Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2003/142 (Cymru) |
2003Rhif 142 (Cy.14)
CEFN GWLAD, CYMRU
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003
28 Ionawr 2003
1 Mawrth 2003
TREFN Y RHEOLIADAU
Rhan I
CYFFREDINOL
1. |
Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
Rhan II
GWAHARDD NEU GYFYNGU MYNEDIAD YN ôL DISGRESIWN
3. |
Gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y person â hawl |
4. |
Cyfyngu mynediad â chw n |
Rhan III
GWAHARDD NEU GYFYNGU MYNEDIAD YN ôL CYFARWYDDYD YR AWDURDOD PERTHNASOL
5. |
Ceisiadau am gyfarwyddiadau yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad |
6. |
Ymgynghori gan awdurdod perthnasol cyn rhoi cyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad |
7. |
Ymgynghori mewn perthynas â chyfarwyddiadau yn dirymu neu'n amrywio cyfarwyddiadau sy'n bodoli eisoes |
8. |
Ystyried sylwadau |
9. |
Penderfyniadau gan awdurdod perthnasol a ddylid rhoi cyfarwyddyd |
10. |
Ffurf ar gyfarwyddiadau yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad |
11. |
Rhoi cyfarwyddyd |
12. |
Cyhoeddi penderfyniadau ar gyfarwyddiadau |
Rhan IV
HYSBYSU O GYFNODAU GWAHARDD A CHYFYNGU
13. |
Hysbysu o waharddiad neu gyfyngiad |
Rhan V
HYSBYSU'R CYHOEDD
14. |
Hysbysu'r cyhoedd o waharddiad neu gyfyngiad |
Rhan VI
CYFARWYDDIADAU GAN YR YSGRIFENNYDD GWLADOL
15. |
Cymhwyso'r Rheoliadau hyn i gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol |
Rhan VII
APELAU
16. |
Apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol |
17. |
Rhoi effaith i'r penderfyniad ar apêl |
18. |
Gweithdrefnau apelau |
Rhan VIII
AMRYWIOL
19. |
Defnyddio cyfathrebiad electronig |
20. |
Disgrifiad o dir |
Atodlen 1 |
Y cyrff sydd i'w hysbysu yn unol â rheoliad 6(2) |
Atodlen 2 |
Diwygiadau i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 23(1) a (2), 32 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000( 1) a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:
Rhan I
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn:
mae i "apêl" ("appeal") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 16;
ystyr "apelydd" ("appellant") yw'r person sy'n dwyn apêl yn unol â rheoliad 16;
ystyr "asiant" ("agent") yw unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran person arall gydag awdurdod y person hwnnw;
mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a briodolir i "electronic communication" yn adran 15 (1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000( 2);
ystyr "cyfnod apêl" ("appeal period") yw'r cyfnod o chwe wythnos o ddyddiad y penderfyniad sy'n arwain at yr apêl neu, os yw'r penderfyniad hwnnw yn benderfyniad i roi cyfarwyddyd, o ddyddiad y cyfarwyddyd;
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu wyl banc; ac mae hysbysiad sy'n cael ei roi ar ôl 4.30pm ar ddiwrnod gwaith i'w drin fel petai wedi'i roi ar y diwrnod gwaith nesaf;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
ystyr "fforwm mynediad lleol perthnasol" ("relevant local access forum") yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf y mae'r ardal y mae'n gweithredu ynddi yn cynnwys y tir y mae cyfarwyddyd neu gyfarwyddyd arfaethedig yn berthnasol iddo;
ystyr "ffurlen apêl" ("appeal form") yw dogfen sy'n cynnwys, pan fydd wedi'i chwblhau, yr wybodaeth a ddynodir yn rheoliad 16(5);
ystyr "hawl mynediad" ("right of access") yw hawl y cyhoedd, mewn perthynas â thir mynediad, a honno'n hawl a roddwyd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf; ac
mae "person" ("person") a "personau" ("persons") yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff anghorfforedig.
(2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
(3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac, os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn wyl banc neu'n ddydd sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, mae'r gofyniad i fod yn gymwys fel petai'r cyfeiriad at y dydd hwnnw yn gyfeiriad at y dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r mathau o ddyddiau a grybwyllwyd uchod.
Rhan II
GWAHARDD NEU GYFYNGU MYNEDIAD YN ôL DISGRESIWN
Gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y person â hawl
3. - (1) Rhaid i berson â hawl sy'n dymuno gwahardd neu gyfyngu mynediad i ddarn o dir mynediad o dan adran 22 o'r Ddeddf (gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y perchennog ac eraill) gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn er mwyn gwneud hynny.
(2) Rhaid i berson â hawl roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad ysgrifenedig, y mae'n rhaid iddo gynnwys:
(a) enw, cyfeiriad a chod post y person â hawl;(b) os yw'r person â hawl yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;(c) datganiad o natur buddiant y person â hawl yn y tir;(ch) disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;(d) datganiad a yw'r person â hawl yn dymuno gwahardd mynediad neu, fel arall, ei gyfyngu ac, os yw am ei gyfyngu, manylion y cyfyngiad; ac(dd) y dyddiadau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r person â hawl yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ar y diwrnod hwnnw.(3) Oni fydd paragraff (4) neu (6) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig er mwyn iddo ddod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod y mae unrhyw waharddiad neu gyfyngiad i fod yn weithredol arNo.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys:
(a) os yw'r person â hawl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) ond nad yw'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o'r paragraff hwnnw; a(b) os oes o leiaf bum diwrnod wedi mynd heibio ers i'r hysbysiad hwnnw ddod i law'r awdurdod perthnasol.(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, caiff y person â hawl wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol â'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4)(a) a'r hysbysiad pellach y cyfeiriwyd ato yn y paragraff hwn drwy roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o baragraff (2), yn ysgrifenedig neu ar lafar (gan gynnwys dros y ffôn), fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol ar y diwrnod gwaith olaf cyn y bwriedir i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad fod yn gymwys neu cyn hynny.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r awdurdod perthnasol:
(a) wedi cael hysbysiad, boed ysgrifenedig neu beidio, a hwnnw'n hysbysiad sy'n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) i (dd) o baragraff (2);(b) wedi penderfynu nad oedd yn rhesymol arferol i'r person â hawl gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) o'r rheoliad hwn; ac(c) yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r person â hawl, neu os oedd y person â hawl wedi rhoi hysbysiad drwy asiant, i'r asiant hwnnw.(7) Os yw paragraff (6) yn gymwys, mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i ddod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (6)(c) i'r person â hawl neu asiant y person â hawl, yn ôl fel y digwydd.
(8) Cyn gynted â phosibl ar ôl dod i benderfyniad yn unol â pharagraff (6)(b), rhaid i awdurdod perthnasol, oni bai ei fod eisoes wedi gwneud hynny drwy'r cyfathrebiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (7), gadarnhau'r penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig i'r person â hawl.
(9) Caiff person â hawl sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) ond nad yw bellach yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad y mae'n berthnasol iddo ddod yn weithredol, roi, yn ddarostyngedig i baragraff (10), hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno i'r awdurdod perthnasol ac, os bydd yr hysbysiad hwnnw yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod yr oedd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys, ni fydd effaith wedyn i'r hysbysiad gwreiddiol.
(10) Nid yw paragraff (9) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir os yw'r person â hawl, ers 1 Ionawr yn y flwyddyn honno, eisoes wedi rhoi pum hysbysiad i'r awdurdod perthnasol dan sylw o dan y paragraff hwnnw mewn perthynas â'r tir hwnnw neu dir sy'n cynnwys y tir hwnnw.
Cyfyngu mynediad â chw n
4. - (1) Rhaid i berchennog tir mynediad sy'n dymuno cyfyngu hawl mynediad i ddarn o'r tir mynediad hwnnw o dan adran 23 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar gwn yn ôl disgresiwn y perchennog) gydymffurfio, er mwyn gwneud hynny, â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r perchennog roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad, y mae'n rhaid iddo gynnwys:
(a) enw, cyfeiriad a chod post y perchennog;(b) os yw'r perchennog yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw;(c) datganiad o natur buddiant y perchennog yn y tir;(ch) disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir hwnnw a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir;(d) datganiad a yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, adran 23(2) o'r Ddeddf; ac(dd) y dyddiadau y mae'r gwahoddiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r perchennog yn dymuno i'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod,...To continue reading
Request your trial