Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

2003Rhif 237 (Cy.35)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

6 Chwefror 2003

1 Ebrill 2003

TREFN Y RHEOLIADAU

RHAN I -

CYFFREDINOL

1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.

Dehongli

3.

Datganiad o ddiben ac arweiniad plant

4.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

RHAN II -

PERSONAU COFRESTREDIG A RHEOLI GWASANAETH MAETHU AWDURDOD LLEOL

5.

Yr asiantaeth faethu - ffitrwydd y darparydd

6.

Yr asiantaeth faethu - penodi rheolwr

7.

Yr asiantaeth faethu - ffitrwydd y rheolwr

8.

Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol

9.

Hysbysu o dramgwyddau

10.

Gwasanaeth maethu awdurdod lleol - rheolwr

RHAN III -

RHEDEG GWASANAETH MAETHU

11.

Yr asiantaeth faethu annibynnol - y ddyletswydd i sicrhau lles

12

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

13.

Rheoli ymddygiad ac absenoldeb o gartref rhiant maeth

14.

Y ddyletswydd i hyrwyddo cysylltiadau

15.

Iechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth

16.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

17.

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni maeth

18.

Asiantaethau maethu annibynnol - cwynion a sylwadau

19.

Staffio gwasanaeth maethu

20.

Ffitrwydd y gweithwyr

21.

Cyflogi staff

22.

Cofnodion ynglyn â gwasanaethau maethu

23.

Ffitrwydd tir ac adeiladau

RHAN IV -

CYMERADWYO RHIENI MAETH

24.

Sefydlu panel maethu

25.

Cyfarfodydd y panel maethu

26.

Swyddogaethau'r panel maethu

27.

Asesu darpar rieni maeth

28.

Cymeradwyo rhieni maeth

29.

Adolygu a therfynu cymeradwyaeth

30.

Cofnodion achos ynglyn â rhieni maeth ac eraill

31.

Cofrestr o rieni maeth

32.

Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion

RHAN V -

LLEOLIADAU

33.

Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol

34.

Gwneud lleoliadau

35.

Goruchwylio lleoliadau

36.

Terfynu lleoliadau

37.

Lleoliadau byr-dymor

38.

Lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol

39.

Lleoliadau y tu allan i Gymru

40.

Asiantaethau maethu annibynnol - cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol

RHAN VI -

YMWELIADAU AWDURDOD LLEOL

41.

Ymweliadau awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gan gyrff gwirfoddol

RHAN VII -

ASIANTAETHAU MAETHU (AMRYWIOL)

42.

Adolygu ansawdd y gofal

43.

Digwyddiadau hysbysadwy

44.

Y sefyllfa ariannol

45.

Hysbysu o absenoldeb

46.

Hysbysu o newidiadau

47.

Penodi datodwyr etc

48.

Tramgwyddau

49.

Cydymffurfio â'r rheoliadau

RHAN VIII -

AMRYWIOL

50.

Cofrestru

51.

Ffioedd

52.

Darpariaethau trosiannol

53.

Dirymu

YR ATODLENNI

1.

Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw

2.

Y cofnodion sydd i'w cadw gan ddarparwyr gwasanaeth maethu

3.

Gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth

4.

Tramgwyddau a bennir at ddibenion rheoliad 27(7)(b)

5.

Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau gofal maeth

6.

Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau lleoliad maeth

7.

Y materion sydd i'w monitro gan y person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu

8.

Digwyddiadau a hysbysiadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 1) ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989( 2) a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol( 3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall,

ystyr "arweiniad plant" ("children's guide") yw'r arweiniad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(3);

mae "asesu" neu "asesiad" ("assessment") i'w dehongli yn unol â rheoliad 27(1);

ystyr "asiantaeth faethu annibynnol" yw asiantaeth faethu o fewn ystyr "independent fostering agency" yn adran 4(4)(a) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol mewn cysylltiad â lleoli plant gyda rhieni maeth);

ystyr "awdurdod ardal" ("area authority") yw'r awdurdod lleol y mae plentyn wedi'i leoli yn ei ardal mewn unrhyw achos lle nad yw'r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod sy'n gyfrifol am y plentyn;

ystyr "awdurdod cyfrifol" ("responsible authority"), mewn perthynas â phlentyn, yw'r awdurdod lleol neu'r corff gwirfoddol yn ôl fel y digwydd, sy'n gyfrifol am leoli'r plentyn;

ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforedig;

ystyr "cymeradwyaeth" ("approval") yw cymeradwyaeth fel rhiant maeth yn unol â rheoliad 28 a dehonglir cyfeiriadau at berson sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â hynny;

ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mai i "cytundeb gofal maeth" ("foster care agreement") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 28(5)(b);

mae i "cytundeb lleoliad maeth" ("foster placement agreement") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 34(3);

ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider") mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg asiantaeth faethu( 4);

ystyr "darparydd gwasanaeth maethu" ("fostering service provider") -

(a) mewn perthynas ag asiantaeth faethu, yw person cofrestredig; neu(b) mewn perthynas â gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yw awdurdod lleol;

ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 3(1);

ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989;

ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr "gwasanaeth maethu" ("fostering service") yw -

(a) asiantaeth faethu o fewn ystyr "fostering agency" yn adran 4(4) o Ddeddf 2000; neu(b) gwasanaeth maethu awdurdod lleol;

ystyr "gwasanaeth maethu awdurdod lleol" ("local authority fostering service") yw cyflawni swyddogaethau maethu perthnasol gan awdurdod lleol o fewn ystyr "relevant fostering functions" yn adran 43(3)(b) o Ddeddf 2000;

ystyr "lleoliad" ("placement") yw unrhyw leoliad plentyn sy'n cael ei wneud gan -

(a) awdurdod lleol o dan adran 23(2)(a) o Ddeddf 1989 neu gorff gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf 1989 nad yw - (i) yn lleoliad gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf honno; na(ii) yn lleoliad ar gyfer mabwysiadu; a(b) ac eithrio yn Rhan V o'r Rheoliadau hyn mae'n cynnwys lleoliad sy'n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy'n gweithredu ar ran awdurdod lleol; ac mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei leoli i'w dehongli yn unol â hynny;

ystyr "panel maethu" ("fostering panel") yw panel sy'n cael ei sefydlu yn unol â rheoliad 24;

ystyr "person cofrestredig" ("registered person") mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth faethu;

ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager") mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth faethu;

mae "rhiant" ("parent"), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

ystyr "rhiant maeth" ("foster parent") yw person y mae plentyn wedi'i leoli gydag hwy neu y gellir ei leoli gyda hwy o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn Rhannau IV a V o'r Rheoliadau hyn lle nid yw'n cynnwys unrhyw berson y mae plentyn yn cael ei leoli gyda hwy gan awdurdod lleol o dan reoliad 38(2);

ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office") mewn perthynas â gwasanaeth maethu -

(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae'r gwasanaeth maethu wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

mae "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") i'w ddehongli yn unol â rheoliad 5(2)(b)(i);

ystyr "ymarferydd cyffredinol" ("general practitioner") yw ymarferydd meddygol cyffredinol sydd -

(a) yn darparu gwasanaethau meddygol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 5);(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 6); neu(c) sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac eithrio yn unol â'r Ddeddf honno;

mae i "ymholiadau amddiffyn plant" yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(4).

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â gwasanaethau maethu sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad

(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw;(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, oni fwriedir fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -

(a) cyflogi person boed am dâl neu beidio;(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau;(c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

ond nid ydynt yn cynnyws caniatáu i berson weithredu fel rhiant maeth, ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi i'w dehongli yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben ac arweiniad plant

3. - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio, mewn perthynas â'r gwasanaeth maethu, ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "datganiad o ddiben") a rhaid iddo gynnwys -

(a) datganiad o nodau ac amcanion y gwasanaeth maethu; a(b) datganiad ynghylch y...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT