Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/438 (Cymru)
Year2002

2002Rhif 438 (Cy.56)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

28 Chwefror 2002

1 Ebrill 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996( 1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

mae "aelod o'r Arolygiaeth" ("member of the Inspectorate") yn gyfystyr â "member of the Inspectorate" yn adran 46(1) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996( 3);

mae "anghenion addysgol arbennig" ("special educational needs") yn gyfystyr â "special educational needs" yn adran 312(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "arolygydd cofrestredig" ("registered inspector") yw person sydd wedi'i gofrestru yn arolygydd yn unol ag adran 7(1) a (2) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996;

ystyr "athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher") yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo neu iddi yn unol â Rhan III o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999( 4);

ystyr "athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig" ("qualified teacher") yw person sydd, yn rhinwedd y rheoliadau( 5) ynglyn â chyflogi athrawon sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988( 6) â chymhwyster i gael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol o'r math a ddisgrifir yn is-adran (12) o'r adran honno;

ystyr "awdurdod addysg" ("education authority") yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr "Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru" ("Wales Science Year") yw'r rhaglen o ddigwyddiadau, projectau ac adnoddau wedi'u cynllunio i symbylu dychymyg pobl ifanc, yn enwedig y rhai rhwng 10 a 19 oed, ynghylch gwyddoniaeth a thechnoleg sy'n rhedeg o 1 Medi 2001 i 31 Rhagfyr 2002;

ystyr "cyfarfod adolygu blynyddol" ("annual review meeting") yw cyfarfod i adolygu datganiad o anghenion addysgol arbennig fel y cyfeirir ato yn rheoliadau 15(5), 16(3) a 17(3) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994( 7) ) ;

ystyr "cyfleusterau amser hamdden" ("leisure- time facilities") yw cyfleusterau o fath y mae awdurdodau addysg dan ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu darparu o fewn i'w hardaloedd a'r ddyletswydd honno wedi'i gosod gan adrannau 2(3)(b) a 508(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "cyfnodau allweddol 1, 2, 3 a 4" ("key stages 1, 2, 3 and 4") yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (a), (b), (c) a (d), yn y drefn honno, o adran 355(1) o Ddeddf 1996;

ystyr "Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)" ("Pupil Level Annual School Census (PLASC)") yw'r cyfrifiad blynyddol y bydd yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru ei roi ar ryw ddyddiad yn y dyfodol i'r Cynulliad Cenedlethol, i ddarparu gwybodaeth am bob disgybl ar lefel y disgybl unigol yn hytrach na gwybodaeth agregedig ar lefel yr ysgol;

mae "cynllun asesu gwaelodlin" ("baseline assessment scheme") yn gyfystyr â "baseline assessment scheme" yn adran 15 o Ddeddf Addysg 1997( 8);

ystyr "cynllun datblygu ysgol" ("school development plan") yw cynllun a baratowyd gan gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw ac sy'n nodi cyrchnodau'r ysgol a'r camau sy'n angenrheidiol dros y blynyddoedd nesaf i alluogi'r ysgol i symud tuag at gyflawni'r cyrchnodau hynny;

ystyr "cynllun strategol addysg" ("education strategic plan") yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod addysg yn unol ag adran 6 o Ddeddf 1998;

ystyr "cynorthwy-ydd cynnal dysgu" ("learning support assistant") yw cyflogai i awdurdod addysg neu gyflogai i gorff llywodraethu ysgol sydd fel rheol yn bresennol mewn ystafell ddosbarth gydag athro neu athrawes ac sy'n helpu'r athro neu'r athrawes mewn perthynas â phlant sydd ag anghenion addygsol arbennig;?cq?

ystyr "cynorthwy-ydd ystafell ddosbarth" ("classroom assistant") yw cyflogai i awdurdod addysg neu gyflogai i gorff llywodraethu ysgol ac sydd fel arfer yn bresennol mewn ystafell ddosbarth gydag athro neu athrawes ac sy'n cynorthwyo'r athro neu athrawes;

ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Addysg 1996;

ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998( 9);

mae "disgybl" ("pupil") yn gyfystyr â "pupil" yn adran 3 o Ddeddf 1996;

ystyr "grant" ("grant") yw grant sy'n daladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;

ystyr "y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu" ("National Grid for Learning") yw'r system o rwydweithiau cydgysylltiol a gwasanaethau addysg sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd ac sydd wedi'i gynllunio i gefnogi addysgu, dysgu, hyfforddi a gweinyddu mewn ysgolion, y gwasanaeth addysg ehangach, a'r gymuned;

ystyr "gwariant a gymeradwywyd" ("approved expenditure") yw unrhyw wariant a gymeradwywyd yn ôl darpariaeth rheoliad 3;

ystyr "gwariant a ragnodwyd" ("prescribed expenditure") yw gwariant gan awdurdod addysg ar gyfer unrhyw bwrpas neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas a bennir yn yr Atodlen;

ystyr "gwasanaethau partneriaeth rhieni" ("parent partnership services") yw'r trefniadau a wnaed gan awdurdod addysg o dan adran 332A o Ddeddf 1996 ar gyfer rhoi cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig;

ystyr "gweithiwr ieuenctid a chymuned neu weithwraig ieuenctid a chymuned" ("youth and community worker") yw person sy'n cael ei gyflogi mewn cysylltiad â chyfleusterau amser hamdden, heblaw i wneud gwaith gweinyddol, ysgrifenyddol, clerigol neu gorfforol yn unig;

ystyr "mentor" ("mentor") yw pennaeth profiadol sy'n rhoi cyngor a chymorth i gefnogi datblygiad proffesiynol pennaeth dibrofiad;

ystyr "penderfynu" ("determine") yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;

mae "person ifanc" ("young person") yn gyfystyr â "young person" yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae "safle ysgol" ("school site") yn gyfystyr â "school site" ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf 1998;

ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;

ystyr "ysgol brif-ffrwd" ("mainstream school") yw ysgol a gynhelir nad yw'n ysgol arbennig;

ystyr "ysgol haf ar lythrennedd" ("summer literacy school") yw cynllun sy'n diwgydd yn ystod gwyliau'r haf ac sydd wedi'i anelu at godi safonau llythrennedd disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;

ystyr "ysgol haf ar rifedd" ("summer numeracy school") yw cynllun sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf ac sydd wedi'i anelu at godi safonau rhifedd disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;

mae "ysgol arbennig" ("special school") yn gyfystyr â "special school" yn adran 337(1) o Ddeddf 1996( 10).

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy ar ei gyfer

3. Ni fydd grantiau ond yn daladwy ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol ac ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant hwnnw am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Grantiau ar gyfer taliadau i drydydd partïon

4. Os -

(a) bydd awdurdod addysg yn gwario wrth wneud taliadau, boed er mwyn cynnal, cynorthwyo neu wneud rhywbeth arall, i unrhyw gorff arall neu bersonau eraill (gan gynnwys awdurdod addysg arall) sy'n gwario at ddibenion addysgol neu mewn cysylltiad â hwy, a(b) byddai gwariant y sawl sy'n derbyn y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,

rhaid i'r taliadau hynny, i'r graddau hynny, gael eu trin yn wariant a ragnodwyd at...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT