Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/1726 (Cymru)

2003Rhif 1726 (Cy.189)

ANIFEILIAID, CYMRU

ATAL CREULONDEB

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003

9 Gorffennaf 2003

14 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo( 2) ac ar ôl ymgynghori (yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf 1968 a enwyd) ag unrhyw bersonau sy'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli unrhyw fuddiannau o dan sylw ac y mae'n barnu eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Gorffennaf 2003.

Darpariaethau Trosiannol

2. - (1) Mae darpariaethau paragraff 29(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001( 3), fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â daliadau sydd newydd gael eu hadeiladu, eu hailadeiladu neu sydd wedi dechrau cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob rheoliad arall ni fydd y darpariaethau hyn yn gymwys hyd 1 Ionawr 2005.

(2) Mae darpariaethau paragraffau 13, 37, 38 a 39 o Atodlen 6 i'r Rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â daliadau sydd newydd gael eu hadeiladu, eu hailadeiladu neu sydd wedi dechrau cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob rheoliad arall ni fydd y darpariaethau hyn yn gymwys hyd 1 Ionawr 2013.

Diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001

3. - (1) Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn:

(2) Yn rheoliad 2 mewnosodir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (4):

(5) Mae i'r ymadroddion sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddebau'r Cyngor 91/630/EEC( 4) a 2001/88/EC( 5) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC( 6) yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y ddeddfwriaeth Gymunedol honno.

(3) Ar ôl rheoliad 8 mewnosodir y rheoliad canlynol -

Hyfforddi

8A. Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflogi neu'n llogi person i ofalu am foch sicrhau fod y person hwnnw wedi derbyn cyfarwyddiadau a chanllawiau ar ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â moch."

(4) Rhoddir yr Atodlen ganlynol yn lle Atodlen 6:

ATODLEN 6

Rheoliadau 2(3) ac 8

AMODAU YCHWANEGOL SY'N GYMWYS I GADW MOCH

RHAN I

DEHONGLI

1. Yn yr Atodlen hon -

ystyr "baedd" ("boar") yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;

ystyr "banwes" ("gilt") yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;

ystyr "hwch" ("sow") yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella am y tro cyntaf;

ystyr "mochyn magu" ("rearing pig") yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;

ystyr "porchell" ("piglet") yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac

ystyr "porchell diddwyn" ("weaner") yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at 10 wythnos oed.

RHAN II

AMODAU YCHWANEGOL CYFFREDINOL

Arolygu

2. Rhaid i bob mochyn gael ei arolygu gan berchennog neu geidwad y moch o leiaf unwaith y dydd i weld a yw mewn cyflwr iachus.

3. Os bydd angen, rhaid ynysu moch sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych.

Tenynnau

4. Ni chaiff neb roi tennyn na pheri rhoi tennyn ar unrhyw fochyn ac eithrio pan fydd yn mynd o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.

5. - (1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 4, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harolygu'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(2) Rhaid i bob tennyn fod o ddigon o hyd i ganiatáu i'r moch symud fel a bennir ym mharagraff 6(2) isod a rhaid i'r dyluniad fod yn un a fydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.

Llety

6. - (1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.

(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn -

(a) sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;(b) cael lle glân, cysurus sydd wedi'i draenio'n ddigonol y gall orffwyso ynddo;(c) gweld moch eraill, onid yw'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol;(ch) cadw ei dymheredd yn gysurus; a(d) cael digon o le i ganiatáu i'r holl anifeiliaid orwedd yr un pryd

7. - (1) Rhaid i faintioli unrhyw gôr neu gorlan a ddefnyddir ar gyfer cadw moch unigol yn unol â'r Rheoliadau hyn fod o'r fath nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi'i sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ym mhob achos mae hyd y mochyn yn cael ei fesur o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bydd yn sefyll gyda'i gefn yn syth.

(2) Ni fydd paragraff 7(1) yn gymwys mewn perthynas â mochyn benyw am y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod y byddai'n porchella yn ôl y disgwyl a'r diwrnod y byddai'n diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll y byddai'n eu maethu), wedi'i gwblhau.

(3) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn drwy gadw mochyn mewn côr neu gorlan -

(a) tra bydd o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;(b) at ddibenion serfio, cyfebru artiffisial neu gasglu semen;(c) tra caiff ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;(ch) at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;(d) tra bydd ei lety'n cael ei lanhau; neu(dd) tra bydd yn disgwyl cael ei lwytho ar gyfer ei gludo,

ar yr amod nad yw'r cyfnod pan yw'r mochyn yn cael ei gadw felly yn hwy na'r hyn y mae ei angen at y diben hwnnw.

(4) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn am gadw mochyn mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd iddo neu iddi neu ei (g)adael fel y myn, ar yr amod yr eir i'r côr neu'r gorlan o gôr neu gorlan y mae'r mochyn yn cael ei gadw...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT