Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

JurisdictionWales
CitationWSI 2022/23 (W11) (Cymru)

2022 Rhif 23 (Cy. 11)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022

Gwnaed 7th January 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12th January 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 23(1), 112, 131 a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(D1.

Yn unol ag adran 23(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.

1 CYFLWYNIAD

RHAN 1

CYFLWYNIAD

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym2.

S-2 Dehongli

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

(2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

2 DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

RHAN 2

DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

S-3 Mae rheoliadau 4 i 9 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn...

3. Mae rheoliadau 4 i 9 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol â chymorth fel telerau atodol.

S-4 Defnydd o’r annedd

Defnydd o’r annedd

4. Ni chaniateir i ddeiliad y contract gynnal neu ganiatáu unrhyw fasnach neu fusnes yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.

S-5 Meddianwyr a ganiateir nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid

Meddianwyr a ganiateir nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid

5. Caiff deiliad y contract ganiatáu i bobl nad ydynt yn lletywyr neu’n isddeiliaid fyw yn yr annedd fel cartref.

S-6 Newidiadau i’r ddarpariaeth o gyfleustodau i’r annedd

Newidiadau i’r ddarpariaeth o gyfleustodau i’r annedd

6.—(1) Caiff deiliad y contract newid unrhyw un neu ragor o’r cyflenwyr i’r annedd o—

(a)

(a) gwasanaethau trydan, nwy neu danwydd arall, neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth);

(b)

(b) gwasanaethau ffôn, rhyngrwyd, teledu cebl neu deledu lloeren.

(2) Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newidiadau a wnaed yn unol â pharagraff (1).

(3) Oni bai bod y landlord yn cydsynio, ni chaniateir i ddeiliad y contract—

(a)

(a) gadael yr annedd, ar ddiwedd y contract meddiannaeth, heb gyflenwr trydan, nwy neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) neu wasanaethau dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), oni bai nad oedd y cyfleustodau hyn yn bresennol yn yr annedd ar y dyddiad meddiannu;

(b)

(b) gosod neu dynnu, neu drefnu i osod neu dynnu, unrhyw osodiadau gwasanaeth penodedig yn yr annedd.

(4) At ddibenion paragraff (3)(b), ystyr “gosodiadau gwasanaeth penodedig” yw gosodiad ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy neu drydan neu danwydd arall (os yw hynny’n gymwys) ar gyfer glanweithdra, gwresogi lle neu wresogi dŵr.

S-7 Diogelwch yr annedd

Diogelwch yr annedd

7. Os yw deiliad y contract yn dod yn ymwybodol bod yr annedd, neu y bydd yr annedd, yn wag am 28 neu fwy o ddiwrnodau yn olynol, rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

S-8 Rhwymedigaethau deiliad y contract pan fydd contract meddiannaeth yn dod i ben

Rhwymedigaethau deiliad y contract pan fydd contract meddiannaeth yn dod i ben

8. Pan fydd deiliad y contract yn gadael yr annedd pan ddaw’r contract meddiannaeth i ben, rhaid i ddeiliad y contract—

(a) symud o’r annedd yr holl eiddo sy’n berchen i—

(i) deiliad y contract, neu

(ii) unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd,

(b) dychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r landlord i’r safle lle yr oedd ar y dyddiad meddiannu, ac

(c) dychwelyd i’r landlord yr holl allweddi sy’n galluogi mynediad i’r annedd a ddaliwyd yn ystod cyfnod y contract gan ddeiliad y contract neu unrhyw feddiannydd a ganiateir nad oes ganddo’r hawl i barhau i feddiannu’r annedd.

S-9 Ad-dalu rhent neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben

Ad-dalu rhent neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben

9. Rhaid i’r landlord ad-dalu, o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl i’r contract meddiannaeth ddod i ben, i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl y dyddiad y daw’r contract i ben.

3 DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL O SAITH MLYNEDD NEU RAGOR A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

RHAN 3

DARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL O SAITH MLYNEDD NEU RAGOR A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

S-10 Mae rheoliadau 11 i 16 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn...

10. Mae rheoliadau 11 i 16 yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o saith mlynedd neu ragor a chontractau safonol â chymorth.

S-11 Cyfnodau pan nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi

Cyfnodau pan nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi

11. Nid yw’n ofynnol i ddeiliad y contract dalu rhent mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi3.

S-12 Derbynneb am rent neu gydnabyddiaeth arall

Derbynneb am rent neu gydnabyddiaeth arall

12. O fewn 14 o ddiwrnodau i gais gan ddeiliad y contract, rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract dderbynneb ysgrifenedig am unrhyw rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd o dan y contract meddiannaeth.

S-13 Gofalu am yr annedd

Gofalu am yr annedd

13. Nid yw deiliad y contract yn atebol am draul resymol i’r annedd na gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ond—

(a) rhaid iddo gymryd gofal priodol o’r annedd, y gosodiadau a’r ffitiadau yn yr annedd, neu unrhyw eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo,

(b) ni chaniateir iddo symud o’r annedd unrhyw osodiadau a ffitiadau nac unrhyw eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo heb gydsyniad y landlord,

(c) rhaid iddo gadw’r annedd wedi ei haddurno mewn cyflwr rhesymol, a

(d) ni chaniateir iddo gadw unrhyw beth yn yr annedd a fyddai’n peri risg iechyd a diogelwch i ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir, unrhyw bersonau sy’n ymweld â’r annedd neu unrhyw bersonau sy’n preswylio yng nghyffiniau’r annedd.

Atgyweiriadau

S-14 Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y...

14.—(1) Rhaid i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol fod y landlord yn gyfrifol amdano.

(2) Pan fo deiliad y contract yn credu’n rhesymol nad yw’r landlord yn gyfrifol am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau a restrir mewn unrhyw restr eiddo, rhaid i ddeiliad y contract, o fewn cyfnod rhesymol o amser, wneud atgyweiriadau i’r gosodiadau hynny a’r ffitiadau hynny neu’r eitemau eraill hynny a restrir mewn unrhyw restr eiddo, neu eu hamnewid.

(3) Mae’r amgylchiadau y mae paragraff (2) yn gymwys oddi tanynt yn cynnwys pan fo’r nam, y diffyg, y difrod neu’r adfeiliad wedi digwydd yn gyfan gwbl neu yn bennaf oherwydd gweithred neu anweithred sy’n gyfystyr â diffyg gofal4gan ddeiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir neu unrhyw berson sy’n ymweld â’r annedd.

S-15 O dan amgylchiadau pan na fo deiliad y contract wedi gwneud yr...

15.—(1) O dan amgylchiadau pan na fo deiliad y contract wedi gwneud yr atgyweiriadau hynny y mae ef yn gyfrifol amdanynt yn unol â rheoliad 14(2) a (3), caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben gwneud atgyweiriadau i’r gosodiadau a’r ffitiadau neu eitemau eraill a restrir mewn unrhyw restr eiddo, neu eu hamnewid.

(2) Ond rhaid i’r landlord roi i ddeiliad y contract rybudd o 24 awr o leiaf cyn mynd i’r annedd.

S-16 Argyfyngau: hawl y landlord i fynd i’r annedd

Argyfyngau: hawl y landlord i fynd i’r annedd

16.—(1) Os bydd argyfwng y bydd angen i’r landlord fynd i’r annedd heb rybudd o ganlyniad iddo, rhaid i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth.

(2) Os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad yn syth, caiff y landlord fynd i’r annedd heb ganiatâd deiliad y contract.

(3) Os bydd y landlord yn mynd i’r annedd yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r landlord wneud pob ymdrech resymol i hysbysu deiliad y contract ei fod wedi mynd i’r annedd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(4) At ddiben paragraff (1), mae argyfwng yn cynnwys—

(a)

(a) rhywbeth y mae angen gwneud gwaith brys o’i herwydd i atal yr annedd neu anheddau yn y cyffiniau rhag cael eu difrodi yn ddifrifol, eu difrodi ymhellach neu eu dinistrio, a

(b)

(b) rhywbeth a fyddai, pe nai bai’r landlord yn ymdrin ag ef yn syth, yn peri risg ar fin digwydd i iechyd a diogelwch deiliad y contract, unrhyw feddiannydd a ganiateir o’r annedd, neu bersonau eraill yng nghyffiniau’r annedd.

4 DARPARIAETH ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

RHAN 4

DARPARIAETH ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

S-17 Mae rheoliad 18 yn nodi darpariaeth atodol sydd, yn...

17. Mae rheoliad 18 yn nodi darpariaeth atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori ym mhob contract meddiannaeth heblaw contractau safonol cyfnod penodol a chontractau safonol â chymorth.

S-18 Hysbysiad tynnu’n ôl gan gyd-ddeiliaid contract: terfyn amser

Hysbysiad tynnu’n ôl gan gyd-ddeiliaid contract: terfyn amser

18. Y cyfnod amser lleiaf rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 111 ac adran 130...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT