Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2016/217 (W86) (Cymru) |
Year | 2016 |
2016 Rhif 217 (Cy. 86)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016
Gwnaed 23th February 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25th February 2016
Yn dod i rym 18th March 2016
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad at offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mawrth 2016.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015
Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 20153wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Yn rheoliad 16(3)(a) ar ôl “perthi” mewnosoder “a stribedi coediog”.
Mae rheoliad 17 wedi ei ddirymu.
Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—
“Cronfa genedlaethol
18.—(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn sefydlu cronfa genedlaethol, yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
(2) Bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r gronfa genedlaethol, yn ôl y drefn flaenoriaeth a ganlyn—
(a)
(a) i ddyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr ifanc ac i ffermwyr sy’n dechrau eu gweithgarwch amaethyddol, yn unol ag Erthygl 30(6) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
(b)
(b) i ddyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr a rwystrwyd rhag cael hawliau i daliadau wedi eu dyrannu iddynt o dan y cynllun taliad sylfaenol o ganlyniad i force majeure neu amgylchiadau eithriadol, yn unol ag Erthygl 30(7)(c) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
(c)
(c) i ymdrin â’r anghenion blynyddol am daliadau i ffermwyr ifanc, yn unol ag Erthygl 30(7)(f) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol; a
(d)
(d) i gynyddu’n llinol, ar sail barhaol, werth yr holl hawliau i daliadau o dan y cynllun taliad sylfaenol os yw’r gronfa genedlaethol yn fwy na 0.5% o’r terfyn cenedlaethol blynyddol ar gyfer y cynllun taliad sylfaenol, yn unol ag Erthygl 30(7)(e) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
Taliad am arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd
19.—(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi’r taliad am arferion amaethyddol sy’n...
To continue reading
Request your trial