Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol ac Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2006

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2006/1703 (Cymru)

2006Rhif 1703 (Cy.165)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol ac Amrywiol (Cymru) (Diwygio) 2006

27 Mehefin 2006

6 Gorffennaf 2006

TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso.

2. Dehongli

3. Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002.

4. Trefniadau trosiannol

5. Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(4), (7)(f) ac (8), 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1), 16(3), 22(1), (2)(a) i (d), (f) - (j), (5)(a) a (7)(a) i (h), (j) a (k), 25(1), 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 1 ac ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n eu hystyried yn briodol 2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.-

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol ac Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2006.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.Yn y Rheoliadau hyn-

ystyr "y Ddeddf" (the Act) yw Deddf Safonnau Gofal 2000.

Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002

3.-

(1) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli) o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 3 ("Rheoliadau 2002") yn y diffiniad o "sefydliad" (establishment) yn lle'r geiriau "neu glinig annibynnol" rhodder y canlynol-

"clinig annibynnol neu asiantaeth feddygol annibynnol;

(2) Ar ôl rheoliad 4 o Reoliadau 2002, rhodder y canlynol-

Eithrio ymgymeriad rhag ei gynnwys yn y diffiniad o asiantaeth feddygol annibynnol

3A.At ddibenion y Ddeddf, eithrir unrhyw ymgymeriad sy'n darparu gwasanaethau meddygol gan ymarferydd meddygol yn unig o dan drefniadau a wneir ar ran y cleifion gan eu cyflogwr neu berson arall rhag bod yn asiantaeth feddygol annibynnol.

(3) Yn rheoliad 8(1) (Polisïau a gweithdrefnau) yn lle'r geiriau "mewn neu at ddibenion sefydliad mewn perthynas ag" rhodder y canlynol:-

mewn ysbyty annibynnol neu glinig annibynnol, neu at eu dibenion, o ran pob un o'r materion a bennir isod, ac at ddibenion asiantaeth feddygol annibynnol o ran pob un o'r materion a bennir yn is-baragraffau (a), (b), (dd), (e) ac (f).

(4) Yn rheoliad 10(3) rhodder "sefydliad" yn lle'r gair "cartref".

Trefniadau trosiannol

3.-

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn gael eu cofrestru o dan y Ddeddf ond nad...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT