Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/529 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 529 (Cy. 124)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020

Gwnaed 20th May 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 21th May 2020

Yn dod i rym 22th May 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd a cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud y offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a deuant i rym ar 22 Mai 2020.

S-2 Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3, ym mharagraff (1)(b), yn lle’r geiriau o “diwrnod” hyd at y diwedd rhodder “y cynharaf o’r canlynol—

(i)

(i) dirymu’r ddarpariaeth sy’n gosod y gofyniad neu’r cyfyngiad, neu

(ii)

(ii) pan ddaw’r Rheoliadau hyn i ben o dan reoliad 15.”

(3) Yn rheoliad 13, ym mharagraff (8), yn lle “, swm y gosb benodedig yw £120 ac nid yw paragraff (7) yn gymwys” rhodder

“—

(a)

(a) nid yw paragraff (7) yn gymwys, a

(b)

(b) rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

yn £480 achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.”

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

20 Mai 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT