Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020
Jurisdiction | Wales |
2020 Rhif 113 (Cy. 20)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020
Gwnaed 3rd February 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4th February 2020
Yn dod i rym 4th February 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6:00 p.m. 4 Chwefror 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989
2. Yn Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 19892, yn Rhan 4 (clefydau eraill), ar ôl “Pandemic influenza (influenza caused by a new virus subtype that has an increased and sustained transmission during a global outbreak of influenza)” mewnosoder y cofnod a ganlyn—
“Wuhan novel coronavirus (2019-nCoV).”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y Prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
Mae rheoliad 1 yn cynnwys darpariaethau cychwyn a chymhwyso.
Mae rheoliad 2 yn mewnosod “Wuhan novel coronavirus (2019-nCoV)” yn Atodlen 1 i’r Prif Reoliadau at ddiben creu esemptiad newydd rhag ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer unrhyw ymwelydd tramor y mae angen triniaeth arno ar gyfer coronafeirws newydd Wuhan (2019-nCoV).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
To continue reading
Request your trial