Rheoliadau Mangreoedd etc. Difwg (Cymru) (Diwygio) 2016

JurisdictionWales
CitationWSI 2016/118 (W55) (Cymru)

2016 Rhif 118 (Cy. 55)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Mangreoedd etc. Difwg (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed 2nd February 2016

Yn dod i rym 4th February 2016

Mae Geinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1), (2), (6) a 79(3) o Ddeddf Iechyd 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn, y gosodwyd drafft ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 79(4) o’r Ddeddf honno2.

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 4 Chwefror 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

S-2 Diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007

Diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007

2.—(1) Mae Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 20073wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Ar ôl rheoliad 3 (esemptiadau i fangreoedd di-fwg), mewnosoder y rheoliad canlynol —

S-3A

Esemptiad dros dro i garchardai

3A.—(1) Nid yw ystafell ddynodedig a ddefnyddir fel llety mewn carchar ar gyfer personau sy’n 18 oed neu drosodd yn ddi-fwg.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ystafell ddynodedig” yw cell—

(a)

(a) a gafodd ei dynodi’n ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y carchar yn ystafell lle y caniateir ysmygu;

(b)

(b) y mae ganddi nenfwd ac sydd, heblaw am ddrysau a ffenestri, yn hollol gaeedig ar bob ochr gan waliau solet o’r llawr i’r nenfwd;

(c)

(c) nad oes ganddi system awyru sy’n awyru i ran arall o’r fangre (ac eithrio unrhyw ystafelloedd dynodedig eraill); a

(ch)

(ch) sydd wedi ei marcio’n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.

(3) Bydd paragraffau (1) a (2) yn peidio â chael effaith ar 5 Ebrill 2017.”.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Chwefror 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a wneir o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006, yn mewnosod rheoliad 3A newydd yn Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 i esemptio tan 5 Ebrill 2017 ystafelloedd dynodedig i oedolion mewn carchardai yng Nghymru o’r gofynion di-fwg yn adran 2 o Ddeddf Iechyd 2006.

Mae paragraff (2) o reoliad 3A newydd yn darparu bod “ystafell ddynodedig” yn gell a gafodd ei dynodi’n ysgrifenedig gan y person sydd â gofal y carchar, sy’n hollol gaeedig, nad oes ganddi system awyru sy’n awyru i ran arall o’r fangre, ac sydd wedi ei marcio’n glir yn ystafell lle y caniateir ysmygu.

Ystyriwyd Cod...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT