Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/237 (Cymru) |
2003Rhif 237 (Cy.35)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
6 Chwefror 2003
1 Ebrill 2003
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN I -
CYFFREDINOL
1. |
Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
3. |
Datganiad o ddiben ac arweiniad plant |
4. |
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant |
RHAN II -
PERSONAU COFRESTREDIG A RHEOLI GWASANAETH MAETHU AWDURDOD LLEOL
5. |
Yr asiantaeth faethu - ffitrwydd y darparydd |
6. |
Yr asiantaeth faethu - penodi rheolwr |
7. |
Yr asiantaeth faethu - ffitrwydd y rheolwr |
8. |
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol |
9. |
Hysbysu o dramgwyddau |
10. |
Gwasanaeth maethu awdurdod lleol - rheolwr |
RHAN III -
RHEDEG GWASANAETH MAETHU
11. |
Yr asiantaeth faethu annibynnol - y ddyletswydd i sicrhau lles |
12 |
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant |
13. |
Rheoli ymddygiad ac absenoldeb o gartref rhiant maeth |
14. |
Y ddyletswydd i hyrwyddo cysylltiadau |
15. |
Iechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth |
16. |
Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden |
17. |
Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni maeth |
18. |
Asiantaethau maethu annibynnol - cwynion a sylwadau |
19. |
Staffio gwasanaeth maethu |
20. |
Ffitrwydd y gweithwyr |
21. |
Cyflogi staff |
22. |
Cofnodion ynglyn â gwasanaethau maethu |
23. |
Ffitrwydd tir ac adeiladau |
RHAN IV -
CYMERADWYO RHIENI MAETH
24. |
Sefydlu panel maethu |
25. |
Cyfarfodydd y panel maethu |
26. |
Swyddogaethau'r panel maethu |
27. |
Asesu darpar rieni maeth |
28. |
Cymeradwyo rhieni maeth |
29. |
Adolygu a therfynu cymeradwyaeth |
30. |
Cofnodion achos ynglyn â rhieni maeth ac eraill |
31. |
Cofrestr o rieni maeth |
32. |
Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion |
RHAN V -
LLEOLIADAU
33. |
Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol |
34. |
Gwneud lleoliadau |
35. |
Goruchwylio lleoliadau |
36. |
Terfynu lleoliadau |
37. |
Lleoliadau byr-dymor |
38. |
Lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol |
39. |
Lleoliadau y tu allan i Gymru |
40. |
Asiantaethau maethu annibynnol - cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol |
RHAN VI -
YMWELIADAU AWDURDOD LLEOL
41. |
Ymweliadau awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gan gyrff gwirfoddol |
RHAN VII -
ASIANTAETHAU MAETHU (AMRYWIOL)
42. |
Adolygu ansawdd y gofal |
43. |
Digwyddiadau hysbysadwy |
44. |
Y sefyllfa ariannol |
45. |
Hysbysu o absenoldeb |
46. |
Hysbysu o newidiadau |
47. |
Penodi datodwyr etc |
48. |
Tramgwyddau |
49. |
Cydymffurfio â'r rheoliadau |
RHAN VIII -
AMRYWIOL
50. |
Cofrestru |
51. |
Ffioedd |
52. |
Darpariaethau trosiannol |
53. |
Dirymu |
YR ATODLENNI
1. |
Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw |
2. |
Y cofnodion sydd i'w cadw gan ddarparwyr gwasanaeth maethu |
3. |
Gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth |
4. |
Tramgwyddau a bennir at ddibenion rheoliad 27(7)(b) |
5. |
Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau gofal maeth |
6. |
Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau lleoliad maeth |
7. |
Y materion sydd i'w monitro gan y person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu |
8. |
Digwyddiadau a hysbysiadau |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000( 1) ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989( 2) a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol( 3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall,
ystyr "arweiniad plant" ("children's guide") yw'r arweiniad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(3);
mae "asesu" neu "asesiad" ("assessment") i'w dehongli yn unol â rheoliad 27(1);
ystyr "asiantaeth faethu annibynnol" yw asiantaeth faethu o fewn ystyr "independent fostering agency" yn adran 4(4)(a) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol mewn cysylltiad â lleoli plant gyda rhieni maeth);
ystyr "awdurdod ardal" ("area authority") yw'r awdurdod lleol y mae plentyn wedi'i leoli yn ei ardal mewn unrhyw achos lle nad yw'r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod sy'n gyfrifol am y plentyn;
ystyr "awdurdod cyfrifol" ("responsible authority"), mewn perthynas â phlentyn, yw'r awdurdod lleol neu'r corff gwirfoddol yn ôl fel y digwydd, sy'n gyfrifol am leoli'r plentyn;
ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforedig;
ystyr "cymeradwyaeth" ("approval") yw cymeradwyaeth fel rhiant maeth yn unol â rheoliad 28 a dehonglir cyfeiriadau at berson sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â hynny;
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mai i "cytundeb gofal maeth" ("foster care agreement") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 28(5)(b);
mae i "cytundeb lleoliad maeth" ("foster placement agreement") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 34(3);
ystyr "darparydd cofrestredig" ("registered provider") mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg asiantaeth faethu( 4);
ystyr "darparydd gwasanaeth maethu" ("fostering service provider") -
(a) mewn perthynas ag asiantaeth faethu, yw person cofrestredig; neu(b) mewn perthynas â gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yw awdurdod lleol;ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "gwasanaeth maethu" ("fostering service") yw -
(a) asiantaeth faethu o fewn ystyr "fostering agency" yn adran 4(4) o Ddeddf 2000; neu(b) gwasanaeth maethu awdurdod lleol;ystyr "gwasanaeth maethu awdurdod lleol" ("local authority fostering service") yw cyflawni swyddogaethau maethu perthnasol gan awdurdod lleol o fewn ystyr "relevant fostering functions" yn adran 43(3)(b) o Ddeddf 2000;
ystyr "lleoliad" ("placement") yw unrhyw leoliad plentyn sy'n cael ei wneud gan -
(a) awdurdod lleol o dan adran 23(2)(a) o Ddeddf 1989 neu gorff gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf 1989 nad yw - (i) yn lleoliad gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf honno; na(ii) yn lleoliad ar gyfer mabwysiadu; a(b) ac eithrio yn Rhan V o'r Rheoliadau hyn mae'n cynnwys lleoliad sy'n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy'n gweithredu ar ran awdurdod lleol; ac mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei leoli i'w dehongli yn unol â hynny;ystyr "panel maethu" ("fostering panel") yw panel sy'n cael ei sefydlu yn unol â rheoliad 24;
ystyr "person cofrestredig" ("registered person") mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth faethu;
ystyr "rheolwr cofrestredig" ("registered manager") mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth faethu;
mae "rhiant" ("parent"), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
ystyr "rhiant maeth" ("foster parent") yw person y mae plentyn wedi'i leoli gydag hwy neu y gellir ei leoli gyda hwy o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn Rhannau IV a V o'r Rheoliadau hyn lle nid yw'n cynnwys unrhyw berson y mae plentyn yn cael ei leoli gyda hwy gan awdurdod lleol o dan reoliad 38(2);
ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office") mewn perthynas â gwasanaeth maethu -
(a) os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae'r gwasanaeth maethu wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.mae "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") i'w ddehongli yn unol â rheoliad 5(2)(b)(i);
ystyr "ymarferydd cyffredinol" ("general practitioner") yw ymarferydd meddygol cyffredinol sydd -
(a) yn darparu gwasanaethau meddygol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 5);(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 6); neu(c) sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac eithrio yn unol â'r Ddeddf honno;mae i "ymholiadau amddiffyn plant" yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(4).
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â gwasanaethau maethu sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad
(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, sy'n dwyn y rhif hwnnw;(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw;(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.(4) Yn y Rheoliadau hyn, oni fwriedir fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
(a) cyflogi person boed am dâl neu beidio;(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau;(c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;ond nid ydynt yn cynnyws caniatáu i berson weithredu fel rhiant maeth, ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi i'w dehongli yn unol â hynny.
Datganiad o ddiben ac arweiniad plant
3. - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio, mewn perthynas â'r gwasanaeth maethu, ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "datganiad o ddiben") a rhaid iddo gynnwys -
(a) datganiad o nodau ac amcanion y gwasanaeth maethu; a(b) datganiad ynghylch y...To continue reading
Request your trial