Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020
| Jurisdiction | Wales |
| Citation | WSI 2020/1399 (W310) (Cymru) |
| Year | 2020 |
2020 Rhif 1399 (Cy. 310)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020
Gwnaed 1st December 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 3rd December 2020
Yn dod i rym 4th December 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 68 o Ddeddf y Coronafeirws 20201.
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Rhagfyr 2020.
2. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Rhagfyr 2020.
Dehongli
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “amlen berthnasol sydd wedi ei hagor” (“opened relevant envelope”) yw—
(a) prif amlen sydd wedi ei hagor, neu
(b) amlen (ac eithrio prif amlen) sy’n dod i law’r swyddog canlyniadau neu’r swyddog cyfrif ac sydd, pan gaiff ei hagor, yn cynnwys amlen papur pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy’r post neu bapur pleidleisio;
mae i “amlen papur pleidleisio”, “prif amlen”, “pleidleisiwr drwy’r post”, “daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio” a chyfeiriadau eraill at ddaliedyddion penodedig yr un ystyron ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 5 o Reoliadau 2001;
mae i “ardal etholiadol” yr un ystyr ag a roddir i “electoral area” yn adran 203(1) o Ddeddf 1983;
ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2021;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 19832;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 20003;
ystyr “Deddf 2020” (“the 2020 Act”) yw Deddf y Coronafeirws 2020;
ystyr “is-etholiad perthnasol” (“relevant by-election”) yw—
(a) etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru; neu
(b) etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru,
pan fwriadwyd i’r bleidlais ar gyfer unrhyw etholiad o’r fath gael ei chynnal yn ystod y cyfnod perthnasol ac na chynhaliwyd y bleidlais yn ystod y cyfnod hwnnw o ganlyniad i Reoliadau 2020;
ystyr “pleidlais ohiriedig” (“a postponed poll”) yw unrhyw bleidlais a fydd, o ganlyniad i Reoliadau 2020, yn disodli is-etholiad perthnasol ac yn cael ei chynnal o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 16 Ebrill 2021;
mae i “prif ardal” yr un ystyr ag a roddir i “principal area” yn adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli)4;
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 20015;
ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 20206;
mae i “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post” a “rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon” yr un ystyron ag a roddir i “postal voters list” a “proxy postal voters list” yn adran 202(1) o Ddeddf 19837;
mae i “rhoddai rheoleiddiedig” yr un ystyr ag a roddir i “regulated donee” ym mharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2000;
mae i “swyddog cofrestru perthnasol”—
(a) yn achos is-etholiad perthnasol—
(i) pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 20068;
(ii) pan oedd yr etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd cymuned sy’n digwydd dod yn wag mewn unrhyw gyngor cymuned yng Nghymru, yr ystyr a roddir i “relevant registration officer” gan reol 52(2) o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) reol 52(3) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 20069;
mae i “ymgeisydd” yr ystyr a roddir i “candidate” gan adran 118A o Ddeddf 198310.
Pleidleisiau drwy’r post: cyffredinol
4.—(1) Nid yw papur pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd gan bleidleisiwr drwy’r post mewn perthynas ag is-etholiad perthnasol yn cael unrhyw effaith at ddibenion pleidlais ohiriedig.
(2) Nid yw’r ffaith y bu i bleidleisiwr drwy’r post fwrw pleidlais drwy’r post mewn cysylltiad ag is-etholiad perthnasol yn atal y person hwnnw rhag bwrw pleidlais drwy’r post mewn cysylltiad â phleidlais ohiriedig.
(3) Pan fo unrhyw restr wedi ei chreu o dan reoliad 8711o Reoliadau 2001 mewn perthynas ag is-etholiad perthnasol, nid yw rheoliad 61C12o’r Rheoliadau hynny (hysbysu ynghylch datganiad pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd) yn gymwys mewn cysylltiad â phleidleisiwr absennol sy’n ymddangos ar y rhestr honno.
(4) Nid yw rheoliad 84A13o Reoliadau 2001 (cadarnhau bod datganiadau pleidleisio drwy’r post wedi dod i law) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw bleidleisiau drwy’r post a ddosbarthwyd mewn perthynas ag is-etholiad perthnasol.
Pleidleisiau drwy’r post: gwaredu dogfennau gan y swyddog canlyniadau neu’r swyddog cyfrif
5.—(1) Mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau ar gyfer is-etholiad perthnasol—
(a)
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gymryd unrhyw gamau neu unrhyw gamau pellach i agor prif amlen, nac i ymdrin â chynnwys amlen berthnasol sydd wedi ei hagor, yn unol â Rhan 5 o Reoliadau 2001;
(b)
(b) rhaid iddo drin y canlynol fel pe bai’n bapur pleidleisio sydd wedi ei gyfrif—
(i) unrhyw brif amlen nad yw wedi ei hagor;
(ii) cynnwys unrhyw amlen berthnasol sydd wedi ei hagor; a
(iii) unrhyw beth a gynhwysir yn y blwch pleidleisio drwy’r post.
(2) Pan fwriadwyd i’r pleidleisiau ar gyfer un is-etholiad perthnasol neu ragor gael eu cynnal gyda’i gilydd—
(a)
(a) caiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw brif amlenni neu amlenni papurau pleidleisio er mwyn gwahanu’r cynnwys yn ôl yr etholiad at ddibenion paragraff (4);
(b)
(b) nid yw gofynion Rhan 5 o Reoliadau 2001 yn gymwys i unrhyw agor amlenni o’r fath.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)
(a) selio mewn pecynnau—
(i) unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd;
(ii) unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio;
(iii) unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd;
(iv) unrhyw restr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd, a gollwyd neu y cawsant eu canslo yn unol â rheoliadau 77(8), 78(4) neu 78A(3) o Reoliadau 2001;
(v) unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (gweithdrefn wirio);
(vi) unrhyw beth a gynhwysir yn y daliedydd ar gyfer datganiadau pleidleisio drwy’r post (gweithdrefn wirio);
(vii) unrhyw beth sy’n cael ei drin fel pe bai’n bapur pleidleisio sydd wedi ei gyfrif o dan baragraff (1)(b) na fyddai fel arall yn cael ei gynnwys mewn pecyn yn unol ag is-baragraffau (i) i (vi);
(viii) y copïau wedi eu marcio o’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr o bleidleiswyr drwy’r post fel dirprwyon;
(b)
(b) anfon y pecynnau hynny ymlaen at y swyddog cofrestru perthnasol, ynghyd ag—
(i) unrhyw becynnau wedi eu selio a ddisgrifir yn rheoliadau 75(1), 77(6), 78(2C) a 78A(2)(c) o Reoliadau 2001 (rhestrau rhif cyfatebol wedi eu cwblhau a phapurau pleidleisio a ddifethwyd, a gollwyd neu y cawsant eu canslo);
(ii) unrhyw restr y mae’n ofynnol ei llunio yn unol â rheoliad 87(4) o Reoliadau 2001 (rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd).
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi pob pecyn a ddisgrifir ym mharagraff (4) ag—
(a)
(a) disgrifiad o’i gynnwys;
(b)
(b) dyddiad y bleidlais ar gyfer yr is-etholiad perthnasol; ac
(c)
(c) enw’r ardal (neu’r ardaloedd) etholiadol y mae’r is-etholiad perthnasol yn ymwneud â hi neu â hwy.
(5) Mae adran 36(4) neu (5A) o Ddeddf 1983 (etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr: talu am wariant)14yn gymwys i’r holl wariant y mae swyddog canlyniadau yn mynd iddo yn briodol mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r swyddog o dan y rheoliad hwn fel y mae’n gymwys i wariant yr eir iddo yn briodol mewn perthynas â chynnal etholiad.
Pleidleisiau drwy’r post: cadw, dangos a dinistrio dogfennau gan y swyddog cofrestru perthnasol
6.—(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol—
(a)
(a) cadw’r dogfennau a anfonir ymlaen at y swyddog yn unol â rheoliad 5(3)(b) am gyfnod o flwyddyn; a
(b)
(b) ar ôl y cyfnod hwnnw, beri i’r dogfennau hynny gael eu dinistrio, oni bai bod gorchymyn gan lys sirol, Llys y Goron neu lys ynadon yn cyfarwyddo fel arall.
(2) Ni chaniateir i berson edrych ar unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3)(a)(i) i (iii), (v) i (vii) a (b)(ii) sydd ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol, ac eithrio yn unol â gorchymyn a wneir gan lys ar gyfer edrych ar unrhyw ddogfen neu ddangos unrhyw ddogfen at ddiben cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio.
(3) Mewn perthynas â gorchymyn a ddisgrifir ym mharagraff (2)—
(a)
(a) pan fo’n ymwneud ag etholiad ar gyfer cynghorydd i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyfer unrhyw brif ardal yng Nghymru, mae paragraffau (3) i (7) o reol 53 o Atodlen 2 neu (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd)...
Get this document and AI-powered insights with a free trial of vLex and Vincent AI
Get Started for FreeStart Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant
-
Access comprehensive legal content with no limitations across vLex's unparalleled global legal database
-
Build stronger arguments with verified citations and CERT citator that tracks case history and precedential strength
-
Transform your legal research from hours to minutes with Vincent AI's intelligent search and analysis capabilities
-
Elevate your practice by focusing your expertise where it matters most while Vincent handles the heavy lifting
Start Your Free Trial of vLex and Vincent AI, Your Precision-Engineered Legal Assistant