Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

JurisdictionUK Non-devolved

2005Rhif 1512 (Cy.116)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

7 Mehefin 2005

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b) a (7), 3(3) a (4)(b), 4(1)(b), (5)(b), (6) a (7), 9(1)(a), 140(1), (7) ac (8) a 142(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002( 1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol -

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

mae i "awdurdod addysg lleol" yr un ystyr â "local education authority" yn Neddf Addysg 1996( 2);

mae i "credyd treth plant" yr un ystyr â "child tax credit" yn Neddf Credydau Treth 2002( 3);

ystyr "cymhorthdal incwm" ("income support") yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992( 4);

dehonglir "cynllun" ("plan") yn unol â rheoliad 10;

ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

dehonglir "gwasanaethau cymorth mabwysiadu" ("adoption support services") yn unol â rheoliad 3;

ystyr "hysbysu" ("notify") yw hysbysu yn ysgrifenedig;

mae i "lwfans ceisio gwaith" yr un ystyr â "jobseeker's allowance" yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995( 5);

ystyr "person perthynol" ("related person") yw -

(a) perthynas o fewn yr ystyr sydd i "relative" yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas, ym marn yr awdurdod lleol, sy'n llesol i'r plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;

ystyr "person sydd â'r hawl i gael ei asesu" ("person entitled to be assessed") yw person a bennir yn adran 4(1)(a) o Ddeddf 2002 neu yn rheoliad 5(1);

ystyr "plentyn" ("child"), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;

ystyr "plentyn mabwysiadol" ("adoptive child") yw, yn ddarostyngedig i baragraff (3), plentyn sy'n blentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu'n blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;

ystyr "plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth" ("agency adoptive child") yw plentyn -

(a) y mae asiantaeth fabwysiadu, mewn perthynas ag ef, wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai person yn rhiant mabwysiadol addas i'r plentyn;(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu(c) a fabwysiadwyd ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;

ystyr "plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth" ("non-agency adoptive child") yw plentyn -

(a) y mae person mewn perthynas ag ef - (i) wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a(ii) heb fod yn rhiant naturiol neu'n llys-riant i'r plentyn; neu(b) a fabwysiadwyd gan berson - (i) nad yw'n rhiant naturiol i'r plentyn; a(ii) nad oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn,

ond nid yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;

ystyr "plentyn rhiant mabwysiadol" ("child of an adoptive parent"), mewn unrhyw achos pan fydd y ddarpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu, neu unrhyw asesiad o ran gwasanaethau cymorth mabwysiadu, mewn perthynas â mabwysiadu neu ddarpar fabwysiadu plentyn mabwysiadol gan riant mabwysiadol, yw un o blant y rhiant mabwysiadol, ac eithrio'r plentyn mabwysiadol hwnnw;

ystyr "Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)" ("the Adoption Agencies (Wales) Regulations") yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005( 6);

ystyr "rhiant mabwysiadol" ("adoptive parent") yw person -

(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;(c) sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 am ei fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn; neu(ch) sydd wedi mabwysiadu plentyn,

ond nid yw'n cynnwys person os yw'r plentyn y cyfeirir ato wedi peidio â bod yn blentyn, neu berson sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu berson a oedd yn llys-riant i'r plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn;

mae i "rhiant maeth" ("foster parent") yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003( 7);

ystyr "teulu mabwysiadol" ("adoptive family") yw plentyn mabwysiadol, rhiant mabwysiadol y plentyn mabwysiadol, ac unrhyw un o blant y rhiant mabwysiadol, a dehonglir cyfeiriadau at deulu mabwysiadol person neu gyfeiriadau at deulu mabwysiadol mewn perthynas â pherson, fel y teulu mabwysiadol y mae'r person hwnnw yn aelod ohono.

(2) Yn y Rheoliadau hyn -

(a) mae i unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddo yn Neddf Plant 1989( 8);(b) mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol mewn perthynas â'r person hwnnw;(c) mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;(ch) mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn yn cael ei leoli, neu'n cael ei leoli i'w fabwysiadu - (i) yn gyfeiriadau at y plentyn yn cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;(ii) os bydd plentyn sy'n derbyn gofal yn byw gyda pherson, yn cynnwys gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd.

(3) Os mewn unrhyw achos -

(a) bydd person wedi cyrraedd 18 oed ac yn cael ei addysgu neu ei hyfforddi yn llawnamser; a(b) yn union cyn iddo gyrraedd 18 oed - (i) yr oedd y person hwnnw'n blentyn mabwysiadol; a(ii) yr oedd cymorth ariannol yn daladwy mewn perthynas ag ef,

bydd y diffiniadau o "plentyn mabwysiadol" a "plentyn", at ddibenion parhau i ddarparu cymorth ariannol ac at ddibenion unrhyw adolygiad o gymorth ariannol, yn effeithiol fel pe na bai'r person hwnnw wedi cyrraedd 18 oed.

Gwasanaethau a ragnodir

3. At ddibenion adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffinio "gwasanaethau cymorth mabwysiadu"), rhagnodir y gwasanaethau canlynol -

(a) cymorth ariannol sy'n daladwy o dan reoliad 11;(b) gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni naturiol plentyn mabwysiadol i drafod materion sy'n ymwneud â mabwysiadu;(c) cymorth i blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol, rhieni naturiol plentyn mabwysiadol a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol;(ch) gwasanaethau y gellir eu darparu ar gyfer teulu mabwysiadol o ran anghenion therapiwtig plentyn mabwysiadol;(d) cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'i riant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys - (i) hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn; a(ii) gofal seibiant; ac(dd) cymorth os bydd tarfu ar leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd gan gynnwys - (iii) cyfryngu; a(iv) trefnu a chynnal cyfarfodydd i drafod tarfu ar leoliadau mabwysiadu.

Personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle ar eu cyfer

4. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 3(3)(a) o Ddeddf 2002, ddisgrifiad o'r personau y mae'n rhaid bod trefniadau yn eu lle i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ar eu cyfer.

(2) Cyngor a gwybodaeth cwnsela -

(a) i blant y gellir eu mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid;(b) i bersonau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;(c) i bersonau wedi'u mabwysiadu, eu rhieni mabwysiadol, eu rhieni naturiol a'u gwarcheidwaid blaenorol; ac(ch) i blant sy'n frodyr a chwiorydd naturiol plentyn mabwysiadol (p'un ai o waed coch cyfan neu o hanner gwaed).

(3) Cymorth ariannol o dan reoliad 11 ar gyfer rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol.

(4) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(b) (gwasanaethau i alluogi trafodaeth) fod yn eu lle ar gyfer -

(a) rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;(b) plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; ac(c) rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath.

(5) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(c) (cyswllt) fod yn eu lle ar gyfer -

(a) rhiant mabwysiadol plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;(b) plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;(c) rhiant naturiol y rhoddodd asiantaeth ei blentyn i'w fabwysiadu neu y mabwysiadwyd ei blentyn yn dilyn lleoliad o'r fath; ac(ch) person perthynol.

(6) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(ch) (gwasanaethau therapiwtig) fod yn eu lle ar gyfer -

(a) plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; a(b) plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83 o Ddeddf 2002 (cyfyngiadau ar ddod â phlant i mewn) yn gymwys mewn perthynas ag ef; ac(c) plentyn mabwysiadol yn achos gorchymyn mabwysiadu Confensiwn.

(7) Rhaid i'r gwasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(d) ac (dd) (cymorth at ddibenion sicrhau bod unrhyw berthynas yn parhau a chymorth pan fydd tarfu wedi bod ar leoliad mabwysiadu) fod yn eu lle ar gyfer -

(a) plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth; a(b) plentyn mabwysiadol y mae'r cyfyngiadau yn adran 83...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT