Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2006/3251 (Cymru)

2006Rhif 3251 (Cy.295)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006

5 Rhagfyr 2006

1 Ionawr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2), 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi 1; adrannau 14(1)(d), 16, 22, 25, 33, 42(1), 48(1), 50 a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 2; ac adrannau 2(6)(b), 9(1) a (3), 10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 3

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

2.Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 4 fel a ganlyn -

(a) Yn rheloiad 3(3) yn lle "paragraff (1)(ch)" rhodder "paragraff (1)(dd)"(b) Yn lle rheoliad 25 (Adolygu Ansawdd y Gofal) rhodder-

Adolygu Ansawdd y Gofal

25.-

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i'r defnyddwyr gwasanaeth.

(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu -

(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a(b) bod y person cofrestredig yn cael barn -(i) y defnyddwyr gwasanaeth;(ii) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth;(iii) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal; a(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal

ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.

(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan -

(a) defnyddwyr gwasanaeth;(b) cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth;(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal;(ch) staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal; a(d) y Cynulliad Cenedlaethol.

Asesu'r Gwasanaeth

25A.-

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth yn y cartref gofal.

(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.

Hysbysu am gydymffurfedd

25B.-

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).

(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau ..

(c) Yn lle rheoliad 23 (Cwynion) rhodder-

Cwynion

23.-

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ("y weithdrefn gwynion") ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.

(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.

(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.

(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i roi copi iddynt o'r weithdrefn gwynion ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano -

(a) y defnyddwyr gwasanaeth;(b) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth; ac(c) unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu bod defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal.

(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, eu bod yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.

(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys -

(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar yn y broses pan fo'n briodol.

(8) Os bydd y weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid bod y ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cartref.

Ymdrin â Chwynion

23A.-

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 23 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddiwr gwasanaeth.

(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod sydd wedi trefnu i letya'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.

(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.

(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.

(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.

Datrysiad lleol

23B.-

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau .

(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.

(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.

Ystyriaeth Ffurfiol

23C.-

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.

(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid iddo grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.

(4) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.

(5) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.

(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.

Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol

23D.-

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater-

(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel "cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol.

(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT