Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/803 (W176) (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 803 (Cy. 176)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Gwnaed 24th July 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 24th July 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2), (3) a (4)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

S-1 Enwi a dod i rym

Enwi a dod i rym

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

(2) Daw’r rheoliad hwn i rym yn union wedi i’r Rheoliadau gael eu gwneud.

(3) Daw rheoliadau 2 a 4 i rym ar 25 Gorffennaf 2020.

(4) Daw rheoliad 3 i rym ar 27 Gorffennaf 2020.

S-2 Diwygiadau sy’n dod i rym ar 25 Gorffennaf 2020

Diwygiadau sy’n dod i rym ar 25 Gorffennaf 2020

2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Hepgorer rheoliad 8.

(3) Yn rheoliad 9, yn lle “, 7(1) neu 8(1)”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “neu 7(1)”.

(4) Yn rheoliad 12(3), hepgorer is-baragraff (f).

(5) Yn rheoliad 14(2)—

(a)

(a) yn is-baragraff (j), hepgorer “hanfodol” a’r geiriau o “, gan gynnwys” hyd at y diwedd;

(b)

(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

“(ja)

“(ja) cael gafael ar ofal plant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan oruchwyliaeth i blant;”.

(6) Hepgorer rheoliad 16.

(7) Yn rheoliad 17(2), hepgorer “8(1),”.

(8) Yn rheoliad 18(1), hepgorer “8(1),”.

(9) Yn rheoliad 20(1)(a)—

(a)

(a) hepgorer “8(1),”

(b)

(b) yn lle “, 12(1) neu 16(1)” rhodder “neu 12(2)”.

(10) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 1, 2(1) a 3, yn lle “Atodlen 3” rhodder “Atodlen 4”.

(11) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 15.

(12) Hepgorer Atodlen 3.

(13) Yn Atodlen 4—

(a)

(a) ym mharagraff 24, hepgorer y geiriau mewn cromfachau;

(b)

(b) ar ôl paragraff 26 mewnosoder—

S-27

27. (1) Safleoedd gwyliau.

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(a)

(a) wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)

(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(3) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)

(a) y person sy’n berchennog ar y safle, neu

(b)

(b) person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20133yn gymwys iddo.

S-28

28. Safleoedd gwersylla.

S-29

29. Gwestai a llety gwely a brecwast.

S-30

30. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).”

S-3 Diwygiadau sy’n dod i rym ar 27 Gorffennaf 2020

Diwygiadau sy’n dod i rym ar 27 Gorffennaf 2020

3.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1(2) ar ôl “Cymru” mewnosoder “(sydd, at ddibenion Rhan 3, yn cynnwys y gofod awyr uwchben Cymru)”.

(3) Yn rheoliad 2(1), ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—

“(l)

“(l) ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(m)

(m) ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(n)

(n) mae “cerbyd” yn cynnwys cerbyd awyr, car cebl, trên, tram a llestr.”

(4) Yn rheoliad 7(2)—

(a)

(a) yn is-baragraff (a), hepgorer “1,”;

(b)

(b) hepgorer is-baragraff (d).

(5) Yn rheoliad 10—

(a)

(a) hepgorer paragraffau (1) i (3);

(b)

(b) yn y pennawd, yn lle “amlosgfeydd a chanolfannau” rhodder “canolfannau”.

(6) Yn rheoliad 12—

(a)

(a) ym mharagraff (3)(g), hepgorer “y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(2)”;

(b)

(b) ym mharagraff (4), yn lle “gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, rheilffyrdd, tramffordd, awyr neu fôr” rhodder “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus”.

(7) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—

S-12A

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus

12A. (1) Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)

(a) pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)

(b) pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)

(a) pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)

(b) mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

(c)

(c) ar fferi—

pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

(d)

(d) ar long fordeithio;

(e)

(e) pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

ar ei ben ei hunan, neu

gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

(f)

(f) pan—

caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

(g)

(g) ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, nac sydd i lanio mewn man yng Nghymru;

(h)

(h) ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)

(a) pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 20104);

(b)

(b) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(c)

(c) pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT