Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/1721 (Cymru)

2003 Rhif 1721 (Cy.188)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

9 Gorffennaf 2003

31 Gorffennaf 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) , sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sy'n sefydlu yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac sy'n gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd(3), ac yn unol ag adran 48(4) a 4(B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

nid yw "awdurdod bwyd" ("food authority") yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority"), mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd trwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(4), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd trwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr "Cyfarwyddeb 85/591/EEC" ("Directive 85/591/EEC") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplo a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd y bwriadwyd i bobl eu bwyta(5);

ystyr "Cyfarwyddeb 93/99/EEC" ("Directive 93/99/EEC") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC sy'n ymwneud â mesurau ychwanegol sy'n ymdrin â rheoli bwydydd yn swyddogol (6);

ystyr "Cyfarwyddeb 98/53/EC" ("Directive 98/53/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y lefelau ar gyfer halogion penodedig mewn bwydydd(7) ) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC(8);

ystyr "Cyfarwyddeb 2001/22/EEC" ("Directive 2001/22/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MPCD mewn bwydydd(9) ) fel y'u cywirwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC(10);

ystyr "Cyfarwyddeb 2002/26/EC" ("Directive 2002/26/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau Ochratocsin A mewn bwydydd(11);

ystyr "Cyfarwyddeb 2002/69/EC" ("Directive 2002/69/EC") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau deuocsinau a chanfod PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd(12)fel y'i cywirwyd gan gywiriad a gyhoeddwyd ar 20 Medi 2002(13)

ystyr "Cytundeb yr AEE" ("the EEA Agreement") yw Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(14) ) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(15) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr "Gwladwriaeth AEE" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i Gytundeb yr AEE;

ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n nodi'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd(16) ) fel y'i cywirwyd gan gywiriad a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2001(17) ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2375/2001(18) ), Rheoliad Comisiwn (EC) Rhif 221/2002(19), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002(20), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002(21) fel y'i cywirwyd gan gywiriad a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002(22)a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002(f) fel y'i cywirwyd gan gywiriad a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002(ff);

(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd i'r geiriau cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau a chosbau

3. - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 9 a 10, bydd person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'r cyfryw berson -

(a) cyn 1 Ionawr 2005 - (i) yn rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd (heblaw am sbigoglys awdurdodedig neu letys awdurdodedig) sy'n cael ei gwmpasu gan Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 o'r Rheoliad hwnnw, ond nad yw'n bodloni gofynion yr Erthyglau hynny, neu(ii) yn torri Erthygl 2.3 neu 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn;(b) ar neu ar ôl 1 Ionawr 2005 - (i) yn rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd (heblaw am sbigoglys awdurdodedig) sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion, Erthygl 1.1, 2.1 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 o'r Rheoliad hwnnw; neu(ii) yn torri Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn; neu(c) yn torri hysbysiad a roddir o dan adran 9(2)(a) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan reoliad 7(2), neu yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw, a hynny'n fwriadol.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn -

(a) ystyr "sbigoglys awdurdodedig" ("authorised spinach") yw sbigoglys o'r math a bennir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, ac a dyfir yn y Deyrnas Unedig yn unol â'r amod i Erthygl 3.1 o'r Rheoliad hwnnw ac y bwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl yno; a(b) ystyr "letys awdurdodedig" ("authorised lettuce") yw letys o'r math a bennir ym mhwynt 1.3 neu ym mhwynt 1.4 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a dyfir yn y Deyrnas Unedig yn unol â'r amod i Erthygl 3.1 o'r Rheoliad hwnnw ac y bwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl yno.

Gorfodi

4. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob awdurdod iechyd porthladd i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw wedi'i leoli yn ardal awdurdod iechyd porthladd, caiff y Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw wedi'i leoli ynddi.

Addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (caffael samplau) a dadansoddi samplau

5. - (1) Wrth ei chymhwyso at gymryd sampl o unrhyw fwyd a nodwyd yn adrannau 1 i 5 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, caiff adran 29 o'r Ddeddf ei haddasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r pwer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno gael ei arfer yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt yn -

(a) yn ddarostyngedig i'r gofyniad a bennir ym mharagraff (2) yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/63/EC sy'n sefydlu dulliau'r Gymuned o samplo ar gyfer rheoli'n swyddogol weddillion plaladdwyr mewn cynnyrch sy'n deillio o blanhigion ac o anifeiliaid ac arno, a diddymu Cyfarwyddeb 79/700/EC(23) ), pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;(b) Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;(c) Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/26/EC pan fo'r bwyd dan sylw yn ateb y disgrifiad a nodwyd yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn y mae'r Gyfarwyddeb honno yn ymwneud â'i samplo yn unol ag Erthygl...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT