Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/1359 (Cymru)
Year2001

2001 Rhif 1359 (Cy.87)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001

29 Mawrth 2001

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(2), 35(1), 36(1), 78, 79A, 83A, 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2) Yn y Rheoliadau hyn -

ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992(2);

ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989(3).

(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992

2. Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraff 1 a 2, yn lle "£230" rhowch "£260".

Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 1989

3. - (1) Mae rheoliad 3 o Reoliadau 1989 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

(2) Ar ôl paragraff 2(e) ychwanegwch -

" (f) Subject to regulation 5A, the clinical examination and any report on that examination where, on the day upon which the examination is performed the patient -

(i) is under the age of 25 years; or(ii) has attained the age of 60 years."

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1989

4. - (1) Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 1989 mewnosodwch y rheoliad newydd canlynol -

"5A.Conditions of entitlement under regulation 3(2)(f)

(1) It is a condition of entitlement under regulation 3(2)(f) that -

(a) a written declaration, on a form provided for that purpose by the National Assembly for Wales, shall be made to the effect that the patient is, on the day upon which the examination takes place, within one of the categories specified in regulation 3(2)(f); and(b) where the National Assembly for Wales so requires, evidence of entitlement shall be supplied by or on behalf of the patient.

(2) The declaration referred to in paragraph (1)(a) shall be made by the patient for whom the examination will be provided, except that where the application is made by another person on the patient's behalf, it shall be made...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT