Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Publication DateJanuary 01, 2017

2017 Rhif 202 (Cy. 57)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Gwnaed 23th February 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27th February 2017

Yn dod i rym 1st April 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(8), 12(2), 15(3) a (5), 16(1) a (3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5)(a) a (7)(a) i (h), (j) a (k), 25(1), 33, 34(1), 35, 42(1) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 20001ac wedi ymgynghori2â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn3.

1 Cyffredinol

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi a chychwyn
S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017.

Cymhwyso
S-2 Cymhwyso

Cymhwyso

2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
S-3 Dehongli

Dehongli

3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 20104;

ystyr “claf” (“patient”) yw person y darperir gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau proffesiynol eraill iddo;

mae i “cwmpas ymarfer” yr ystyr a roddir i “scope of practice” ar gyfer deintyddion a phroffesiynolion gofal deintyddol yn y canllawiau ar gwmpas ymarfer a gyhoeddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o bryd i’w gilydd;

ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel y person sy’n cynnal practis deintyddol preifat;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r datganiad a lunnir yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Deintyddion 19845;

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 20056;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf 1984;

ystyr “deintyddfa symudol” (“mobile surgery”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yw unrhyw gerbyd lle y darperir gwasanaethau deintyddol preifat;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000 ac, mewn cysylltiad â Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ei ystyr yw’r Rhan honno fel y’i cymhwysir gydag addasiadau i bractisau deintyddol preifat gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 20177a chan reoliad 39 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “ffi amrywiad mawr” (“major variation fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i amrywio amod cofrestru pan fo’r awdurdod cofrestru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol iddo arolygu o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “ffi mân amrywiad” (“minor variation fee”) yw’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais i amrywio amod cofrestru pan na fo’r awdurdod cofrestru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol iddo arolygu o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “gwasanaethau cartref” (“domiciliary services”) yw cwrs o driniaeth, neu ran o gwrs o driniaeth, a ddarperir mewn lleoliad ac eithrio—

(a) y fangre a ddefnyddir i gynnal practis deintyddol preifat;

(b) deintyddfa symudol unrhyw ddarparwr gwasanaethau deintyddol preifat;

(c) carchar;

ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw gofal a thriniaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;

ystyr “gwasanaethau deintyddol preifat” (“private dental services”) yw gwasanaethau deintyddol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20068ac mae “deintyddiaeth breifat” (“private dentistry”) i gael ei dehongli yn unol â hynny;

ystyr “gwasanaethau proffesiynol perthnasol” (“relevant professional services”) yw darparu gwasanaethau proffesiynol yn unol â chwmpas ymarfer llawn proffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio yn unol â phresgripsiwn gan ddeintydd ond nid yw’n cynnwys—

(a) darparu gwasanaethau gwynnu dannedd gan hylenydd deintyddol neu therapydd deintyddol, a

(b) darparu a chynnal a chadw dannedd gosod i gleifion â dannedd9gan dechnegydd deintyddol clinigol;

ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf 1984;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sy’n ddarparwr cofrestredig neu’n rheolwr cofrestredig practis deintyddol preifat;

ystyr “practis deintyddol preifat” (“private dental practice”) yw ymgymeriad sy’n darparu neu sy’n cynnwys darparu—

(a) gwasanaethau deintyddol preifat; neu

(b) gwasanaethau proffesiynol perthnasol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—

(a) hylenydd deintyddol;

(b) therapydd deintyddol; neu

(c) technegydd deintyddol clinigol;

ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 200810;

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 201111;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel rheolwr practis deintyddol preifat;

ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu unrhyw gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth;

ystyr “swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru” (“appropriate office of the registration authority”) mewn perthynas â phractis deintyddiaeth preifat yw—

(a) os yw swyddfa wedi ei phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae’r practis deintyddol preifat ynddi, y swyddfa honno;

(b) mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa’r awdurdod cofrestru;

mae “triniaethau a all arwain at gysylltiad” (“exposure-prone procedures”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cyfeirio at driniaethau mewnwthiol pan fo risg y gall anaf i’r deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol arwain at gysylltiad rhwng meinwe agored claf a gwaed y deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn sy’n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd, neu swyddog arall i’r sefydliad ac sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli practis deintyddol preifat;

mae i “ysbyty gwasanaeth iechyd” yr un ystyr â “health service hospital” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “yswiriant” (“insurance”) yw—

(a) contract yswiriant sy’n darparu sicrwydd o ran atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwaith fel deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol, neu

(b) trefniant a wneir at ddibenion indemnio person rhag atebolrwyddau o’r fath.

(2) Caiff yr awdurdod cofrestru bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth i fod y swyddfa briodol mewn perthynas â phractisau deintyddol preifat mewn ardal benodol o Gymru.

(3) Pan fo person yn gweithredu ar ran claf (gan gynnwys pan fo’r claf yn blentyn neu’n glaf nad oes ganddo alluedd) at ddibenion y Rheoliadau hyn a phan fo’r cyd-destun yn mynnu, mae ystyr “claf” (“patient”) hefyd yn cynnwys person sy’n gweithredu ar ran y claf.

Eithriadau
S-4 Eithriadau

Eithriadau

4. At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw ymgymeriad yn bractis deintyddol preifat—

(a) os yw’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd sydd wedi ei gyflogi mewn ysbyty gwasanaeth iechyd ac sy’n darparu gwasanaethau o’r fath yn yr ysbyty hwnnw’n unig; neu

(b) os yw’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd neu wasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol mewn ac at ddibenion ysbyty annibynnol yn unig.

Datganiad o ddiben
S-5 Datganiad o ddiben

Datganiad o ddiben

5.—(1) Rhaid i’r person cofrestredig lunio, mewn perthynas â’r practis deintyddol preifat, ddatganiad ar bapur (“y datganiad o ddiben”) sy’n cynnwys y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2) Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu copi o’r datganiad o ddiben i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, ei roi ar wefan y practis deintyddol preifat (os oes gan y practis wefan) a rhoi copi ohono ar gael cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar gais gan glaf.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod y practis deintyddol preifat yn cael ei redeg mewn modd sy’n gyson â’i ddatganiad o ddiben.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (3), rheoliad 13(1) na 22(1) a (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig, nac yn awdurdodi’r person cofrestredig, i dorri neu i beidio â chydymffurfio—

(a)

(a) ag unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)

(b) â’r amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru’r person cofrestredig o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Gwybodaeth i gleifion
S-6 Gwybodaeth i gleifion

Gwybodaeth i gleifion

6.—(1) Rhaid i’r person cofrestredig lunio dogfen (“y daflen gwybodaeth i gleifion”), y mae rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(2) Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu copi o’r daflen gwybodaeth i gleifion i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, ei rhoi ar wefan y practis deintyddol preifat (os oes gan y practis wefan) a rhoi copi ohoni ar gael cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar gais gan glaf.

(3) Rhaid i’r person cofrestredig sicrhau bod gwybodaeth ddangosol am y ffioedd sy’n daladwy gan gleifion yn cael ei harddangos mewn man amlwg yn y practis deintyddol preifat, mewn rhan y mae gan gleifion fynediad iddi.

Adolygu’r datganiad o ddiben a’r daflen gwybodaeth i gleifion
S-7 Adolygu’r datganiad o ddiben a’r daflen gwybodaeth i gleifion

Adolygu’r datganiad o ddiben a’r daflen gwybodaeth i gleifion

7. Rhaid i’r person cofrestredig—

(a) adolygu’r datganiad o ddiben a’r daflen gwybodaeth i gleifion o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis a gwneud unrhyw ddiwygiad y mae ei angen i gynnal eu cywirdeb; a

(b) hysbysu swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru ynghylch unrhyw ddiwygiad o’r fath o fewn 28 o ddiwrnodau i’r adolygiad.

Polisïau a gweithdrefnau
S-8 Polisïau a gweithdrefnau

Polisïau a gweithdrefnau

8.—(1) Rhaid i’r person cofrestredig lunio a...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT