Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2003/154 (Cymru)

2003Rhif 154 (Cy.24)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003

29 Ionawr 2003

31 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24(4), (5), (6) a (9), adran 38(1), (5) a (7) ac adran 39(1) a (3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002( 1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol -

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r geiriau a'r ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol -

(a) mae i "awdurdod lleol" yr ystyr a roddir i "local authority" yn adran 24 (9)(a) o Ddeddf 2002;(b) ystyr "corff GIG" ("NHS body") yw Awdurdod Iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Ymddiriedolaeth Gofal( 2);(c) ystyr "cyfnod gweithredol" ("operative period") yw'r cyfnod y caiff strategaeth ei llunio mewn perthynas ag ef;(ch) ystyr "Cynulliad" ("Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;(d) mae i "cyrff cyfrifol" yr ystyr a roddir i "responsible bodies" yn a.24(2) o Ddeddf 2002;(dd) ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002;(e) ystyr "grwp trefniant comisiynu" ("commissioning arrangement group") yw'r grwp sy'n cynnwys y cyrff cyfrifol ac Ymddiriedolaeth neu Ymddiriedolaethau GIG ac sydd wedi'i ddynodi mewn canllawiau a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad at ddibenion ymgymryd â threfniant comisiynu;(f) mae "gwasanaethau" ("services") yn cynnwys unrhyw swyddogaeth neu weithgaredd a fwriedir i hwyluso darparu unrhyw wasanaeth y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn, neu i fod yn ffafriol neu'n ategol iddi;(ff) ystyr "gwasanaethau gofal eilaidd" ("secondary care services") yw gwasanaethau ar gyfer neu mewn cysylltiad ag atal gwneud diagnosis neu drin salwch sy'n cael eu darparu yn bennaf mewn ysbyty neu o ysbyty (ac mae i'r geiriau "illness" a "hospital" yr ystyron a roddir iddynt gan adran 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977( 3));(g) ystyr "gwasanaethau iechyd a llesiant" ("health and well-being services") yw unrhyw wasanaethau sy'n cael eu darparu gan gorff GIG; unrhyw wasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol) sy'n cael eu darparu o dan neu mewn cysylltiad â swyddogaethau awdurdod lleol o dan Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970( 4), adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999( 5) neu reoliad 6 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000( 6); ac unrhyw wasanaeth tebyg sy'n cael eu darparu gan gorff gwirfoddol neu gorff arall;(ng) ystyr "poblogaeth leol" ("local population") yw aelodau o'r cyhoedd sydd fel arfer yn preswylio neu sydd yn bresennol yn ardal neu ardaloedd y cyrff cyfrifol (h) ystyr "strategaeth" ("strategy") yw strategaeth iechyd a llesiant o dan a. 24 (1) o Ddeddf 2002 (a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn fel strategaeth "iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant") ac mae'n cynnwys strategaeth ddrafft;(i) ystyr "swyddogaethau comisiynu" ("commissioning functions") yw unrhyw un o swyddogaethau'r cyrff cyfrifol neu unrhyw un ohonynt sy'n ymwneud â chynllunio, prynu neu fonitro cyflwyniad o unrhyw wasanaeth iechyd a llesiant;(j) ystyr "trefniant comisiynu" ("commissioning arrangement") yw trefniant rhwng y cyrff cyfrifol mewn grw p trefniant comisiynu i arfer eu swyddogaethau comisiynu mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal eilaidd ar y cyd ac i gydweithredu ac ymgynghori â'i gilydd mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau hynny.

Dyletswydd i gydweithredu gyda chyrff rhagnodedig

3. - (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r canlynol wrth lunio ac addasu eu strategaeth -

(a) yr Ymddiredolaeth neu Ymddiriedolaethau GIG sy'n darparu gwasanaethau i'r boblogaeth leol;(b) y Cyngor neu Gynghorau Iechyd Cymuned sy'n cynrychioli'r boblogaeth leol;(c) y Cyngor neu Gynghorau Gwirfoddol Sirol sy'n cefnogi cyrff gwirfoddol yn ardal neu ardaloedd y cyrff cyfrifol neu mewn unrhyw ran ohonynt, neu pan nad oes Cyngor o'r fath, unrhyw gorff arall o'r fath a allai fod yn cyflawni swyddogaethau tebyg i'r rhai sy'n cael eu cyflawni gan Gyngor o'r fath;(ch) y Cynulliad; a(d) unrhyw gorff preifat, busnes neu wirfoddol neu gorff arall sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r boblogaeth leol neu y mae ganddo fuddiant mewn darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r boblogaeth leol.

(2) Cyn llunio strategaeth neu wneud unrhyw weithred o dan Reoliad 4, rhaid i'r cyrff cyfrifol mewn ymgynghoriad â'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (1) baratoi gweithdrefn ar gyfer cydweithredu â phersonau a chyrff o'r fath.

Camau y mae'n rhaid i gyrff cyfrifol eu cymryd cyn llunio strategaeth

4. - (1) Cyn llunio strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol gynnal asesiad o anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol.

(2) Rhaid i asesiad o dan baragraff (1) gynnwys asesiad o'r materion a nodir yn rheoliad 5(2)(a) i (e) isod.

(3) Wrth gynnal asesiad o dan baragraff (1), rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r personau neu'r cyrff a restrir yn rheoliad 3(1) ac ymgynghori â'r canlynol -

(a) y boblogaeth leol; a(b) unrhyw bersonau neu sefydliadau eraill y mae'n ymddangos i'r cyrff cyfrifol eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT