Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

JurisdictionWales
CitationWSI 2015/1522 (W179) (Cymru)
Year2015

2015 Rhif 1522 (Cy. 179)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

6 Gorffennaf 2015

1 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 303(8) o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys-

(a) i geisiadau am ganiatad cynllunio y tybir iddynt gael eu gwneud yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatad cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(2), mewn cysylltiad a hysbysiad gorfodi a ddyroddir ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a(b) i'r ceisiadau a'r ymweliadau safle canlynol a wneir ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym-(i) ceisiadau am ganiatad cynllunio;(ii) ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl(3);(iii) ceisiadau o dan adran 191 o Ddeddf 1990 (tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol)(4);(iv) ceisiadau o dan adran 192 o Ddeddf 1990 (tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad arfaethedig)(5);(v) ceisiadau am ganiatad i arddangos hysbysebion;(vi) ceisiadau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, y cyfeirir atynt yn rheoliad 13;(vii) ymweliadau safle a safle mwyngloddio neu safle tirlenwi;(viii) ceisiadau o dan amod cynllunio; a(ix) ceisiadau o dan adran 96A(4) o Ddeddf 1990 (pwer i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatad cynllunio)(6).

Dehongli

2.-(1) Yn y Rheoliadau hyn-

mae i "caniatad cynllunio amlinellol" ("outline planning permission") yr un ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu;

ystyr "caniatad mwynau" ("mineral permission") yw unrhyw ganiatad cynllunio ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys-

(a) cloddio a gweithio mwynau; neu(b) gollwng gwastraff mwynau;

ystyr "caniatad tirlenwi" ("landfill permission") yw unrhyw ganiatad cynllunio-

(a) ar gyfer datblygiad gweithredol tir y bwriedir ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel safle i waredu gwastraff drwy ollwng gwastraff ar y tir neu i mewn ynddo, neu(b) ar gyfer unrhyw newid defnydd sylweddol o safle o'r fath;

ystyr "Deddf 1990" ("the 1990 Act") yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

mae "defnydd o dir" ("use of land") yn cynnwys defnyddio tir ar gyfer cloddio a gweithio mwynau;

ystyr "y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir" ("the General Permitted Development Order") yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(7);

ystyr "y Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu" ("the Development Management Procedure Order") yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(8);

ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989(9);

ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(10);

ystyr "safle mwyngloddio" ("mining site") yw-

(a) cyfanswm arwynebedd y tir y mae unrhyw ddau neu ragor o ganiatadau mwynau yn ymwneud ag ef pan fo cyfanswm arwynebedd y tir-(i) yn cael ei weithio fel safle sengl; neu(ii) yn cael ei drin fel safle sengl gan yr awdurdod cynllunio lleol at ddibenion Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau)(11) neu Atodlen 14 i'r Ddeddf honno (adolygu yn gyfnodol hen ganiatadau cynllunio mwynau)(12); a (b) mewn unrhyw achos arall, y tir y mae caniatad mwynau yn ymwneud ag ef;

ystyr "safle tirlenwi" ("landfill site") yw'r tir y mae caniatad tirlenwi yn ymwneud ag ef;

ystyr "ty annedd" ("dwellinghouse") yw adeilad(13) a ddefnyddir fel ty annedd preifat sengl ac nas defnyddir ar gyfer unrhyw ddiben arall;

ystyr "ty gwydr" ("glasshouse") yw adeilad-

(a) sydd a dim llai na thri chwarter cyfanswm ei arwynebedd allanol yn cynnwys gwydr neu ddeunydd tryleu arall;(b) wedi ei gynllunio at y diben o gynhyrchu blodau, ffrwythau, llysiau, perlysiau neu gynhyrchion garddwriaethol eraill; ac(c) a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio, at ddibenion amaethyddiaeth yn unig;

ystyr "ymweliad safle" ("site visit") yw awdurdod cynllunio lleol yn mynd i mewn i safle mwynau neu safle tirlenwi er mwyn-

(a) canfod a oes unrhyw doriad rheolaeth gynllunio yn digwydd neu wedi digwydd ar y safle;(b) penderfynu a ddylid arfer, mewn perthynas a'r safle, unrhyw bwerau a roddwyd i'r awdurdod cynllunio lleol gan Ran 7 o Ddeddf 1990 (gorfodi)(14);(c) penderfynu sut y dylid arfer unrhyw bwer o'r fath mewn perthynas a'r safle hwnnw; neu(d) canfod a fu unrhyw gydymffurfiad ag unrhyw ofyniad a osodwyd o ganlyniad i arfer unrhyw bwer o'r fath mewn perthynas a'r safle.

(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn rheoliad 12 ac Atodlen 2, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn Rheoliadau 1992, yr ystyron a roddir i'r cyfystyron Saesneg hynny yn Rheoliadau 1992.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru.

Ffioedd am geisiadau cynllunio

3.-(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 4 i 8, pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatad cynllunio ar gyfer datblygu tir neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, rhaid talu ffi i'r awdurdod hwnnw.

(2) Cyfrifir y ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad a'r cais yn unol ag Atodlen 1.

(3) Pan fo ffi'n daladwy mewn cysylltiad a chais, rhaid talu'r ffi i'r awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo, a rhaid ei chyflwyno ynghyd a'r cais.

(4) Os nad yr awdurdod cynllunio lleol sy'n cael y ffi yn unol a pharagraffau (1) i (3) yw'r awdurdod cynllunio lleol sy'n gorfod penderfynu'r cais, rhaid i'r awdurdod sy'n cael y ffi anfon y ffi at yr awdurdod hwnnw yr un pryd ag y bydd yn anfon y cais ymlaen ato.

(5) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol a'r rheoliad hwn os gwrthodir y cais ar y sail ei fod yn annilys.

Eithriadau - mynediad a chyfleusterau ar gyfer personau anabl

4.-(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig ag-

(a) cyflawni gweithrediadau i addasu neu estyn ty annedd presennol; neu(b) cyflawni gweithrediadau o fewn cwrtil ty annedd presennol (ac eithrio codi ty annedd),

at y diben, yn y naill achos a'r llall, o ddarparu mynedfa i'r ty annedd, neu oddi mewn i'r ty annedd, ar gyfer person anabl sy'n preswylio neu'n bwriadu preswylio yn y ty annedd hwnnw, neu o ddarparu cyfleusterau a fwriadwyd i sicrhau gwell diogelwch, iechyd neu gysur i'r person hwnnw.

(2) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol y gwneir y cais iddo fod y cais yn ymwneud yn unig a chyflawni gweithrediadau at y diben o ddarparu mynedfa ar gyfer personau anabl i adeilad neu fangre y derbynnir aelodau'r cyhoedd iddynt (pa un ai am dal ai peidio), neu oddi mewn i adeilad neu fangre o'r fath.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn anabl-

(a) os oes nam sylweddol ar olwg, clyw neu leferydd y person hwnnw;(b) os oes gan y person hwnnw anhwylder meddyliol; neu(c) os gwnaed y person hwnnw yn sylweddol anabl yn gorfforol gan unrhyw salwch, unrhyw nam a oedd yn bresennol o'i enedigaeth, neu rywfodd arall.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr "anhwylder meddyliol" ("mental disorder") yw unrhyw anhwylder neu anabledd y meddwl.

Eithriadau - pan nad yw caniatad a roddir gan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn gymwys

5.-(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol-

(a) bod y cais yn ymwneud yn unig a datblygiad sydd o fewn un neu ragor o'r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir(15); a(b) nad yw'r caniatad a roddir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw (datblygu a ganiateir)(16) yn gymwys mewn cysylltiad a'r datblygiad hwnnw oherwydd (ac yn unig oherwydd)- (i) cyfarwyddyd a wnaed o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwnnw (cyfarwyddiadau sy'n cyfyngu ar ddatblygu a ganiateir)(17) sydd mewn grym ar y dyddiad y gwnaed y cais; neu(ii) gofynion amod a osodwyd ar ganiatad a roddwyd, neu y tybir iddo gael ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 (rheolaeth dros ddatblygu)(18) rywfodd ac eithrio gan y Gorchymyn hwnnw.

(2) Rhaid dehongli ceisiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) fel pe baent yn cynnwys ceisiadau am ganiatad cynllunio i barhau'r defnydd o dir, neu gadw adeiladau neu weithfeydd, heb gydymffurfio ag amod y rhoddwyd caniatad cynllunio blaenorol yn ddarostyngedig iddo, pan fo'r amod hwnnw'n gwahardd neu'n cyfyngu ar gyflawni unrhyw ddatblygiad o fewn un neu ragor o'r dosbarthiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir.

Eithriadau - cais mewn perthynas a'r un dosbarth defnydd yn angenrheidiol oherwydd amod

6. Nid yw rheoliad 3 yn gymwys pan fodlonir yr awdurdod cynllunio lleol-

(a) bod y cais yn ymwneud yn unig a'r defnydd o adeilad, neu dir arall, at ddiben o unrhyw ddosbarth a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987(19);(b) bod defnydd presennol yr adeilad neu'r tir arall hwnnw at ddiben arall o'r un dosbarth; ac(c) bod gwneud cais am ganiatad cynllunio mewn cysylltiad a'r defnydd y mae'r cais yn ymwneud ag ef yn angenrheidiol oherwydd (ac yn unig oherwydd) gofynion amod a osodwyd ar ganiatad a roddwyd, neu y tybir iddo gael ei roi, o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Eithriadau - cydgrynhoi caniatadau mwynau sy'n bodoli eisoes

7. Nid yw rheoliad 3 yn gymwys mewn perthynas a chais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatad i gyflawni datblygiad sy'n cynnwys cloddio a gweithio mwynau-

(a) pan fo'r cais am...

Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI

Get Started for Free

Start Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant

  • Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database

  • Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength

  • Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities

  • Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting

vLex