Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2002/1794 (Cymru)

2002Rhif 1794 (Cy.169)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

9 Gorffennaf 2002

1 Awst 2002

TREFN Y RHEOLIADAU

Rhan I

CYFFREDINOL

1.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.

Dehongli

Rhan II

CYFNODAU CYCHWYNNOL APELAU

3.

Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law

4.

Ymateb gan atebydd i apêl

5.

Hysbysu'r partïon o'r weithdrefn apêl

6.

Hysbysu'r cyhoedd

Rhan III

APELAU A BENDERFYNNIR AR SAIL SYLWADAU YSGRIFENEDIG

7.

Cymhwysiad

8.

Cyfnewid tystiolaeth

9.

Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig

Rhan IV

APELAU A BENDERFYNIR AR ôL GWRANDAWIAD

10.

Cymhwysiad

11.

Cyfnewid tystiolaeth

12.

Dyddiad a hysbysiad o wrandawiad

13.

Hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo

14.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

15.

Penderfyniad ar ôl gwrandawiad

16.

Hysbysu'r penderfyniad

Rhan V

APELAU A BENDERFYNIR AR ôL YMCHWILIAD CYHOEDDUS LLEOL

17.

Cymhwysiad

18.

Y weithdrefn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn peri bod cyfarfod cyn-ymchwiliad yn cael ei gynnal

19.

Cael datganiadau o achos a.y.y.b.

20.

Pwer pellach i'r person penodedig gynnal cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

21.

Amserlen yr ymchwiliad

22.

Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad

23.

Hawl i fod yn bresennol mewn ymchwiliad a chymryd ran ynddo

24.

Proflenni tystiolaeth

25.

Datganiad o dir cyffredin

26.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad

27.

Penderfyniad ar ôl ymchwiliad

28.

Hysbysu'r penderfyniad

Rhan VI

AMRYWIOL

29.

Tynnu apêl yn ôl

30.

Newid yn ffurf apêl

31.

Gweithdrefnau pellach neu wahanol

32.

Hysbysiad o benodiad asesydd

33.

Archwiliadau safle

34.

Gwrandawiadau neu ymchwiliadau ar y cyd

35.

Defnyddio cyfathrebu electronig

36.

Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 32, 38(6) a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000( 1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Rhan I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, bydd i eiriau neu ymadroddion yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf ac:

ystyr "apelydd" ("appellant") yw person sy'n dwyn apêl ac, os bydd dau berson neu fwy yn ymuno i ddwyn apêl, mae'n cyfeirio at y personau ar y cyd;

ystyr "apêl" ("appeal") yw apêl a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adrannau 6(1), 30(3) neu 38(3) o'r Ddeddf;

ystyr "asesydd" ("assessor") yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 4(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;

ystyr "yr atebydd" ("the respondent") yw'r person y mae ei benderfyniad yn destun yr apêl;

ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

ystyr "cyfarfod cyn-ymchwiliad" ("pre-inquiry meeting") yw cyfarfod a gynhelir cyn ymchwiliad i ystyried yr hyn a ellir ei wneud er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn effeithiol ac yn gyflym ac, os cynhelir dau neu fwy o'r cyfarfodydd hynny, mae cyfeiriad at gyfarfod cyn-ymchwiliad yn dod i ben yn gyfeiriad at y cyfarfod terfynol yn dod i ben;

ystyr "datganiad amlinellol" ("outline statement") yw datganiad yn amlinellu'r achos y mae person yn dymuno ei gyflwyno mewn perthynas ag apêl;

ystyr "datganiad o achos" ("statement of case") yw datganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys manylion llawn o'r achos y mae person yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas ag apêl, rhestr o ddogfennau y mae'r parti hwnnw yn bwriadu dibynnu arno ac o unrhyw ddogfennau a/neu fapiau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu bod angen gofyn i'r person hwnnw eu darparu;

mae i "dyddiad cychwyn" ("starting date") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5(4);

mae cyfeiriadau at "fuddiant" ("interest") mewn tir i'w dehongli yn unol ag adran 45(1) o'r Ddeddf;

ystyr "ffurf ddarllenadwy" ("legible form"), mewn perthynas â dogfen a anfonir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, yw ffurf sy'n ei gwneud hi'n bosibl i ddarllen dogfen ar sgrin cyfrifiadur ynddi;

ystyr "ffurf electronig" ("electronic form") yw ffurf y gellir ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur neu oddi wrtho, a'i darllen drwy ddefnyddio cyfrifiadur;

ystyr "ffurflen apêl" ("appeal form") yw dogfen y dygir apêl drwyddi;

ystyr "map dros dro" ("provisional map") yw map a ddyroddir gan y Cyngor mewn ffurf dros dro o dan adran 5(d) neu 5(e) o'r Ddeddf;

ystyr "map terfynol" ("conclusive map") yw map a ddyroddir gan y Cyngor mewn ffurf derfynol o dan adran 9 o'r Ddeddf;

mae "person" ("person") a "phersonau" ("persons") yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff nad ydynt wedi'u hymgorffori;

ystyr "person â diddordeb" ("interested person") yw person (heblaw'r apelydd neu'r atebydd) sydd wedi gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag apêl, onid yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol bod y sylw penodol wedi'i wneud yn wacsaw neu'n flinderus;

ystyr "person penodedig" ("appointed person") yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 8 o'r Ddeddf;

ystyr "personau â hawl i gymryd rhan" ("persons entitled to take part") yw'r personau hynny a bennir felly yn rheoliadau 13 a 23, fel y bo'n briodol;

ystyr "Rheoliadau Mapiau Dros Dro" ("the Provisional Maps Regulations") yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Mapiau Terfynol) (Cymru) 2002( 2)

ystyr "terfynau amser perthnasol" ("relevant time limits") yw'r terfynau amser a bennir gan y Rheoliadau hyn neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi arfer ei bw er o dan reoliad 31 i estyn yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, y terfynau hynny fel y'u hestynnwyd;

ystyr "tir adran 4(2)" ("section 4(2) land") yw'r tir comin cofrestredig a'r tir agored y mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi mapiau yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf mewn perthynas ag ef;

mae i "tir agored" yr ystyr a roddir i "open country" gan adran 1(2) o'r Ddeddf;

mae i "tir comin cofrestredig" yr ystyr a roddir i "registered common land" yn adran 1(3) o'r Ddeddf;

ystyr "ymchwiliad" ("inquiry") yw ymchwiliad lleol cyhoeddus.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni phennir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn w yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â thrannoeth nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Rhan II

CYFNODAU CYCHWYNNOL YR APELAU

Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law

3. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol resymol ar ôl iddo gael ffurflen apêl wedi'i chwblhau, anfon copi ohoni at yr atebydd.

Ymateb gan atebydd i apêl

4. - (1) Rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

(a) datganiad sy'n cynnwys rhywbeth i ddangos a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, ei seiliau dros wneud hynny;(b) copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd;(c) mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, copi o ddarn o fap sy'n dangos y rhan honno o'r map dros dro y mae'n berthnasol iddi;(ch) copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â phenderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn berthnasol iddi; a(d) unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.

(2) Pan fydd yr atebydd wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (1), rhaid i'r atebydd, cyn i'r cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliad 5(2) ddirwyn i ben, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

(a) datganiad yn cadarnhau a fydd yn gwrthwynebu'r apêl;(b) datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad, ac(c) unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.

Hysbysu'r partïon o'r weithdrefn apêl

5. - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn gynt na diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), roi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o'r ffurf y mae'r apêl i'w chymryd.

(2) Rhaid peidio â rhoi hysbysiad o dan baragraff (1):

(a) cyn bod 21 diwrnod yn dirwyn i ben o'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu'r hysbysiadau a roddwyd neu a gyhoeddwyd o dan reoliad 6(1) neu (b) fel y dyddiad erbyn pryd y gellid gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol; neu(b) yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ôl i dri mis ddirwyn i ben o ddyddiad dyroddir map dros dro y mae'r apêl yn berthnasol iddo,

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(3) Rhaid bod yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) wedi'i ddyddio a rhaid iddo ddatgan a yw'r apêl i gymryd ffurf;

(a) ymchwiliad lleol;(b) gwrandawiad; neu(c) nid (a) na (b), a chan hynny caiff ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(4) Y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) yw'r "dyddiad cychwyn" at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r apêl y mae'n cyfeirio ati a rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw.

(5) Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT