Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2009/995 (Cymru) |
Year | 2009 |
2009Rhif 995 (Cy.81)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
11 Ebrill 2009
15 Ebrill 2009
6 Mai 2009
CYNNWYS
RHAN 1
Darpariaethau rhagarweiniol
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Cyfeiriadau at offerynnau Cymunedol
4. Ystyr "difrod amgylcheddol"
5. Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo
6. Yr ardaloedd lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys
7. Deddfwriaeth arall
8. Esemptiadau
9. Esemptiad rhag difrod i ddwr
10. Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007
11. Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill
12. Gorfodi
RHAN 2
Atal difrod amgylcheddol
13. Atal difrod amgylcheddol
14. Atal difrod amgylcheddol pellach
15. Camau gan yr awdurdod gorfodi
16. Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddus
RHAN 3
Adfer
17. Asesu difrod
18. Penderfynu atebolrwydd i adfer
19. Apelau yn erbyn atebolrwydd i adfer
20. Hysbysiadau adfer
21. Apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer
22. Darpariaethau pellach am hysbysiadau adfer
23. Camau gan yr awdurdod gorfodi
RHAN 4
Gweinyddu a gorfodi
24. Costau pan fo'r awdurdod gorfodi yn gweithredu'n lle'r gweithredwr
25. Costau sy'n ymwneud â gweinyddu
26. Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodi
27. Costau y gellir eu hadennill oddi wrth berchennog i fod yn arwystl ar fangre
28. Adennill costau oddi wrth bersonau eraill
29. Ceisiadau am gamau gan bartïon sydd â buddiant
30. Rhoi hawliau mynediad etc. ac iawndal amdanynt
31. Pwerau personau awdurdodedig
32. Darparu gwybodaeth i'r awdurdod gorfodi
33. Gorfodi
34. Cosbau
ATODLEN 1 -
Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
ATODLEN 2 -
Gweithgareddau sy'n achosi difrod
ATODLEN 3 -
Trwyddedau, etc.
ATODLEN 4 -
Adfer
RHAN 1 -
Adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir
RHAN 2 -
Adfer i gywiro difrod i dir
ATODLEN 5 -
Apelau
RHAN 1 -
Apelau os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi
RHAN 2 -
Apelau os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi
ATODLEN 6 -
Iawndal
Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi 1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 2 yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r offerynnau Cymunedol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
RHAN 1
Darpariaethau rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.-
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a'r ardaloedd a bennir yn rheoliad 6.
Dehongli
2.-
(1) Yn y Rheoliadau hyn-
ystyr "adnoddyn naturiol" (natural resource) yw-
(a) rhywogaethau a warchodir;(b) cynefinoedd naturiol;(c) rhywogaethau neu gynefinoedd ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yr hysbyswyd o'r safle o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 3;(ch) dwr; a(d) tir;ystyr "awdurdod lleol" (local authority) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
mae i "Cymru" yr ystyr a roddir i "Wales" o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 4;
ystyr "cynefin naturiol" (natural habitat) yw-
(a) cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar warchod adar gwyllt, neu Atodiad I iddi 5 neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt 6;(b) y cynefinoedd naturiol a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC; ac(c) safleoedd bridio neu orffwysfannau'r rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;ystyr "dwr daear" (groundwater) yw'r holl ddwr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd;
ystyr "gwasanaethau" (services) yw'r swyddogaethau a gyflawnir gan adnoddyn naturiol er budd adnoddyn naturiol arall neu'r cyhoedd;
ystyr "gweithgaredd" (activity) yw unrhyw weithgaredd economaidd, p'un ai'n gyhoeddus neu'n breifat a ph'un a yw'n cael ei gyflawni er elw ai peidio;
ystyr "gweithredwr" (operator) yw person sy'n gweithredu neu'n rheoli gweithgaredd, deiliad trwydded neu awdurdodiad sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwnnw neu'r person sy'n cofrestru gweithgaredd o'r fath neu'n hysbysu ohono;
ystyr "rhywogaethau a warchodir" (protected species) yw'r rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC neu a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC.
(2) Onid ydynt wedi'u diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal a chywiro difrod amgylcheddol 7 yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.
(3) Mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol a'u rhoi ar y farchnad, mae "gweithredwr" (operator) a "gweithredwr cyfrifol" (responsible operator) yn cynnwys-
(a) deiliad cydsyniad perthnasol a ddyroddwyd o dan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig 8;(b) deiliad cydsyniad perthnasol ar gyfer gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 9; neu(c) deiliad awdurdodiad perthnasol a ddyroddwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig 10.Cyfeiriadau at offerynnau Cymunedol
3.Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau Cymunedol yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
Ystyr "difrod amgylcheddol"
4.-
(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag atal difrod amgylcheddol ac adfer i gywiro'r difrod hwnnw; ac mae "difrod amgylcheddol" (environmental damage) yn ddifrod i'r canlynol-
(a) rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,(b) dwr wyneb neu ddwr daear, neu(c) tir,fel a bennir yn y rheoliad hwn.
(2) Mae difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn golygu difrod o fath a bennir yn Atodlen 1.
(3) Mae difrod amgylcheddol i ddwr wyneb yn golygu difrod i grynofa dwr wyneb sydd wedi'i dosbarthu fel y cyfryw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dwr 11 fel bod-
(a) elfen ansawdd biolegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,(b) lefel cemegyn a restrir yn y ddeddfwriaeth yn Atodiad IX neu gemegyn sydd wedi'i restru yn Atodiad X i'r Gyfarwyddeb honno, neu(c) elfen ansawdd ffisiogemegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,yn newid digon i leihau statws y grynofa ddwr yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (p'un a yw'r grynofa ddwr wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).
(4) Mae difrod amgylcheddol i ddwr daear yn golygu unrhyw ddifrod i grynofa dwr daear fel bod ei ddargludedd, lefel neu grynodiad y llygryddion yn newid digon i leihau ei statws yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ac ar gyfer llygryddion Cyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddiogelu dwr daear rhag llygredd a dirywiad 12) (p'un a yw'r grynofa dwr daear wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).
(5) Mae difrod amgylcheddol i dir yn golygu halogi tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy'n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.
Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo
5.-
(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â difrod amgylcheddol os yw wedi'i achosi gan weithgaredd yn Atodlen 2.
(2) Yn achos difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae'r Rheoliadau yn gymwys hefyd o ran difrod amgylcheddol a achosir gan unrhyw weithgaredd arall os oedd y gweithredwr-
(a) yn bwriadu achosi difrod amgylcheddol; neu(b) yn esgeulus ynghylch a fyddai difrod amgylcheddol yn cael ei achosi.Yr ardaloedd lle'r mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys
6.-
(1) Rhaid i'r difrod fod mewn ardal a bennir yn y tabl canlynol-
Y math o ddifrod |
Yr ardal lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys |
Difrod i ddwr |
Cymru a'r holl ddyfroedd hyd at un filltir fôr tua'r môr o'r gwaelodlin yng Nghymru |
Difrod mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig |
Cymru |
Difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol |
Cymru |
Difrod i dir |
Cymru |
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y gwaelodlin" (the baseline) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987 13
Deddfwriaeth arall
7.-
(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn lleihau effaith unrhyw ddeddfiad arall ynghylch difrod i'r amgylchedd.
(2) Nid ydynt yn lleihau hawl gweithredwr i gyfyngu atebolrwydd yn unol â Chonfensiwn ar Gyfyngu Atebolrwydd am Hawliadau Morol 1976 14.
Esemptiadau
8.-
(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran-
(a) difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;(b) difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu(c) difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.(2) Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei...
To continue reading
Request your trial