Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013

JurisdictionEngland & Wales

2013Rhif 1141 (Cy.121)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013

14 Mai 2013

17 Mai 2013

8 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 1) ac a freinir bellach ynddynt hwy( 2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2013.

(2) Mae paragraffau 4, 11 a 12 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas a'r flwyddyn ysgol 2014/2015 a'r blynyddoedd dilynol.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ysgol a gynhelir yng Nghymru sy'n cynnwys dosbarth babanod( 3).

Dehongli

2. (1) Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "addysg addas" ("suitable education") mewn perthynas a phlentyn yw addysg amser llawn effeithlon sy'n addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod gan y plentyn hwnnw;

ystyr "DA 1996" ("the EA 1996") yw Deddf Addysg 1996( 4);

ystyr "DSFfY 1998" ("the SSFA 1998") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr "plentyn sydd a datganiad" ("child with a statement") yw plentyn y cynhelir datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324(1) o DA 1996( 5).

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin plentyn fel pe bai wedi ei dderbyn i ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol os yw paragraff (3) neu (4) yn gymwys.

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os, ar yr adeg y derbyniwyd y plentyn i'r ysgol, nad oedd y plentyn yn dod o fewn grwp oedran y derbynnir y disgyblion sydd ynddo i'r ysgol fel arfer.

(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i blentyn-

(a) os oedd y plentyn, ar yr adeg y'i derbyniwyd i'r ysgol, yn dod o fewn grwp oedran y derbynnir y disgyblion sydd ynddo i'r ysgol fel arfer;(b) os oedd nifer y disgyblion yn y grwp oedran hwnnw a oedd yn ceisio cael eu derbyn i'r ysgol, yn y flwyddyn ysgol pan dderbyniwyd y plentyn hwnnw i'r ysgol am y tro cyntaf, yn fwy na nifer y disgyblion yn y grwp oedran hwnnw yr oedd yr awdurdod derbyn yn bwriadu eu derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn honno; ac(c) os cynigiwyd lle i'r plentyn yn yr ysgol ar ôl yr amser pan oedd yr awdurdod derbyn wedi penderfynu, yn unol a threfniadau derbyn yr ysgol, pa blant yn y grwp oedran hwnnw oedd i gael eu derbyn i'r ysgol.

(5) Ym mharagraffau (2) i (4) mae'r cyfeiriadau at dderbyn plentyn i ysgol yn gyfeiriadau at dderbyn plentyn i ddosbarth babanod yn yr ysgol honno.

Rheoliadau a Ddirymir

3. Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu-

(a) Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998( 6);(b) Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) (Diwygio) 2009( 7).

Terfyn ar feintiau dosbarthiadau babanod

4. (1) Ni chaiff unrhyw ddosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion tra bo sesiwn addysgu gyffredin yn cael ei chynnal gan un athro neu athrawes ysgol.

(2) Pan gynhelir sesiwn addysgu gyffredin gan fwy nag un athro neu athrawes ysgol, ni chaiff y dosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion am bob un o'r athrawon hynny.

(3) Os yw dosbarth babanod yn cynnwys unrhyw ddisgybl a eithrir (fel y'i diffinnir gan reoliad 5), mae'r terfynau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys fel pe na bai'r disgybl a eithrir wedi ei gynnwys yn y dosbarth.

Disgyblion a eithrir

5. (1) Disgybl a eithrir yw plentyn y mae unrhyw un o baragraffau 2 i 14 o'r Atodlen yn gymwys iddo.

(2) Nid yw plentyn yn ddisgybl a eithrir mewn ysgol os gellid darparu addysg addas i'r plentyn hwnnw mewn dosbarth babanod yn yr ysgol honno heb orfod cymryd camau perthnasol.

(3) Ym mharagraff (2) ystyr "camau perthnasol" ("relevant measures") yw camau-

(a) y byddai'n ofynnol eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth a'r ddyletswydd a osodir gan adran 1(6) o DSFfY 1998; a(b) a fyddent yn niweidio'r ddarpariaeth o addysg effeithlon neu'r...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT