Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2001/1076 (Cymru)
Year2001

2001Rhif 1076 (Cy. 52)

TALIADAU CYMUNEDOL, CYMRU

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001

13 Mawrth 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 13(b) o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988( 1) a pharagraffau 1(1) a 13(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992( 2) a phob pŵ er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru( 3).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 .

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2001.

(3) Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y daw adran 90 (trosglwyddo swyddogaethau clercod i brif weithredwyr) o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 i rym( 4) ).

(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r Rheoliadau

2. - (1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, yn lle "stipendiary magistrate" rhowch "District Judge (Magistrates' Courts)"( 5).

(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:

(a) rheoliad 47(2) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989( 6);(b) rheoliad 21(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989( 7) ); ac(c) rheoliad 53(2) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992( 8).

3. - (1) Ym mhob un o'r darpariaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, yn lle "clerk of the court" rhowch "justices' chief executive for the court" ( 9) ).

(2) Dyma'r darpariaethau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt:

(a) rheoliad 52(4) o Reoliadau Taliadau Cymunedol (Gweinyddu a Gorfodi) 1989 ( 10);(b) rheoliad 23 (4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989( 11) ); ac(c) rheoliad 57(3) o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992( 12) ).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 13).

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2001

EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau, sy'n dod i rym yn unol â rheoliad 1, yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, yr...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT