Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2002/2935 (Cymru) |
2002Rhif 2935 (Cy.277)
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
27 Tachwedd 2002
31 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23(2)(a) ac (f), (5) a (9), 23A(3), 25(2) a (7), 26(1), (2), (5) a (6), 51(4), 59(2) i (5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989( 1) a pharagraffau 13 a 14 o Atodlen 2, paragraff 4(1)(a) o Atodlen 4, paragraff 7(1)(a) o Atodlen 5, a pharagraff 10(1)(a) a (2)(1) o Atodlen 6 iddi, ac adrannau 3(3), 12(2)(a), 16(1)(a) a (3), 22(1) a 118(6) o'r Ddeddf Safonau Gofal( 2) ac yntau o'r farn nad yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau eraill a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2000( 3) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "cartref" ("home") yw -
(a) cartref cymunedol o fewn ystyr adran 53 o Ddeddf 1989;(b) cartref a gofrestrwyd o dan Ran VIII o Ddeddf 1989( 4);(c) cartref a gofrestrwyd mewn cofrestr a gadwyd at ddibenion adran 60 o Ddeddf 1989( 5);(ch) cartref y cyfeirir ato yn erthygl 3(9) o Orchymyn Cychwyn Rhif 8( 6);(d) cartref gofal preswyl o fewn ystyr adran 1(1) o Ddeddf 1984, cartref nyrsio o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf 1984, a chartref nyrsio meddwl o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf 1984( 7) );ystyr "Deddf 1984" ("1984 Act") yw Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984( 8);
ystyr "Deddf 1989" ("1989 Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "Deddf 2000" ("2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "Gorchymyn Cychwyn Rhif 8" ("the No. 8 Commencement Order") yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion a Chanlyniadol) 2002( 9).
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2. - (1) Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002( 10) caiff y diffiniad o "perthynas" ei ddiywgio yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle'r geiriau "(ch) unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw" rhoddir "(ch) unrhyw unigolyn a gafodd ei letya am gyfnod hwy na 28 diwrnod rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed o dan drefniadau maethu a wnaed gyda'r person hwnnw, neu briod yr unigolyn hwnnw".
Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
3. Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002( 11) ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosodir y geiriau "heblaw pan fo'r ceisydd yn awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG,".
Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002
4. Yn rheoliad 7(5)(c) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002( 12) yn lle'r gair "home" rhoddir "independent hospital or clinic".
Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991
5. - (1) Caiff Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991( 13) ) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2), 2(1), 5(1), 6, 10(2) a (3) ac 11, ac ym mharagraff 5 o Atodlen 4, yn lle'r geiriau "registered children's home" rhoddir y geiriau "private children's home" bob tro y digwydd.
(3) Yn rheoliad 1(2) (dehongli), yn y diffiniad o "placement", yn lle "(b), (c), (d)" rhoddir "(aa)" ym mharagraff (a) a (b)( 14).
(4) Yn rheoliad 2(2) (cymhwyso'r rheoliadau) ar ôl y geiriau "voluntary organisation", rhoddir ", in a school which is a children's home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.".
(5) Yn rheoliad 11 (mynediad gan warcheidwaid ad litem i gofnodion a'r...
To continue reading
Request your trial