Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017
Citation | WSI 2017/362 (W88) (Cymru) |
2017 Rhif 362 (Cy. 88)
Caffael Tir, Cymru
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017
Gwnaed 8th March 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14th March 2017
Yn dod i rym 6th April 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 21, 4 a 6 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 19812, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prynu tir yn orfodol yng Nghymru.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “deddfiad arbennig” (“special enactment”) yw—
(a) Deddf leol neu breifat sy’n awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno, neu
(b) darpariaeth sydd—
(i) wedi ei chynnwys mewn Deddf ac eithrio Deddf leol neu breifat, a
(ii) yn awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981; ac
ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw gorchymyn sy’n darparu bod y Ddeddf i fod yn gymwys i brynu tir yn orfodol y mae’n ei awdurdodi fel petai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae pryniant gorfodol wedi ei awdurdodi—
(a)
(a) gan orchymyn prynu gorfodol, ar y diwrnod y caiff y gorchymyn ei gadarnhau gan Weinidog neu Weinidogion Cymru neu awdurdod arall, neu ei wneud gan Weinidog neu Weinidogion Cymru;
(b)
(b) gan orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 19924, ar y diwrnod y mae’r Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru yn penderfynu gwneud y gorchymyn o dan adran 13(1) o’r Ddeddf honno;
(c)
(c) gan orchymyn adolygu harbwr, gorchymyn grymuso harbwr neu orchymyn cau harbwr o dan Ddeddf Harbyrau 19645, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan y Gweinidog priodol6neu Weinidogion Cymru neu berson sydd wedi ei ddynodi mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 42A7o’r Ddeddf honno;
(d)
(d) gan unrhyw orchymyn perthnasol arall, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan Weinidog neu Weinidogion Cymru; neu
(e)
(e) gan ddeddfiad arbennig8, ar y diwrnod y deddfir y deddfiad arbennig.
Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â datganiadau breinio cyffredinol
3.—(1) Mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 —
(a)
(a) at ddibenion adran 4(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 1;
(b)
(b) at ddibenion adran 6(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig hysbysiad sy’n pennu’r tir ac sy’n datgan effaith datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 2.
(2) Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ffurflen â rhif yn gyfeiriadau at y ffurflen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen neu at ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg...
To continue reading
Request your trial