyn;(c) priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;(ch) person y cafodd yr oedolyn ei letya gydag ef am fwy na 28 o ddiwrnodau rhwng un ar bymtheg oed a deunaw oed o dan drefniadau maethu, neu briod y person;

ac at ddibenion penderfynu sut y mae personau yn perthyn i'w gilydd trinnir llysblentyn person fel ei blentyn ef, ac mae cyfeiriadau at "priod" yn cynnwys cyn briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petaent yn wr a gwraig;

ystyr "prif swyddfa'r cynllun" ("principal office of the scheme") yw'r swyddfa lle gweinyddir y cynllun yn bennaf;

ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager") yw person a gofrestrwyd o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y cynllun lleoli oedolion;

ystyr "staff" ("staff") mewn perthynas â chynllun, yw personau, heblaw gofalwyr lleoliadau oedolion, sy'n gweithio at ddibenion y cynllun;

ystyr "swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol" ("appropriate office of the National Assembly") mewn perthynas â chynllun lleoli oedolion -

(a) os yw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu o dan reoliad 33 ar gyfer yr ardal lle mae prif swyddfa'r cynllun, y swyddfa honno; neu(b) mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

dehonglir "trefn gwyno" ("complaints procedure") yn unol â rheoliad 21; a

dehonglir "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yn unol â rheoliad 8(2);

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad -

(a) at reoliad neu Atodlen sy'n dwyn Rhif yn gyfeiriad at reoliad neu Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad ar y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw;(c) mewn paragraff i is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

(3) Yn rheoliadau 2(1) a 7 ac yn Atodlen 1, mae cyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf yn gyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd gan reoliad 3 ac Atodlen 1.

Personau rhagnodedig

3. - (1) Ac eithrio pan fydd paragraff (2) yn gymwys, mae person sy'n darparu neu'n rheoli cynllun lleoli oedolion yn cael ei ragnodi at ddibenion adran 42(1) o'r Ddeddf.

(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd y person yn unigolyn ac nid yw ond yn gwneud trefniadau ar gyfer lletya a darparu gofal personol ar gyfer ei berthynas.

(3) Mae Rhan II o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir ym mharagraff (1) yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1 ac yn unol â'r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Datganiad o ddiben

4. - (1) Mewn perthynas â'r cynllun lleoli oedolion, rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "datganiad o ddiben") a fydd wedi'i wneud o'r canlynol -

(a) datganiad o nodau ac amcanion y cynllun;(b) datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu o dan y cynllun lleoli oedolion ar gyfer oedolion perthnasol; a(c) datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 2.

(2) Rhaid i'r person cofrestredig -

(a) darparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a(b) trefnu bod y datganiad ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw oedolyn perthnasol a chynrychiolydd y math hwnnw o oedolyn ar eu cais.

Arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion

5. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio arweiniad ysgrifenedig i'r cynllun lleoli oedolion (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion") ac mae'n rhaid iddo gynnwys -

(a) crynodeb o'r datganiad o ddiben;(b) naill ai crynodeb o'r adroddiad archwilio diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw;(c) crynodeb o'r drefn gwyno a baratowyd o dan reoliad 21; ac(ch) cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

(2) Rhaid i'r person cofrestredig -

(a) darparu copi o'r arweiniad cyntaf i'r cynllun lleoli oedolion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;(b) darparu copi o'r arweiniad cyfredol i bob oedolyn pan gaiff ei leoli gyntaf o dan y cynllun lleoli oedolion;(c)...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT