Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysidau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2005/3293 (Cymru)
Year2005

2005Rhif 3293 (Cy.253)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysidau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005

29 Tachwedd 2005

30 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 1 a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.-

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" (the Principal Regulations) yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 2.

Diwygio'r Prif Reoliadau

2.-

(1) Yn rheoliad 12(5) o'r Prif Reoliadau (Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadau briodol), yn lle "(3)", rhodder "(4)".

(2) Yn rheoliad 18(3) o'r Prif Rheoliadau (Ffioedd), ar ôl "o dan reoliad 13", ychwanegir "neu 14".

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 3

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 ("y Prif Reoliadau") yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ( "y Ddeddf") at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro dau gyfeirnod anghywir o fewn y Prif Reoliadau.

Nid yw'r Prif Reoliadau eisioes mewn grym a bydd y diwygiadau hyn yn cael effaith o'r adeg y bydd y Prif Reoliadau yn dod i rym.

0 11 091236 5

(1) 2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT