Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002
Jurisdiction | UK Non-devolved |
2002Rhif 675 (Cy.72)
PYSGODFEYDD MôR, CYMRU
Y DIWYDIANT PYSGOD MôR
FFERMIO PYSGOD, CYMRU
Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002
12 Mawrth 2002
13 Mawrth 2002
MYNEGAI
Rheoliad |
1. |
Teitl, cychwyn a chymhwyso |
2. |
Dehongli |
3. |
Cymorth Ariannol |
4. |
Ceisiadau |
5. |
Cymeradwyo ceisiadau |
6. |
Y cymhwyster a cheisiadau i gael taliadau cymorth ariannol |
7. |
Dull talu'r cymorth ariannol |
8. |
Ymrwymiadau |
9. |
Gwybodaeth |
10. |
Cofnodion |
11. |
Arfer swyddogaethau gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr |
12. |
Cymorth i swyddogion awdurdodedig |
13. |
Pwerau swyddogion awdurdodedig |
14. |
Amddiffyn swyddogion |
15. |
Lleihau'r cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill |
16. |
Adennill Llog |
17. |
Tramgwyddo a chosbi |
18. |
Erlyn |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi( 1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972( 2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Mawrth 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dehongli
2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "amodau perthnasol" ("relevant conditions") yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7 isod;
ystyr "yr Awdurdod" ("the Authority") yw Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr;
ystyr "buddiolwyr" ("beneficiaries") yw ceiswyr y mae eu ceisiadau wedi'u cymeradwyo a dehonglir "buddiolwr" ("beneficiary") yn unol â hynny;
ystyr "cais" ("application") yw cais fel y'i disgrifir yn rheoliad 3(1) a dehonglir "ceisydd" ("applicant") yn unol â hynny;
ystyr "y Comisiwn" ("the Commission") yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;
mae i "cwch bysgota Gymunedol" yr ystyr a roddir i "Community fishing vessel" yn erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3760/92( 3) sy'n sefydlu system Gymunedol ar gyfer y pysgodfeydd a dyframaethu;
ystyr "cymeradwyaeth" ("approval") yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt (gan gynnwys unrhyw amodau a ddiwygiwyd neu a ychwanegwyd) a dehonglir "cymeradwyo" ("approve") ac "a gymeradwywyd" ("approved") yn unol â hynny;
ystyr "cymorth ariannol" ("financial assistance") yw unrhyw swm ar ffurf cymorth Cymunedol neu grant;
ystyr "cymorth Cymunedol" ("Community aid") yw cymorth tuag at y gwariant cymwys sydd ar gael o'r Offeryn Ariannol Cyfarwyddyd Pysgodfeydd ac sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae "diwygio" ("amend") yn cynnwys diddymu;
ystyr "dogfennau perthnasol" ("relevant documents") yw unrhyw anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;
ystyr "y ddeddfwriaeth Gymunedol" ("the Community legislation") yw -
(a) Rheoliad y Cyngor 1260/1999( 4);(b) Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1263/1999 ar Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd( 5);(c) Rheoliad y Cyngor 2792/1999( 6);(ch) Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/501( 7) ) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n pennu dyraniad dangosol ar gyfer ymrwymiadau'r Aelod-wladwriaethau ar gyfer Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;(d) Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/502( 8)dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n llunio'r rhestr o ranbarthau sy'n dod o dan Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;(dd) Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1685/2000( 9) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1260/1999 o ran cymhwyster gwariant gweithrediadau sy'n cael eu cydariannu gan y cronfeydd strwythurol;(e) Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 yng Nghymru;(f) Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 dyddiedig 27 Rhagfyr 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1;(ff) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 438/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch systemau rheoli ar gyfer cymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol ( 10); ac(g) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 448/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cywiriadau ariannol i gymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol ( 11)ystyr "grant" ("grant") yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;
ystyr "gwariant cymwys" ("eligible expenditure") yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth o dan reoliad 5;
ystyr "gweithfeydd" ("works") yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i geisio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;
ystyr "gweithrediad a gymeradwywyd" ("approved operation") yw gweithrediad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo o dan reoliad 5;
ystyr "gweithrediad perthnasol" ("relevant operation") yw buddsoddiad, project neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;
ystyr "LIBOR" ("LIBOR") mewn perthynas ag unrhyw ddydd penodol o'r mis, yw'r gyfradd llog yn y cant y mae Banc Lloegr wedi rhoi gwybod amdani i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis hwnnw, wedi'i dalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;
ystyr "offer perthnasol" ("relevant equipment") yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i geisio neu wedi'i dalu;
ystyr "Rheoliad y Cyngor 1260/1999" ("Council Regulation 1260/1999") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 sy'n nodi darpariaethau cyffredinol ynghylch cronfeydd strwythuro( 12) );
ystyr "Rheoliad y Cyngor 2792/1999" ("Council Regulation 2792/1999") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd( 13);ac
ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") yw person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig i fod yn swyddog
(a) gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu(b) at ddibenion arfer unrhyw swyddogaethau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddynt gael eu harfer ganddo o dan reoliad 11 isod, gan yr Awdurdod;ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn sydd wedi'i benodi'n briodol ac sy'n mynd ynghyd â swyddog awdurdodedig o'r fath.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, yr un ystyron ag yn y ddeddfwriaeth Gymunedol.
(3) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
(4) O dan amgylchiadau lle bo hynny'n briodol, rhaid trin unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y gellir ei wneud neu y tystir iddo yn ysgrifenedig neu fel arall drwy ddefnyddio dogfen, hysbysiad neu offeryn o dan unrhyw reoliad, fel pe bai'n cynnwys drwy gyfrwng electronig os oes trefniadau wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi defnyddio cyfrwng electronig neu i ddarparu ar gyfer defnyddio cyfrwng electronig.
Cymorth Ariannol
3. - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth Gymunedol a'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth Cymunedol ac, os yw'n penderfynu felly, grant i unrhyw berson -
(a) sydd wedi gwneud cais, er mwyn cael cymorth ariannol o'r fath, yn unol â rheoliad 4, am gymeradwyaeth - (i) i weithrediad perthnasol; a(ii) i wariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw; a(b) y mae ei gais wedi'i gymeradwyo felly.(2) Wrth benderfynu o dan baragraff (1) -
(a) a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol; a(b) swm unrhyw grant o'r fath y mae wedi penderfynu ei wneud,rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth fel y'u nodir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor 2792/1999.
Ceisiadau
4. - (1) Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar unrhyw ffurf, mewn unrhyw fodd ac ar unrhyw adeg, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a chan gael eu cyflwyno mewn unrhyw gyfeiriad y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt o dro i dro.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o dro i dro, bennu categorïau penodol o weithrediad perthnasol y gall ceisiadau gael eu gwneud mewn perthynas â hwy dros unrhyw gyfnod o amser a bennir ganddo.
(3) Rhaid i'r ceiswyr roi'r holl wybodaeth a'r holl ddogfennau pellach sy'n ymwneud â'r cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdanynt.
Cymeradwyo ceisiadau
5. - (1) Yn...
To continue reading
Request your trial