Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2007/1027 (Cymru)

2007 Rhif 1027 (Cy.94)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud 27th March 2007

Yn dod i rym 28th March 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 19681ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.

Yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys iddo ef eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwêl yn briodol.

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.

S-2 Dirymiadau

Dirymiadau

2. Mae'r offerynnau a ddisgrifir yn y golofn gyntaf a'r ail golofn o'r Atodlen yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r Atodlen.

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

YR ATODLEN

Rheoliad 2

DIRYMIADAU

Yr offeryn a ddirymir

Y Cyfeirnod

Graddau'r Dirymu

Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethau a Waherddir) 1982

O.S. 1982/ 1884

Y cyfan o'r Rheoliadau.

Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethaua Waherddir) (Diwygio) 1987

O.S. 1987/ 114

Y cyfan o'r Rheoliadau.

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001

O.S. 2001/ 2682

Paragraffau 8 a 9 o Atodlen 3D3; a Pharagraffau 19 i 26 o Atodlen 6 4.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen, o ganlyniad i ddisodli eu sylwedd gan Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


(1) 1968 p. 34. Gweler adrannau 8(4) a 50 am y dehongliad o “the Ministers”. Cafodd swyddogaethau'r Gweinidogion, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.
(2) 1998 p.38.
(3) Mewnosodwyd Atodlen 3D gan O.S. 2002/1898 (yn rheoliad 2(8)).
(4) Amnewidwyd Atodlen 6 gan O.S. 2003/1726 (yn rheoliad 3(4)).

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT