Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016
| Jurisdiction | Wales |
| Citation | WSI 2016/57 (W27) (Cymru) |
| Year | 2016 |
2016 Rhif 57 (Cy. 27)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016
Gwnaed 27th January 2016
Yn dod i rym 1st March 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 303(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys—
pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru)2; neu
pan gynigir bod cais o’r fath yn cael ei wneud.
Dehongli
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd naill ai’n bwriadu gwneud cais neu sydd wedi gwneud cais o’r fath;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 20163;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw’r person a benodir o dan Reoliadau 2016 i arfer y swyddogaethau a bennir yn y Rheoliadau hynny (yn ddarostyngedig bob amser i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff 9 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990)4; ac
ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 20165.
Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad—
at gael taliad o ffi yn gyfeiriad at y derbynnydd yn cael taliad o swm llawn y ffi mewn arian a gliriwyd;
at fethiant i dalu ffi yn gyfeiriad at y derbynnydd yn peidio â chael swm llawn y ffi mewn arian a gliriwyd, neu yn cael siec nas anrhydeddir yn ddiweddarach am swm llawn y ffi; ac
at golofn neu res yn gyfeiriad at golofn neu res yn y tabl yn yr Atodlen.
Ffi am wasanaethau awdurdodau cynllunio lleol cyn ymgeisio
Pan wneir archiad gwasanaethau cyn ymgeisio gan awdurdod cynllunio lleol o dan Reoliadau 2016, rhaid talu ffi i’r awdurdod.
Y ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
Rhaid cyflwyno’r ffi ynghyd â’r archiad.
Os yw’r ceisydd yn methu â thalu’r ffi o dan y rheoliad hwn, ni fydd rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r archiad hyd nes bo’r awdurdod yn cael y taliad.
Rhaid i unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn gael ei ad-dalu os gwrthodir yr archiad fel un annilys.
Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr awdurdod cynllunio lleol” (“the local planning authority”) yw’r awdurdod lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, wedi gwneud y cais arfaethedig iddo.
Ffi am wasanaethau Gweinidogion Cymru cyn ymgeisio
Pan fo Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio yn unol â Rheoliadau 2016 (“gwasanaethau cyn ymgeisio”) (“pre-application services”), rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru.
Cyfrifir y ffi sy’n daladwy drwy luosi cyfanswm yr amser (mewn oriau a rhannau o awr) a dreulir gan swyddog cynllunio yn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio gyda’r gyfradd fesul awr am swyddog cynllunio.
Y gyfradd fesul awr am swyddog cynllunio yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd fesul ysbaid resymol mewn cysylltiad â nifer yr oriau a dreulir yn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio a swm y ffi am y gwasanaethau hynny.
Rhaid i unrhyw ffi sy’n ddyladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau cyn cymhwyso gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir yr anfoneb berthnasol oddi wrth Weinidogion Cymru.
Os yw’r ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi am wasanaethau cyn cymhwyso o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddarpariaeth o wasanaethau cyn ymgeisio hyd nes byddant wedi cael y taliad.
Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog cynllunio” (“planning officer”) yw swyddog sy’n gweithio i gyd-asiantaeth weithredol yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru, a elwir yr Arolygiaeth Gynllunio.
Ffi am hysbysu ynghylch cais arfaethedig
Pan fo’r ceisydd yn rhoi hysbysiad ynghylch cais arfaethedig yn unol ag adran 62E(1) o Ddeddf 1990 (hysbysiad o gais arfaethedig o dan adran 62D)6, rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru (“ffi hysbysu”) (“notification fee”).
Y ffi hysbysu yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
Rhaid cyflwyno’r ffi hysbysu ynghyd â’r hysbysiad.
Ffi am wneud cais
Rhaid i ffi gael ei thalu i Weinidogion Cymru gan y ceisydd am wneud cais.
Y ffi yw swm cyfanredol y canlynol—
y ffi ddechreuol yn unol â rheoliad 7;
y ffi am bob adroddiad ar yr effaith leol yn unol â rheoliad 8;
y ffi am archwilio cais, a gyfrifir yn unol â rheoliad 10(2);
y ffi am unrhyw hysbysiad o fwriad i amrywio cais yn unol â rheoliad 11(2); ac
y ffi am benderfynu cais gan Weinidogion Cymru, a gyfrifir yn unol â rheoliad 12(2).
Ffi ddechreuol am wneud cais
Pan wneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid talu ffi ddechreuol i Weinidogion Cymru (“ffi ddechreuol”) (“initial fee”).
Y ffi ddechreuol yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
Rhaid cyflwyno’r ffi ddechreuol ynghyd â’r cais.
Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu 75% o’r ffi ddechreuol i’r ceisydd os—
tynnir y cais yn ôl cyn bo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad derbyn i’r ceisydd; neu
hysbysir y ceisydd o dan erthygl 15(5) o Orchymyn 2016 nad yw’r cais wedi ei dderbyn.
Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu 25% o’r ffi ddechreuol i’r ceisydd os oes hysbysiad derbyn wedi ei roi ond tynnir y cais yn ôl cyn diwedd y cyfnod sylwadau.
Ym mharagraffau (4) a (5), mae’r cyfeiriadau at y ffi ddechreuol yn gyfeiriadau at y ffi ddechreuol a dalwyd gan y ceisydd i Weinidogion Cymru.
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad o dan erthygl 15(2) o Orchymyn 2016 bod y cais wedi ei dderbyn; ac
ystyr “y cyfnod sylwadau” (“the representation period”) yw’r cyfnod y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn 20167.
Ffi am adroddiad ar yr effaith leol
Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phob adroddiad ar yr effaith leol8y gwneir yn ofynnol bod awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn ei gyflwyno9(“ffi am adroddiad”) (“report fee”).
Y ffi am adroddiad yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
Rhaid cyflwyno’r ffi am adroddiad ynghyd â’r cais.
Rhaid i Weinidogion Cymru—
anfon y cyfryw ffi ymlaen yn unol â rheoliad 9(2); neu
anfon ac ad-dalu’r cyfryw ffi yn unol â rheoliad 9(3); neu
ad-dalu’r cyfryw ffi yn unol â rheoliad 9(1) neu 9(4).
Peidio â chodi ffi am adroddiad a’i had-dalu
Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r ffi am adroddiad i’r ceisydd pan—
tynnir y cais yn ôl cyn bo awdurdod cynllunio lleol perthnasol wedi cyflwyno adroddiad ar yr...
Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI
Get Started for FreeStart Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant
-
Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database
-
Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength
-
Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities
-
Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting
Start Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant