Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2002

JurisdictionUK Non-devolved

2002Rhif 1882 (Cy.191)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2002

18 Gorffennaf 2002

26 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 43D a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 1) ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ( 2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2002 a deuant i rym ar 26 Awst 2002.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -

ystyr "achos o dwyll" ("fraud case") yw achos pan fo person yn bodloni'r ail amod ar gyfer tynnu enw oddi ar y rhestr feddygol, a nodwyd yn adran 49F(3) neu'n cael ei drin fel ei fod drwy rinwedd adran 49H;

ystyr "atal dros dro" ("suspended") yw -

(a) atalwyd dros dro gan Awdurdod Iechyd o dan adran 49I neu 49J neu o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 28DA neu 43D, neu adran 8ZA o'r Ddeddf Gofal Sylfaenol,(b) atalwyd dros dro gan y Tribiwnlys,(c) mewn perthynas â'r Alban a Gogledd Iwerddon, atalwyd dros dro o dan ddarpariaethau mewn grym sy'n cyfateb i'r rheini yn adrannau 49I neu 49J,

a chaiff ei drin fel pe bai'n cynnwys achos pan fo person yn cael ei drin fel ei fod wedi'i atal dros dro gan Awdurdod Iechyd yng Nghymru trwy rinwedd rheoliad 6(2) o'r Rheoliadau Diddymu Tribiwnlys;

a dylid dehongli "atal dros dro" ("suspends") ac "ataliad dros dro" ("suspension") yn unol â hynny;

ystyr "Cofrestrydd Practis Cyffredinol" ("General Practice (GP) Registrar") yw meddyg sy'n cael ei hyfforddi mewn practis cyffredinol gan feddyg y mae ei enw wedi'i gynnwys ar restr feddygol;

ystyr "corff cyfatebol" ("equivalent body") yw Awdurdod Iechyd yn Lloegr, Bwrdd Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS yn yr Alban neu Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon;

ystyr "corff trwyddedu neu reoleiddiol" ("licensing or regulatory body") yw'r corff sy'n trwyddedu neu'n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae'r meddyg yn, neu wedi bod yn aelod ohono, ac mae'n cynnwys corff cymwys addysgol GP;

ystyr "cyflogaeth" ("employment") yw unrhyw gyflogaeth p'un a yw hwnnw'n gyflogedig neu'n anghyflogedig a ph'un ai o dan gontract am wasanaethau neu gontract gwasanaeth, a dylid dehongli "cyflogedig" a "chyflogwr" yn unol â hynny;

ystyr "cyfarwyddwr" ("director") yw -

(a) cyfarwyddwr corff corfforaethol; neu(b) aelod y corff o bobl sy'n rheoli corff corfforaethol (p'un a ydyw hwnnw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);

ystyr "datgymhwysiad cenedlaethol" ("a national disqualification") yw -

(a) penderfyniad a wnaed gan yr FHSAA mewn perthynas â meddyg o dan adran 49N,(b) penderfyniad o dan ddarpariaethau sydd mewn grym yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy'n cyfateb i adran 49N,(c) penderfyniad gan y Tribiwnlys sy'n cael ei drin fel datgymhwysiad cenedlaethol gan yr FHSAA trwy rinwedd rheoliad 6(4) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys,(ch) penderfyniad gan y Tribwnlys;

ystyr "Deddf Feddygol" ("Medical Act") yw Deddf Feddygol 1983( 3);

ystyr "Deddf Gofal Sylfaenol" ("Primary Care Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997( 4);

ystyr "Diddymu Rheoliadau'r Tribiwnlys" ("Abolition of the Tribunal Regulations") yw Rheoliadau Diddymu Tribiwnlys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2002( 5);

ystyr "digwyddiadau a arweiniodd" ("originating events") yw digwyddidiadau sydd wedi arwain at yr euogfarn, ymchwiliad, achosion, atal dros dro, gwrthod cynnwys, cynnwys yn amodol, tynnu neu dynnu'n amodol a gymerodd le;

ystyr "FHSAA" yw Awdurdod Apelio Gwasanaethau Iechyd Teulu a gyfansoddwyd o dan adran 49S;

ystyr "Gwasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol" ("the National Health Service Counter Fraud Service") yw'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddelio ag ymholiadau ac ymchwiliadau mewn perthynas ag unrhyw honiadau o dwyll neu lygredd yn y gwasanaeth iechyd( 6));

ystyr "meddyg" ("doctor") yw ymarferydd meddygol cyffredinol;

ystyr "yr NCAA" ("the NCAA") yw'r Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol a sefydlwyd fel Awdurdod Iechyd Arbennig o dan adran 11( 7);

ystyr "Pwyllgor Gweithrediadau Rhagarweiniol" ("Professional Conduct Committee") yw Pwyllgor Gweithrediadau Rhagarweiniol y Cyngor Meddygol Cyffredinol a gyfansoddwyd o dan adran 1(3) o'r Ddeddf Feddygol;

ystyr "Pwyllgor Iechyd" ("Health Committee") yw Pwyllgor Iechyd y Cyngor Meddygol Cyffredinol a gyfansoddwyd o dan adran 1(3) o Ddeddf Feddygol 1983;

ystyr "Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol" ("Professional Conduct Committee") yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol y Cyngor Meddygol Cyffredinol a gyfansoddwyd o dan adran 1(3) o'r Ddeddf Feddygol;

ystyr "rhestrau cyfatebol" ("equivalent lists") yw rhestrau sy'n cael eu cadw gan gorff cyfatebol;

ystyr "rhestr wasanaethau" ("services list") yw rhestr a baratowyd o dan adran 28DA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 neu o dan adran 8ZA o'r Ddeddf Gofal Sylfaenol;

ystyr "rhif cofrestru proffesiynol" ("professional registration number") yw'r rhif gyferbyn ag enw'r meddyg yn y gofrestr sy'n cael ei chynnal gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, gyda ôl-ddodiad y cod cyfundrefnol a roddwyd i'r Awdurdod Iechyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae'r meddyg wedi cael ei gynnwys ynddi( 8);

ystyr "y Tribiwnlys" ("the Tribunal") yw'r Tribiwnlys a gyfansoddwyd o dan adran 46( 9) ar gyfer Cymru a Lloegr;

dylid dehongli "tynnu'n amodol" ("contingent removal") yn unol ag adran 49G;

mae "ymddygiad proffesiynol" ("professional conduct") yn cynnwys materion sy'n gysylltiedig ag ymddygiad proffesiynol a pherfformiad proffesiynol;

(2) Mae pob cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 oni nodir fel arall.

(3) Oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -

(a) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn:(i) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn,(ii) at Ran neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at Ran neu Atodlen, sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, a(b) unrhyw gyfeiriad mewn Rheoliad neu Atodlen i'r Rheoliadau hyn at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu atodlen hwnnw.

Rhestr atodol

3. - (1) Bydd Awdurdod Iechyd yn paratoi ac yn cyhoeddi rhestr atodol o bob meddyg sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Iechyd at ddibenion cynorthwyo â darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw feddyg y mae ei enw wedi'i gynnwys ynddi, bydd y rhestr hefyd yn cynnwys -

(a) enw llawn y meddyg;(b) rhif cofrestru proffesiynol;(c) dyddiad geni y meddyg, os yw'r meddyg yn cydsynio, neu os nad ydyw, y dyddiad pan gofrestrodd y meddyg am y tro cyntaf ar y Gofrestr Feddygol; ac(ch) y dyddiad pan gynhwyswyd enw'r meddyg ar y rhestr.

(3) Bydd y rhestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.

Cais i gynnwys enw yn y rhestr atodol

4. - (1) Bydd cais gan feddyg i gynnwys enw'r meddyg ar y rhestr atodol yn cael ei wneud drwy anfon cais ysgrifenedig i'r Awdurdod, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2).

(2) Bydd y meddyg yn darparu'r wybodaeth ganlynol -

(a) enw llawn;(b) rhyw;(c) dyddiad geni;(ch) cyfeiriad a rhif ffôn preifat;(d) cymwysterau meddygol a phan fo'n bodoli, gopi o dystiolaeth ynghylch cymwysterau a phrofiad y ceisydd a gyflwynwyd yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) 1997( 10);(dd) datganiad bod y meddyg yn ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru yn llawn sydd wedi'i gynnwys yn y Gofrestr Feddygol;(e) rhif cofrestru proffesiynnol a dyddiad y cofrestriad cyntaf;(f) manylion profiad proffesiynol (gan gynnwys dyddiadau cychwyn a gorffen pob apwyntiad ynghyd ag esboniad am unrhyw fylchau rhwng penodiadau) wedi'u rhannu yn:(i) profiad o bractis cyffredinol (p'un ai fel penadur, cynorthwy-ydd neu ddirprwy),(ii) apwyntiadau ysbyty,(iii) arall (gan gynnwys profiad obstetrig),(iv) unrhyw fanylion ychwanegol perthnasol eraill, gan gynnwys esboniad ynghylch pam gafodd y meddyg ei ddiswyddo o unrhyw swydd;(ff) enwau a chyfeiriadau dau ganolwr sy'n barod i ddarparu tystlythyron clinigol sy'n gysylltiedig â dwy swydd ddiweddar (allai gynnwys unrhyw swydd bresennol) fel meddyg a barodd am o leiaf dri mis heb doriad sylweddol, a lle nad oes modd gwneud hyn, esboniad llawn a chanolwyr eraill;(g) manylion unrhyw restr Awdurdod Iechyd neu restrau cyfatebol y mae'r meddyg wedi cael ei enw wedi'i dynnu oddi arni, wedi'i dynnu'n amodol, neu y mae'r meddyg wedi cael ei wrthod rhag cael ei gynnwys arni neu wedi'i gynnwys yn amodol, neu y mae'r meddyg wedi'i atal dros dro ohoni, ynghyd ag esboniad ynghylch pam, neu fanylion unrhyw gais nas penderfynwyd arno (gan gynnwys ceisiadau a ohiriwyd);(ng) os yw'r ymgeisydd yn gyfarwyddwr unrhyw gorff corfforaethol sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw restr o unrhyw Awdurdod Iechyd, neu restrau cyfatebol, neu y mae ganddo gais sydd dal heb ei benderfynu (gan gynnwys cais a ohiriwyd) ar gyfer cynnwys ei enw mewn unrhyw restr gan unrhyw Awdurdod Iechyd neu restr cyfatebol, enw a swyddfa gofrestredig unrhyw gorff o'r fath, a manylion yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol dan sylw;(h) pan fo'r meddyg, neu pan fu yn y chwe mis blaenorol, neu y bu hyd y gw yr y meddyg ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, manylion unrhyw restr Awdurdod Iechyd neu restrau cyfatebol y cafodd y corff hwnnw ei wrthod rhag ymuno, ei gynnwys yn amodol, ei dynnu, ei dynnu'n amodol neu y mae wedi'i atal dros dro ar hyn o bryd, gydag esboniad am hynny;(i) unrhyw wybodaeth arall y byddai'n rhesymol i'r Awdurdod Iechyd fod wedi gofyn amdani er mwyn penderfynu ar gais y meddyg.

(3) Bydd y meddyg yn darparu'r ymgymeriadau ac yn rhoi caniatâd i'r...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT