Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

CitationWSI 2017/642 (W148) (Cymru)
Year2017

2017 Rhif 642 (Cy. 148)

Henebion Hynafol, Cymru

Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

Gwnaed 4th May 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8th May 2017

Yn dod i rym 31th May 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 60 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 19791, ac Atodlen 1 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 60 o’r Ddeddf honno ac Atodlen 1 iddi ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 31 Mai 2017.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

S-2 Dehongli

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979.

S-3 Ceisiadau

Ceisiadau

3.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys a phan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu disgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i gais—

(a)

(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig yn y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurf sylweddol debyg ei heffaith);

(b)

(b) cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurf;

(c)

(c) datgan enw a chyfeiriad perchennog yr heneb gofrestredig3, os nad y ceisydd yw’r perchennog;

(d)

(d) datgan enw a chyfeiriad meddiannydd yr heneb, os nad y ceisydd yw’r meddiannydd; ac

(e)

(e) dod gyda—

(i) plan neu luniad sy’n ddigonol i nodi’r darn o dir y mae’r gwaith yn ymwneud ag ef; a

(ii) unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith ac effaith y gwaith ar yr heneb.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i geisiadau mewn cysylltiad â gwaith sydd—

(a)

(a) yn fân ei natur; a

(b)

(b) at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu at ddiben gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i’r heneb fel y cyfeirir ato yn adran 2(2)(b) o’r Ddeddf.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caniateir gwneud cais, yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru, heb fod yn unol â’r darpariaethau ym mharagraff (1).

(4) Mewn unrhyw achos, rhaid i’r ceisydd roi’r fath wybodaeth bellach i Weinidogion Cymru sy’n ofynnol ganddynt ar unrhyw adeg i’w galluogi i benderfynu ar y cais.

S-4 Personau sydd i gael eu trin fel perchnogion henebion

Personau sydd i gael eu trin fel perchnogion henebion

4. Mewn perthynas ag unrhyw heneb, mae person i gael ei drin, at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, fel perchennog yr heneb os y person, am y tro, yw perchennog ystad y ffi syml yn yr heneb neu os oes ganddo hawl i denantiaeth yr heneb a roddwyd neu a estynnwyd am dymor blynyddoedd sicr nad oes llai na saith mlynedd ohono yn dal heb ddod i ben.

S-5 Cydsyniad heneb gofrestredig

Cydsyniad heneb gofrestredig

5. Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig4, rhaid i’r cydsyniad—

(a) cael ei roi yn ysgrifenedig; a

(b) nodi unrhyw amodau y mae’r cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt.

S-6 Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992

6.—(1) Mae Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 19925wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—

““the 2017 Regulations” means the Ancient Monuments (Applications for Scheduled Monument Consent) (Wales) Regulations 2017;”.

(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “and the Ancient Monuments Regulations” rhodder “, the Ancient Monuments Regulations and the 2017 Regulations”.

(4) Yn Atodlen 2—

(a)

(a) ym mhennawd yr Atodlen, yn lle “and the Ancient Monuments Regulations”, rhodder “, the Ancient Monuments Regulations and the 2017 Regulations”; a

(b)

(b) ar ôl paragraff 2, mewnosoder—

S-3

3.—(1) The 2017 Regulations are modified as follows.

(2) For regulation 3(1)(e) substitute—

“(e)

“(e) be accompanied by—

(i) a plan identifying the monument to which the application relates;

(ii) such...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT